Mae Wyn Jones, prop pen tynn tîm rygbi Cymru, yn dweud bod y rheng flaen yn awyddus i fod yn “bositif yn y sgrym” wrth deithio i Iwerddon ddydd Sadwrn.
Fe fu amheuon am y sgrym yn dilyn y fuddugoliaeth swmpus o 42-0 dros yr Eidal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn diwethaf, ac roedd Wayne Pivac yn dweud nad oedd y garfan wedi gallu paratoi’n iawn ar yr elfen honno cyn y gêm gyntaf oherwydd y tywydd.
Doedden nhw ddim wedi bod yn ymarfer y sgrym cyn sesiwn ymarfer yn Stadiwm Principality ddiwedd yr wythnos, a hynny am fod caeau gwesty’r Vale yn rhy feddal.
Ond maen nhw wedi bod yn canolbwyntio ar yr elfen honno yr wythnos hon, yn ôl Wyn Jones, fydd yn chwarae yn y rheng flaen ochr yn ochr â Ken Owens a Dillon Lewis, gyda Rhys Elias, Rhys Carré a Leon Brown ymhlith yr eilyddion.
“Oedd e’n rhywbeth o’n ni heb roi lot o amser mewn iddo fe cyn yr wythnos hyn,” meddai.
“Ni wedi gwneud bach mwy wythnos hyn.
“Ni wedi gwneud ambell i change fach.
“Ni moyn bod yn bositif yn y sgrym, sefyll yn sgwâr a byddwn ni’n cymryd y reff ma’s o’r peth.”
Y gwrthwynebwyr a’r tywydd
Fe allai tywydd garw effeithio ar y gêm, yn enwedig yn ardal y dacl ac yn y chwarae gosod.
Ychwanegwch at hynny nad yw Cymru wedi curo Iwerddon ar eu tomen eu hunain ers 2012, ac mae Cymru’n debygol o wynebu cryn her, yn enwedig os daw’r tywydd garw sy’n cael ei ddarogan.
“Maen nhw’n dîm da pan bo nhw gartre’, a byddan nhw’n llond egni ond ni’n ddigon cyfforddus yn ein patrwm ni nawr, a ni’n edrych ymlaen at fynd ’na.
“Falle bydd rhaid i ni fod bach yn dynnach os bydd ystorom ond os y’n ni’n edrych nôl at flwyddyn diwetha’, o’dd y to ar agor yn y Principality ac o’n ni’n ddigon cyfforddus y diwrnod ’ny.
“So ni’n credu bydd y tywydd yn rhy wael i ni.”
Awyrgylch yn yr Aviva
Mae gan y Cymry a’r Gwyddelod berthynas dda fel cefndryd Celtaidd, ac mae Stadiwm Aviva yn debygol o fod dan ei sang a’r cefnogwyr yn groch ar y ddwy ochr.
Bydd hynny’n ychwanegu at yr achlysur, yn ôl Wyn Jones.
“Mae’r Aviva yn stadiwm neis a’r awyrgylch yn dda iawn.
“Fi wedi chwarae mewn ffeinal gyda’r Scarlets ’na felly mae digon o atgofion melys, felly fi’n edrych ymlaen.
“O’n ni’n hapus tu hwnt gyda’r fuddugoliaeth wythnos diwetha’, felly byddwn ni’n mynd yn llond excitement.
“Ni’n gwybod fod pob tîm yn dda. Ni moyn ennill pob gêm.
“Bydd lot o gefnogwyr ma’s ’na, fydd yn hwb enfawr i ni.
“Ni jyst yn cymryd pob gêm fel mae’n dod a gobeithio ennill ar y diwrnod.”