Bydd sefydliadau ledled Cymru’n nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn ddydd Sadwrn (Tachwedd 25).

Mae’r ymgyrch yn cael ei chynnal ar draws y byd bob blwyddyn i dynnu sylw at ymdrechion dynion a bechgyn i ddileu trais gan wrywod yn erbyn menywod a merched.

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, bydd poster sy’n cynnwys staff a myfyrwyr ac sy’n sillafu’r geiriau ‘Diwrnod Rhuban Gwyn’ yn cael ei lansio i hyrwyddo’r ymgyrch.

Yn dilyn y diwrnod penodedig ddydd Sadwrn, bydd 16 o ddiwrnodau gweithredu’n cael eu trefnu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, tra bydd lleoliadau amrywiol yn Sir Ddinbych yn cael eu goleuo’n wyn, sef lliw’r ymgyrch.

Prifysgol Aberystwyth

Mae’r poster fydd yn cael ei lansio ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi’i greu gan brosiect Dewis Choice y Ganolfan dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Oed a Rhyw yn Adran y Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol.

Gyda chefnogaeth gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae’r poster yn cynnwys cod QR sy’n cysylltu â chyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr allai fod wedi profi cam-drin o fewn perthynas, trais rhywiol neu aflonyddu rhywiol.

Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn hefyd yn nodi dechrau 16 Diwrnod o Weithredu yn erbyn Trais ar Sail Rhyw sy’n dod i ben ar Ragfyr 10, sef Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol.

Fel rhan o’r ymgyrch hon bydd Dewis Choice yn dangos dwy ffilm fer yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a chymryd safiad unedig yn erbyn trais ar sail rhywedd.

Bydd Did you see me?, gafodd ei chyd-gynhyrchu gan Dewis Choice a dioddefwyr-goroeswyr LGBQT+ hŷn, a Hidden Harms Animation, gafodd ei chreu gan Fwrdd Diogelu Oedolion Norfolk mewn partneriaeth â Dewis Choice, yn cael eu dangos ddydd Mawrth (Tachwedd 28).

Mae gwybodaeth am y dangosiadau ar gael ar-lein, a bydd yn cynnwys cyfraniad gan Wasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru.

Ers i’r brifysgol ymrwymo fis Tachwedd y llynedd i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, mae Gwasanaethau Myfyrwyr y brifysgol wedi cymryd camau breision tuag at feithrin amgylchedd diogel a chefnogol i bob myfyriwr.

Yn ystod y flwyddyn academaidd 2022/23, cyflwynodd y brifysgol y Gwasanaeth Cymorth Ymosodiad Rhywiol a Chamymddwyn Rhywiol newydd, ynghyd â gwasanaeth Adrodd a Chymorth cyfrinachol ar-lein.

Cafodd Cydgysylltydd Gwrth-aflonyddu a Thrais ei benodi hefyd, a chafodd tîm o Swyddogion Cyswllt Trais Rhywiol hyfforddiant i wasanaethu fel pwyntiau cyswllt allweddol ar gyfer goroeswyr sy’n ceisio cymorth.

Mae gwaith y tîm eisoes wedi derbyn cydnabyddiaeth ar ffurf dwy wobr nodedig gan ddarparwyr cymorth trais rhywiol blaenllaw, Lime Culture, un o brif sefydliadau hyfforddi ac ymgynghori trais rhywiol y Deyrnas Gyfunol, a’r darparwr cymorth trais rhywiol New Pathways.

Ar gyfer staff, mae’r Brifysgol wedi bod yn darparu hyfforddiant gwylwyr rhagweithiol ac ymyrraeth ac mae ei Rhaglen Cymorth i Weithwyr (Care First) yn cynnig cwnselwyr a chynghorwyr sy’n gallu gwrando, cefnogi, neu gyfeirio at gymorth ar drais a cham-drin domestig.

Bydd copiau o boster Diwrnod y Rhuban Gwyn ar gael yn Llyfrgell Hugh Owen ac Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.

Cyngor Sir Caerfyrddin

Derbyniodd Cyngor Sir Caerfyrddin statws achrededig Rhuban Gwyn y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf yn 2018, ac maen nhw’n parhau i weithio i fynd i’r afael â thrais o’r fath.

Bydd baneri’r Rhuban Gwyn yn hedfan yn Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin a neuaddau tref Llanelli a Rhydaman ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn.

Bydd Neuadd y Sir hefyd yn cael ei goleuo’n borffor gyda’r hwyr ar y diwrnod i ddangos cefnogaeth.

Mae’r Cyngor yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid i godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch ledled y sir – o glybiau chwaraeon, ymweliadau ar y cyd â’r heddlu ag adeiladau trwyddedig, ac mewn canolfannau hamdden, theatrau a llyfrgelloedd.

Roedd Gorymdaith Rhuban Gwyn, gafodd ei threfnu gan yr Aelod Llafur o’r Senedd Joyce Watson, ei chynnal ddydd Iau (Tachwedd 23) gan adael Parc Rhydaman.

Sir Ddinbych

Bydd tirnodau yn Sir Ddinbych yn cael eu goleuo’n wyn ar y diwrnod, gan gynnwys Theatr Pafiliwn y Rhyl/1891, Rhyl Sky Tower a Phont y Ddraig.

Mae’r Cyngor yn pwysleisio bod gwisgo’r rhuban gwyn yn addewid i beidio esgusodi nac aros yn dawel ynghylch trais yn erbyn merched a menywod.

Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi canllawiau, sy’n cynnwys y canlynol:

• Os ydych chi, eich plentyn neu unrhyw un yn eich teulu mewn perygl dybryd o niwed, ffoniwch yr heddlu ar 999

• Os ydych chi’n dioddef cam-drin domestig gallwch ffonio llinell gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 8010 800 rŵan neu ewch i’w gwefan.

• Mae help ar gael bob awr o’r dydd, bob dydd