Mae angen “gwelliannau ar unwaith” yn Adran Achosion Brys Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd, yn ôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Daw hyn ar ôl iddyn nhw gynnal adolygiad yn dilyn ymweliad heb rybudd dros dri diwrnod fis Awst eleni.

Fe wnaeth yr arolygwyr nodi nifer o faterion yn ymwneud ag atal a rheoli heintiau, trefniadau llywodraethu a diogelwch cleifion mae’n rhaid mynd i’r afael â nhw ar unwaith.

Gwaethygodd y materion oherwydd y galw am wasanaethau yn yr adran, oedd ymhell y tu hwnt i’r adnoddau oedd ar gael.

Doedd staff ddim yn gallu sicrhau preifatrwydd ac urddas yr holl gleifion yn effeithiol, gan fod nifer fawr o bobol yn dod i’r adran ac am fod prinder lle o ganlyniad i lif cleifion yn yr ysbyty yn gyffredinol.

Roedd materion strwythurol yn yr ysbyty hefyd yn effeithio’n sylweddol ar lif cleifion, gyda sawl ward ar gau er diogelwch.

Roedd cleifion wedi’u rhoi mewn nifer o ardaloedd ymchwydd amrywiol yn yr adran, sydd fel arfer yn cael eu defnyddio fel ardaloedd gorlenwi, gan gynnwys cleifion oedd wedi’u rhoi i eistedd neu orwedd mewn ardaloedd agored o’r adran, a mwy nac un claf wedi’u rhoi mewn ciwbicl ar yr un pryd, hynny yw ar wely ac ar gadair orwedd.

Roedd cleifion yn aros am gyfnodau hir mewn cadeiriau, ac roedd rhai o’r gwelyau i gleifion wedi’u lleoli ar ochr ardal cynllun agored yr orsaf staff.

Yn ôl arolygwyr, mae angen i’r gwasanaeth a’r Bwrdd Iechyd fonitro’r ffordd gaiff cleifion, yn enwedig mewn ardaloedd ymchwydd ac ardaloedd sydd newydd eu sefydlu, eu lleoli yn yr adran.

RAAC: digwyddiad mawr mewnol

Cyhoeddodd y bwrdd iechyd ddigwyddiad mawr mewnol ym mis Awst, a hwnnw’n ymwneud â nodi Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC), allai achosi problemau strwythurol a phroblemau diogelwch sylweddol yn yr ysbyty.

Roedd yr arolygwyr yn cydnabod yr heriau sylweddol mae hyn yn eu cyflwyno i’r adran achosion brys, am fod mwy na 100 o welyau ar gau am resymau diogelwch.

Roedd hyn hefyd yn golygu na allai’r adran drosglwyddo cleifion i’r wardiau hyn, gan achosi heriau gorlenwi sylweddol ar ben y galw arferol.

Gwelodd yr arolygwyr y staff yn ymgysylltu â’r cleifion mewn modd caredig a pharchus ac, ar y cyfan, dywedodd y cleifion eu bod nhw’n fodlon ar agweddau ar eu gofal a’u profiad.

Rhoddodd perthnasau adborth cadarnhaol hefyd mewn perthynas â’r gofal gafodd ei roi i’w hanwyliaid ar ddiwedd eu hoes.

Roedd y broses o frysbennu cleifion yn cael ei chwblhau mewn modd amserol yn y rhan fwyaf o achosion, a chafodd arferion cadarnhaol eu nodi mewn perthynas â rhai llwybrau, gan gynnwys Gofal Brys ar yr un Diwrnod ac, yn benodol, y gwasanaeth eiddilwch.

Roedd y staff yn gweithio’n galed i sicrhau bod y cleifion yn cael gofal ag urddas a pharch er gwaethaf yr heriau sylweddol, gan gynnwys siarad â chleifion yn dawel er mwyn osgoi cael eu clywed gan bobol eraill, a sicrhau bod defnydd cyson o sgriniau neu lenni i sicrhau preifatrwydd ac urddas.

Rhwystredigaeth

Nodd cleifion eu bod nhw’n deall y pwysau ar yr adran, ond fod rhwystredigaeth ynghylch diffyg preifatrwydd, urddas a gwybodaeth o ran camau nesaf eu gofal.

Nododd rhai aelodau o’r staff nad oedden nhw’n gallu darparu gofal amserol i’r cleifion oherwydd nifer y cleifion yn yr adran a lefelau staffio annigonol.

Ymysg yr enghreifftiau gafodd eu gweld gan yr arolygwyr roedd oedi cyn newid gorchuddion, rhoi cymorth amserol i fwyta, ac oedi cyn mynd â’r cleifion i gael sganiau.

Roedd angen gwelliannau ar unwaith mewn perthynas ag atal a rheoli heintiau a phrosesau i leihau risgiau i gleifion, staff ac ymwelwyr.

Nododd yr arolygwyr sawl mater sicrwydd ar unwaith roedd angen i’r bwrdd iechyd gymryd camau brys ar eu cyfer, gan gynnwys y ffaith nad oedd y staff bob amser yn gwisgo cyfarpar diogelu nac yn cadw at bolisïau atal heintiau, a phrosesau glanhau aneffeithiol oherwydd gorlenwi.

Roedd y dyddiad wedi mynd heibio ar asesiadau risg a doedd y prosesau i wirio argaeledd cyfarpar achub bywydau mewn argyfwng ddim yn gyson.

Er bod yr adran yn gynnes, doedd blancedi na chlustogau ddim yn cael eu cynnig i’r cleifion hynny oedd yn cysgu mewn cadeiriau dros nos.

Roedd prinder cyfleusterau toiledau a chawodydd ac amwynderau i’r cleifion.

Roedd y tîm Clinigol Llawfeddygol Cyffredinol yn methu cynnal darpariaeth ymgynghorwyr ar alwad 24/7 yn yr ysbyty oherwydd swyddi gwag ac absenoldebau staff.

Nododd yr arolygwyr enghreifftiau o gleifion roedd angen iddyn nhw gael eu trosglwyddo o’r adran i Ysbyty Bronglais i gael llawdriniaethau oherwydd yr amgylchiadau hyn, ac e bod hyn wedi’i nodi ar gofrestrau risg perthnasol a bod cynlluniau wrth gefn ar waith, mae hyn yn broblem o hyd i’r adran a’r ysbyty ehangach.

Roedd strwythur rheoli priodol ar waith a dangosodd yr arweinwyr fod cynlluniau ar ddod gyda’r bwriad o atgyfnerthu agweddau ar yr adran mewn ymateb i’r pwysau mae’r gwasanaeth yn ei wynebu.

Roedd cynlluniau gweithlu wrthi’n cael eu hadolygu i gynyddu lefelau staffio, cymysgedd sgiliau a chydnerthedd cyffredinol yn y gwasanaeth, ond mae angen symud yn gyflym mewn perthynas â rhai swyddi gwag er mwyn sicrhau bod rheolaeth ac arweinyddiaeth gadarn ar bob lefel yn yr adran, medd yr adroddiad.

‘Heriau eithriadol oherwydd galw cynyddol’

“Mae pwysau cynyddol ar wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac mae Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, fel ym mhob ysbyty ledled Cymru, yn parhau i wynebu heriau eithriadol oherwydd galw cynyddol,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

“Mae llif cleifion yn broblem a gaiff ei chydnabod yn genedlaethol, wedi’i hachosi gan bwysau ar bob rhan o’r system, ac mae AGIC yn cydnabod bod y bwrdd iechyd yn gweithio i ymdopi â’r heriau hyn.

“Mae’n gadarnhaol clywed am ymrwymiad y staff i sicrhau bod y gofal sylfaenol sydd ei angen ar gyfer cleifion yn cael ei ddarparu ar adeg mor heriol.

“Nodwyd bod angen rhai gwelliannau ar unwaith a nodwyd yn ystod ein harolygiad, ac rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn achosi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyflwyno gwelliannau ar fyrder.

“Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r bwrdd iechyd er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.”