Mae erlynwyr yn achos troseddau rhyfel yn erbyn cyn-arlywydd Cosofo wedi gwneud cais i’w gadw ar wahân oddi wrth ddiffynyddion eraill, yn sgil pryderon ei fod e a dau arall yn ceisio dylanwadu ar dystion allweddol.
Mae Hashim Thaci a dau arall o gyn-arweinwyr Byddin Ryddid Cosofo yn y llys ar hyn o bryd, a dydy cyfreithwyr ar ran Thaci ddim wedi ymateb i’r sefyllfa hyd yn hyn.
Mae pedwar o bobol yn y llys ers Ebrill 10 i wynebu cyhuddiadau o erlid, llofruddio, arteithio a gorfodi pobol i ddiflannu adeg gwrthryfel 1998-99 arweiniodd at annibyniaeth i’r wlad oddi wrth Serbia.
Mae’r holl ddiffynyddion yn gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Datgelu tystion
Yn ôl erlynwyr, mae Thaci a dau arall wedi datgelu enwau tystion sydd wedi’u gwarchod wrth siarad ag ymwelwyr yn y ddalfa.
Mewn rhai achosion, meddai erlynwyr, maen nhw wedi dweud wrth dystion beth i’w ddweud wrth iddyn nhw gael eu holi fel tystion.
Mae’r ddogfen yn dangos bod erlynwyr, gyda chaniatâd barnwyr, wedi recordio sgyrsiau’r diffynyddion ag ymwelwyr.
Mae nifer o dystion sydd wedi’u gwarchod wedi adrodd fod pobol wedi mynd atyn nhw i geisio’u hatal nhw rhag rhoi tystiolaeth neu i ddylanwadu ar eu tystiolaeth.
Mae lle i gredu bod mwy na 13,000 o bobol – y rhan fwyaf ohonyn nhw’n Albaniaid Cosofo – wedi marw yn ystod y gwrthdaro pan oedd Cosofo o dan reolaeth Serbia a’r cyn-Brif Weinidog Slobodan Milosevic.
Dydy hi ddim yn glir pryd y daw dyfarniad gan farnwyr yn yr achos.