Roedd 13% o’r holl achosion o erlid adar ysglyfaethus gafodd eu cadarnhau yn y Deyrnas Unedig y llynedd wedi digwydd yng Nghymru.

Cafodd nifer o adar ysglyfaethus yng Nghymru eu gwenwyno’n anghyfreithlon, ar ôl bod yn agored i niwed drwy lefelau uchel o’r pryfladdwr gwenwynig, Bendiocarb.

Roedd o leiaf 63% o’r holl achosion o erlid adar ysglyfaethus gafodd eu cadarnhau yng Nghymru’n gysylltiedig â thir sy’n cael ei ddefnyddio i reoli adar hela.

Adroddiad

Mae adroddiad blynyddol Birdcrime yr RSPB, sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 24), yn cynnwys manylion am saethu a gwenwyno anghyfreithlon adar gwarchodedig ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.

Ymhlith y rhai sydd wedi’u lladd mae Bwncathod, Barcutiaid, Gweilch Marthin, Bodaod Tinwyn, Hebogiaid Tramor ac Eryrod Môr.

Mae’r rhywogaethau hyn i gyd yn cael eu gwarchod gan y gyfraith i helpu ein rhywogaethau prinnaf ac sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf.

Mae’r adroddiad Birdcrime diweddaraf yn cofnodi wyth achos sydd wedi’u cadarnhau o erlid adar ysglyfaethus yng Nghymru yn 2022.

Cafwyd hyd i Walch Marthin a Barcut wedi’u saethu ym Mhowys, a bu tri digwyddiad annibynnol ledled y wlad oedd yn cynnwys pump o Fwncathod, oedd i gyd wedi marw ar ôl llyncu lefelau uchel o Bendiocarb.

Mae camddefnyddio plaladdwyr yn drosedd, ond fel sydd wedi’i nodi mewn adroddiadau Birdcrime blaenorol, mae’n cael ei ddefnyddio’n aml i ladd adar ysglyfaethus yn anghyfreithlon.

Mae gwenwyno abwyd yn anghyfreithlon, ond yn aml caiff ei gadw mewn mannau lle mae adar ysglyfaethus yn bresennol.

Fis Mehefin y llynedd, cafodd ceidwad ar ystâd saethu ffesantod yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog ddirwy am storio plaladdwr ar ôl i Farcut wedi’u wenwyno, abwyd gwenwynig a Bwncath wedi’i saethu gael eu darganfod ar y tir.

Yn 2021, cafodd Bendiocarb ei ganfod mewn 80% o’r holl achosion o wenwyno adar ysglyfaethus yng Nghymru.

Mae’n bryder difrifol bod y gyfradd hon wedi codi i 100% erbyn 2022.

Erbyn hyn y pryfladdwr hwn, na fydd ar gael i’w brynu cyn hir, yw’r sylwedd gaiff ei gofnodi amlaf mewn achosion o wenwyno adar ysglyfaethus yn y Deyrnas Unedig.

Mae Birdcrime 2022 hefyd yn cynnwys dau achos yng Nghymru lle’r oedd trapiau anghyfreithlon yn cael eu defnyddio i dargedu rhywogaethau adar ysglyfaethus penodol, fel y Gweilch Marthin.

Newidiadau

Mae’r newidiadau i’r Trwyddedau Cyffredinol ddaeth i rym fis Gorffennaf y llynedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, sy’n pennu’r rheolau ar weithredu trapiau cawell yn gyfreithlon, wedi’u croesawu gan RSPB Cymru.

Bydd y newidiadau hyn – gan gynnwys gwahardd trapiau hebogiaid top a gwaelod dwy adran – yn lleihau’r risg o ddal rhywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu ar ddamwain, fel adar ysglyfaethus, a bydd yn dangos yn glir pan fydd trapio anghyfreithlon bwriadol wedi digwydd.

Yn 2022, roedd 63% o’r achosion gafodd eu cadarnhau yng Nghymru yn gysylltiedig â thir sy’n cael ei reoli ar gyfer saethu adar hela.

Mae tystiolaeth yn dangos bod adar ysglyfaethus yn cael eu targedu’n fwriadol ar rai ystadau saethu i leihau faint o’r stoc adar hela sy’n cael ei golli, ac i geisio sicrhau nad oes tarfu ar adar hela ar ddyddiau saethu.

Mae llawer o’r achosion hanesyddol o erlid adar ysglyfaethus yng Nghymru, a digwyddiadau gafodd eu cadarnhau yn 2022, wedi’u cysylltu â thir sy’n cael ei reoli ar gyfer adar hela.

Mae RSPB Cymru yn parhau i alw am drwyddedu saethu adar hela yng Nghymru, i weithredu fel dull ystyrlon i atal ac i roi terfyn ar ladd adar ysglyfaethus yn anghyfreithlon.

Erlid

“Mae’r cynefin gwerthfawr sydd ar gael yng Nghymru’n cynnig cadarnle pwysig i lawer o adar ysglyfaethus, ond mae erlid parhaus yn golygu bod goroesiad llawer o’r rhywogaethau hyn o dan fygythiad difrifol,” meddai Julian Hughes, Pennaeth Rhywogaethau RSPB Cymru.

“Drwy ymrwymiad ar lawr gwlad a galwadau am newid deddfwriaethol, rydym yn benderfynol o roi diwedd ar y troseddau barbaraidd hyn.

“Rhaid rhoi terfyn ar wenwyno, trapio a saethu’r adar arbennig hyn ar unwaith.”

‘Pryder’

“Fel yr amlygwyd yn yr adroddiad Birdcrime, er bod pob math o erlid yn dal i ddigwydd yng Nghymru, mae’n achos pryder mai gwenwyno adar ysglyfaethus yn anghyfreithlon bellach yw’r dull sy’n cael ei ffafrio er gwaetha’r peryglon i’r cyhoedd,” meddai Niall Owen, Swyddog Ymchwiliadau RSPB Cymru.

“Gan fod llawer o’r troseddau hyn yn cael eu cyflawni mewn mannau gwledig diarffordd, rydym yn credu mai cyfran fechan yn unig o’r achosion sy’n cael eu canfod yng Nghymru, ac rydym yn galw ar y cyhoedd i fod yn wyliadwrus.

“Hoffem ddiolch i’r cyhoedd am eu cymorth amhrisiadwy drwy roi gwybod am y digwyddiadau hyn o erlid adar ysglyfaethus.”