Fe wnaeth Colin Ingram daro 115 heb fod allan wrth i dîm criced Morgannwg guro Swydd Derby o saith wiced yng Nghwpan Metro Bank yn Derby.
Daeth ei sgôr oddi ar 108 o belenni, a sgoriodd y capten Kiran Carlson 65 oddi ar 52 o belenni, wrth i’r sir Gymreig ennill gyda 17 o belenni’n weddill.
Ychwanegodd Billy Root 34 at y cyfanswm oddi ar 31 o belenni fel rhan o bartneriaeth o 82 oddi ar 76 o belenni gydag Ingram, oedd wedi taro’r ergyd fuddugol am chwech.
Dechreuodd y Saeson yn gadarn, wrth i Harry Came (73) a Luis Reece (69) adeiladu partneriaeth agoriadol o 134.
Ond pan gollodd Haider Ali ei wiced am 63, collodd y tîm cartref bum wiced am 26 rhediad mewn chwe phelawd i droi’r gêm ar ei phen.
Serennodd y Cymro ifanc Ben Kellaway unwaith eto gyda thair wiced am 41 mewn wyth pelawd.
Mae’r canlyniad yn gadael Morgannwg gyda buddugoliaeth a cholled yn eu dwy gêm gyntaf.
Ymateb
“Es i i mewn â meddwl eithaf clir, ac yn ffodus ro’n i’n batio gyda Kiran [Carlson], ac fe chwaraeodd e’n bositif dros ben, oedd wedi rhoi dechrau da i ni, ac fe wnes i ryw fath o fwydo oddi ar hynny,” meddai Colin Ingram.
“Fe wnes i drio chwarae’r hyn oedd o ’mlaen i, roedd yn edrych fel cyfanswm mawr ond roedd hi’n dal i fod yn llain dda.
“Roedd llawer o opsiynau ar gyfer ergydion i’r ffin, fe gawson ni’r batiad yn llifo ac fe wnes i jyst trio llywio hynny.
“Unwaith mae’r gyfradd [ofynnol] o gwmpas chwech, dw i’n hapus i gario ymlaen i fatio a chadw wicedi wrth gefn.
“Daeth Billy [Root] i mewn a chwarae’n bositif iawn a tharo’r bêl yn dda, ac fe wnaethon ni orffen y gêm yn dda.”