Mae tîm criced Morgannwg wedi colli eu gêm 50 pelawd gyntaf yng Nghwpan Metro Bank o bedair wiced oddi cartref yn erbyn Swydd Gaerwrangon.
Dim ond 199 sgoriodd y sir Gymreig, a chyrhaeddodd y Saeson y nod gydag wyth pelawd a hanner yn weddill o’u batiad, ac maen nhw bellach wedi ennill eu dwy gêm agoriadol, tra mai hon oedd gêm gyntaf Morgannwg yn y gystadleuaeth.
Cipiodd y troellwyr Josh Baker a Brett D’Oliveira bum wiced rhyngddyn nhw wrth i fatiad Morgannwg bara dim ond 40.2 o belawdau – yr unig gyfraniad o bwys oedd 82 gan Ben Kellaway, chwaraewr amryddawn 19 oed o Gasnewydd oedd yn chwarae ei gêm 50 pelawd gyntaf i’r sir.
Tarodd Azhar Ali 78 i Swydd Gaerwrangon wrth i’w dîm gyrraedd y nod yn gyfforddus.
Colli wicedi
Cafodd Morgannwg eu gwahodd i fatio’n gyntaf, a llwyddodd yr agorwr Tom Bevan i oroesi sawl gwaedd am goes o flaen y wiced yn y belawd gyntaf.
Ychwanegodd Bevan ac Eddie Byrom 36 mewn saith pelawd, cyn i Bevan yrru at Azhar Ali yn y slip oddi ar fowlio Ben Gibbon, gyda Colin Ingram wedyn yn cael ei redeg allan ben draw’r llain wrth i Byrom yrru’n syth.
Cipiodd Dillon Pennington ddwy wiced, gyda Byrom wedi’i fowlio oddi ar y bat cyn i Billy Root gael ei ddal gan y wicedwr yn y belawd ganlynol wrth i’r bêl wyro.
Yn nwylo Ben Kellaway a’r capten Kiran Carlson roedd tynged Morgannwg wedyn, a’r ddau yn edrych yn gyfforddus ar ôl i Kellaway oroesi daliad yn y slip, ac fe adeiladodd y pâr 65 mewn deuddeg pelawd.
Ond o’r fan honno, collodd Morgannwg eu chwe wiced olaf am 62 rhediad mewn 14.1 o belawdau, er i Kellaway gyrraedd ei hanner canred oddi ar 48 pelen ar ôl taro saith ergyd i’r ffin.
Collodd ei dîm wicedi’n rhy aml, serch hynny, oedd yn golygu ei bod hi’n anodd adeiladu momentwm.
Cwrso’n gyfforddus
Ar ôl i Brett D’Oliveira golli ei wiced wrth geisio gyrru at Harry Podmore a chael ei ddal yn y slip, daeth Azhar Ali a Rob Jones ynghyd i adeiladu partneriaeth o 100 mewn ugain pelawd i Swydd Gaerwrangon.
Roedd y ddau yn edrych yn ddigon cyfforddus, wrth iddyn nhw daro cyfres o ergydion i’r ffin, ond roedd Jones, sydd ar fenthyg o Swydd Gaerhirfryn cyn symud yn barhaol yn 2024, ar ei ffordd yn ôl i’r pafiliwn ar ôl camu i lawr y llain oddi ar fowlio Carlson a chael ei ddal gan Bevan ar y ffin.
Daeth batiad Azhar Ali i ben pan gafodd ei stympio i lawr ochr y goes oddi ar belen lydan gan Carlson.
Clatsio oedd nod Kashif Ali a Ben Cox wedyn, ond collodd y ddau eu wicedi i Carlson gyda dau ddaliad, tra bod Matthew Waite wedi’i ddal yn safle’r trydydd dyn.
Ond doedd y nod fyth am fod yn broblem i Swydd Gaerwrangon yn y pen draw.
Siom, ond canmoliaeth i’r to iau
“Ro’n i’n meddwl bod y bois wedi bowlio’n dda iawn yn yr ail fatiad, yn gywir ac yn dynn, ac wedi rhoi ychydig o bwysau ar fatwyr Swydd Gaerwrangon,” meddai David Harrison, y prif hyfforddwr ar gyfer y gystadleuaeth hon.
“Roedden ni ychydig rediadau’n brin yn y batiad cyntaf.
“Roedden ni am fowlio’n gyntaf hefyd, ac yn meddwl y byddai’n symud o gwmpas ychydig bach, ac mi wnaeth hi yn y deg pelawd gyntaf.
“Wnaethon ni ddim cweit cael y bartneriaeth fawr honno y bydden ni wedi’i hoffi, ac felly roedd cael 199 ychydig yn siomedig.
“Chwaraeodd Ben [Kellaway] yn anhygoel yn ei gêm gyntaf.
“Wnaeth e ddim dangos nerfau, ac aeth e allan fel chwaraewr proffesiynol profiadol. Dw i mor falch drosto fe.
“Dyna pam ein bod ni’n rhoi cyfleoedd i’r bois yn y gystadleuaeth hon, ac mae’n dangos beth maen nhw’n gallu ei wneud.
“Cafodd Ben Morris flas ar griced tîm cyntaf yn erbyn chwaraewyr da ar lain dda, a chafodd Alex Horton ei ymddangosiad cyntaf yn y gystadleuaeth 50 pelawd.
“Dw i wedi cyffroi’n fawr ynghylch y saith gêm nesaf.
“Mae gyda ni gyfuniad da o ieuenctid a phrofiad.”