Bydd tîm criced Morgannwg yn gobeithio gwneud yn iawn am golli gêm gyntaf Cwpan Metro Bank, wrth iddyn nhw deithio i Swydd Derby heddiw (dydd Sul, Awst 6).

Does dim newid i’r garfan oedd wedi colli yn erbyn Swydd Gaerwrangon, gyda chyfle arall i’r to iau, gan gynnwys Alex Horton, Ben Kellaway a Ben Morris.

Fe greodd Kellaway argraff yn enwedig yn y gêm agoriadol, wrth sgorio 82 oddi ar 74 o belenni.

Gyda’r bêl, bydd y capten Kiran Carlson yn gobeithio adeiladu ar ei bedair wiced.

Fe gollodd Swydd Derby eu gêm agoriadol nhw yn erbyn Swydd Gaerwrangon.

Tîm Swydd Derby: H Came, L Reece, M Lamb, Haider Ali, B Guest (capten), T Wood, A Dal, A Thomson, S Lakmal, N Potts, S Conners

Tîm Morgannwg: E Byrom, T Bevan, C Ingram, K Carlson (capten), B Root, B Kellaway, A Horton, A Gorvin, H Podmore, J McIlroy, B Morris

Sgorfwrdd