Mae Andrew Salter, troellwr tîm criced Morgannwg, wedi cael ei wobrwyo fel rhan o gynllun i helpu cricedwyr i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl iddyn nhw ymddeol.
Mae Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol yn annog cricedwyr i feddwl am yrfa y tu hwnt i’r maes chwarae, gan wybod mai yn y gamp hon mae’r lefelau uchaf o hunanladdiad ymhlith cyn-chwaraewyr.
Mae’r chwaraewr o Sir Benfro yn un o saith cricedwr a chyn-gricedwr i gael eu gwobrwyo fel rhan o gynllun Gwobrau Dyfodol.
Ar ôl cyrraedd y rhestr fer, fe wnaeth e gyflwyniad gerbron panel o feirniaid, gan ddweud sut mae e wedi datblygu fel person yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, pam ddylai dderbyn y wobr, sut fyddai’n defnyddio’r arian a sut gall Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol helpu mwy o gricedwyr i fuddsoddi mewn dyfodol fel chwaraewyr a thu hwnt.
Busnes i feicwyr
Ac yntau’n ymddiddori mewn beiciau modur, mae Andrew Salter wedi mynd ati i sefydlu Baffle Culture ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer pobol sy’n rhannu ei ddiddordeb.
Yn ogystal, garej sydd wedi cael ei thrawsnewid yw Baffle Haus, canolfan i bobol sy’n ymddiddori mewn beiciau modur gyfarfod â’i gilydd.
Cyfrif Instagram yn unig oedd y cynllun ar y dechrau, ond mae ei fryd bellach ar ehangu’r safle ar ôl ennill y wobr ariannol, a’i droi’n gaffi yn y pen draw.
“Roedd yr holl brofiad o baratoi ar gyfer y cyflwyniad a’i gyflwyno, a dod i ffwrdd â’r brif wobr, jest yn wych,” meddai.
“Mae cael cefnogaeth Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol i ddilyn y fenter gyda Baffle Culture yn anhygoel, ac mae cael gweithio tuag at fywyd ar ôl criced sydd wedi’i ysgogi gan y peth dw i’n angerddol amdano yn rhywbeth dw i’n ei werthfawrogi’n fawr iawn.
“Dw i wir yn meddwl bod y wobr hon, nid yn unig yn ysgogi’r chwaraewyr sydd eisoes yn paratoi ar gyfer gyrfa ar ôl criced ond hefyd yn annog chwaraewyr sydd heb feddwl cymaint â hynny am y peth.
“Gyda’r cysylltiadau o fewn y gêm broffesiynol, mae yna gyfle gwych i archwilio opsiynau sy’n seiliedig ar eich diddordebau a’r pethau rydych chi’n angerddol amdanyn nhw y tu hwnt i’r cae criced.”