Mae disgwyl i weithwyr tai ym Mhen-y-bont ar Ogwr golli miloedd o bunnoedd allan o’u pensiynau o ganlyniad i gynlluniau eu cyflogwyr, medd undeb Unsain heddiw (dydd Iau, Tachwedd 23).

Mae staff yng nghymdeithas dai Valleys to Coast wedi cael clywed bod y sefydliad yn bwriadu gadael y cynllun pensiynau llywodraeth leol, fyddai wedi rhoi sicrwydd incwm i weithwyr ar ôl iddyn nhw ymddeol.

Mae rheolwyr eisiau symud y gweithwyr i gynllun cyfraniadau pensiwn tai cymdeithasol penodol, sy’n seiliedig ar gyfraniadau gweithwyr a chyflogwyr yn ogystal ag unrhyw fuddsoddiadau, ond dydy hynny ddim yn addo canlyniadau cystal i aelodau’r cynllun.

Byddai hyn yn golygu bod gweithiwr sydd wedi rhoi pymtheg mlynedd o wasanaeth i’r busnes ac sy’n disgwyl derbyn pensiwn blynyddol o £19,200 o dan y cynllun pensiwn llywodraeth leol ond yn derbyn £13,300 bellach.

‘Hollol ddigalon’

“Mae’n hollol ddigalon, oherwydd roeddwn i wedi darogan faint fyddwn i’n ei gael yn 67 oed, gan feddwl y byddwn i’n ymddeol â phensiwn gweddol,” meddai gweithiwr yn Valleys to Coast.

“Dw i nawr yn cwestiynu a fydda i’n gallu ymddeol yn 67 oed, neu a fydd yn rhaid i fi barhau i weithio.

“Mae fy ymddeoliad yn edrych yn wahanol iawn.

“Mae’n ergyd enfawr am eich ffyddlondeb ar ôl blynyddoedd o wasanaeth.”

‘Gwarthus’

“Mae nifer o’r gweithwyr hyn wedi rhoi degawdau o’u bywydau i’r busnes yma,” meddai Carmen Bezzina, trefnydd rhanbarthol Unsain Cymru.

“Mae’n warthus eu bod nhw bellach yn wynebu dyfodol lle gallen nhw fod ar eu colled o filoedd o bunnoedd.

“Bydd Unsain yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wyrdroi’r penderfyniad hwn, a sicrhau y gall staff sy’n darparu’r fath wasanaeth hanfodol edrych ymlaen at incwm gweddol pan fyddan nhw’n ymddeol.”