Mae Aelodau’r Senedd yn rhybuddio bod gwasanaethau deintyddol ledled Cymru “ar eu gliniau”, gyda darpariaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn perygl o ganlyniad i gytundebau newydd.
Yn ôl Peter Fox, mae practis yn ei etholaeth yn Sir Fynwy wedi tynnu sylw at y miloedd o gleifion sy’n methu cael eu hystyried ar gyfer apwyntiadau galw’n ôl, hyd yn oed.
“Oherwydd hyn, mae’r practis bellach yn wynebu gorfod crafu £155,000 yn ôl,” meddai’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd a chyn-arweinydd y Cyngor.
“Dydy hyn ddim yn eithriad i’r rheol – dyma’r rheol, o ganlyniad i ddiffyg meddwl hirdymor.
“Ymhellach, mae deintyddion bellach yn talu eu ffioedd labordai eu hunain, ond ar gyfer gwaith labordy cymhleth megis dannedd gosod, dydy ad-daliad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ddim yn talu’r gost, gan adael y deintydd ar ei golled.
“Does dim syndod, felly, fod rhaid i ddeintyddion gynyddu gwaith preifat er mwyn parhau i ddarparu’r hynny o waith y Gwasanaeth Iechyd Gwladol allan nhw.”
Mae Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, wedi cyfaddef nad yw mynediad at ddeintyddiaeth le byddai gweinidogion yn hoffi iddo fod.
Dywed fod cytundebau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi’u datblygu i hoelio sylw ar yr achosion mwyaf brys, agweddau ataliol, a phobol sydd wedi cael anhawster wrth gael mynediad at wasanaethau.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd wrth y Senedd fod canllawiau NICE yn awgrymu, os oes gennych chi ddannedd iach, nad oes angen i chi gael apwyntiad galw’n ôl bob chwe mis.
“Mewn gwirionedd, gallwch chi fynd hyd at ddwy flynedd heb gael eich galw’n ôl,” meddai.
“Dyna mae NICE yn ei ddweud… Dw i’n credu ei bod hi’n bwysig iawn ein bod ni’n cael ein harwain gan glinigwyr.
“Rydyn ni’n cydnabod mai hyn a hyn o arian sydd, ac mae angen i ni dargedu hynny, a dyna pam ein bod ni’n dilyn y trywydd penodol hwnnw.
“Os nad ydyn nhw’n darparu’r gwasanaeth maen nhw wedi cofrestru ar ei gyfer, yna mae’n gyfrifoldeb arnon ni fel llywodraeth i sicrhau ein bod ni’n mynd ac yn cael yr arian yna’n ôl.”
‘Mewn perygl’
Cododd John Griffiths, yr Aelod Llafur o’r Senedd dros Ddwyrain Casnewydd, bryderon tebyg am ddeintyddfa Bridges yng Nghil-y-coed.
“Fe wnes i gwrdd â phartneriaid yno yr wythnos hon, ac maen nhw’n teimlo’n gryf iawn fod eu hymrwymiad hirdymor fel practis i ddarpariaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn perygl o ganlyniad i gytundeb gwasanaethau deintyddol newydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai.
“Dydyn nhw ddim yn teimlo’u bod nhw’n gallu darparu’r hyn maen nhw’n ei ystyried yn safon briodol o ofal ar gyfer cleifion presennol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol tra eu bod nhw’n bodloni’r gofynion ar gyfer cleifion newydd…
“Maen nhw’n credu bod y farn hon yn un eang ymhlith deintyddion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, nid dim ond yn eu hardal nhw ond ledled Cymru, a dydyn nhw ddim yn credu bod cytundeb gwasanaethu deintyddol newydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gweithio yn ôl y disgwyl, ac y byddwn ni’n gweld lefelau darpariaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gostwng o’r herwydd.
“Felly mae’n ymddangos bod yna farn ledled Cymru sy’n dangos pryder mawr am y math o ddarpariaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol rydyn ni’n debygol o’i weld yn y dyfodol.”
Gwrthododd y Farwnes Eluned Morgan gyfeirio at unrhyw driniaeth benodol, ond dywedodd fod gweinidogion mewn trafodaethau pellach ynghylch cam nesa’r cytundeb.
Pwysleisiodd hi eto’r ffocws ar achosion brys a’r sawl sy’n cael trafferth cael mynediad at ddeintyddfeydd, gan ddweud bod “rhywfaint o sŵn yn y system, wrth gwrs, oherwydd mae’n golygu newid, a phan ydych chi’n blaenoriaethu un grŵp, yna yn amlwg mae grŵp arall yn mynd i gael blaenoriaeth is”.
“Ond, wyddoch chi, aethon ni i mewn i hyn gyda’n llygaid ar agor, rydyn ni’n dilyn canllawiau NICE ar hyn, a’r hyn rydyn ni’n ei wneud yw newid model sydd wedi bod yno ers amser hir.”
‘Argyfwng’
Yn ystod cwestiynau iechyd ddydd Mercher (Tachwedd 22), rhybuddiodd Adam Price, cyn-arweinydd Plaid Cymru, fod yna argyfwng yn y gwasanaethau deintyddol.
Dywedodd wrth Aelodau’r Senedd fod Hayden Dental yng Nghaerfyrddin wedi dweud y byddan nhw’n rhoi’r gorau i’w gwasanaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol erbyn diwedd y flwyddyn.
“Mae hynny’n dilyn datblygiadau tebyg i’r gorllewin yn Hendy-gwyn ar Daf, i’r dwyrain yn Llandeilo, ac i’r de yn Crosshands ac ati,” meddai’r Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Derbyniodd y Farwnes Eluned Morgan fod rhai ardaloedd yng Nghymru wedi dychwelyd mwy o gytundebau nag eraill, gyda saith yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Dywedodd y gweinidog fod y broses o ddod o hyd i gytundebwyr newydd ar y gweill, gyda phedwar cytundeb eisoes wedi’u rhoi.