Dylai Cyngor y Ddinas ddiogelu dyfodol un o adeiladau hanesyddol pwysicaf Casnewydd, yn ôl dau gynghorydd.
Roedd Gwesty’r Westgate yng nghanol storm wleidyddol yn 1839, pan fu gwrthdaro rhwng Siartwyr oedd yn gorymdeithio i Lundain a’r awdurdodau, wrth i’r protestwyr fynnu bod carcharorion yn cael mynd yn rhydd.
Roedd ffrwgwd ac fe saethodd milwyr at y dorf, gan adael dwsinau’n farw neu wedi’u clwyfo, a chafwyd arweinwyr Gwrthryfel Casnewydd yn euog o frad.
Bron i 200 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r adeilad dan berchnogaeth breifat yn gofgolofn i’r frwydr dros ddemocratiaeth – mae’n debyg bod tyllau bwledi yn dal yn ei waliau – ond mae digwyddiadau diweddar wedi creu ansicrwydd o ran y gwaith i’w adnewyddu.
Galw am gymorth
Bellach, mae Will Routley a Ray Mogford, dau o gynghorwyr y ddinas, yn galw ar yr awdurdod lleol i “wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau dyfodol yr adeilad hanesyddol hwn”.
Dros y blynyddoedd diwethaf, cafodd y gwesty ei adnewyddu gan bobol leol oedd yn benderfynol o’i adfer a’i drawsnewid yn ofod celfyddydau cymunedol ar gyfer arddangosfeydd a chyngherddau.
Roedd y Westgate hefyd yn fan ganolog yn yr ymdrechion llawr gwlad hynod lwyddiannus i gasglu dillad a nwyddau hanfodol ar gyfer ffoaduriaid Wcreinaidd gafodd eu dadleoli ar ôl ffoi yn dilyn ymosodiad Rwsia yn 2022.
Ond fis diwethaf, cyhoeddodd y grŵp sy’n gyfrifol am adferiad y gwesty fod eu gwaith “wedi dod i ben yn sydyn” a bod eu cytundeb â deilydd y les wedi’i “derfynu” yn ôl adroddiadau.
Fe wnaeth y sylw i helynt y grŵp ddal sylw’r cynghorwyr, fydd yn ceisio ymyrraeth gan lywodraeth leol ar ddyfodol y Westgate mewn cyfarfod llawn yr wythnos nesaf.
Mae eu cynnig yn dweud, “Mae gan westy’r Westgate, sy’n fan hanesyddol yn ein dinas, bwysigrwydd sylweddol fel trobwynt yn hanes wnaeth ddatblygu democratiaeth heddiw, i’n hatgoffa am ein brwydrau tros gredoau gwleidyddol.
“Rydym yn galw ar y Cyngor hwn i wneud popeth yn eu gallu i sicrhau dyfodol yr adeilad hanesyddol hwn.
“Gyda’ch cefnogaeth chi, gallem fod yn hawlio’r adeilad nodedig hwn yn ôl, adfer ein hanes tra’n creu dyfodol mwy llewyrchus i’r Westgate, y ddinas a’n trigolion.”
Mae’r Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Dinas Casnewydd.