Yn ôl ystadegau diweddaraf yr ONS gafodd eu cyhoeddi’r wythnos yma, symudodd tri chwarter miliwn yn fwy o bobol i mewn i’r Deyrnas Unedig nag a symudodd allan yn 2022.

Ac er bod disgwyl i’r ffigurau cyfatebol ar gyfer 2023 fod fymryn yn llai, maen nhw’n dal yn llawer uwch nag mewn unrhyw flwyddyn arall dros y 30 mlynedd ddiwethaf.

Maen nhw hefyd tua dwywaith gymaint â’r hyn oedden nhw yn y blynyddoedd yn arwain at y refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn 2016. Mae hyn yn nodedig o gofio cymaint o addewidion i leihau mewnfudo gafodd eu rhoi gan arweinwyr Brexit yn y bleidlais honno. Does dim amheuaeth chwaith ei fod yn un o’r cymhellion allweddol i lawer dros bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly mae’r bobol hyn yn gweld addewid arall iddyn nhw wedi cael ei dorri. Y gair Almaeneg gwych hwnnw, schadenfreude sy’n dod i’r meddwl…

Mae’r newyddion yn debygol o ddwysáu’r ddadl sydd wedi bod ynghylch mewnfudo i wledydd Prydain dros y blynyddoedd diwethaf. Er mai codi bwganod di-sail ydi’r rhan fwyaf o’r dadleuon yn erbyn y mewnfudo hwn, ni ddylid diystyru’r pryderon gwirioneddol a didwyll sydd y tu ôl i rai ohonyn nhw.

Un o’r prif ddadleuon ydi ei fod yn achosi cynnydd anghynaliadwy mewn poblogaeth. Mae hyn yn ddealladwy gan nad yw tri chwarter miliwn ychwanegol o drigolion yn nifer cwbl ddisylw. Mae’n wir y gall fod twf sy’n ymddangos yn ormodol mewn rhai ardaloedd penodol (o Loegr yn bennaf), ond mae digonedd o leoedd eraill ledled gwledydd Prydain lle mae’r boblogaeth yn lleihau.

Anonest ac annheg yn sicr ydi beio mewnfudo am roi straen ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd, pan fo cleifion y gwasanaeth hwnnw’n dibynnu gymaint ar weithwyr tramor. Gallwn fod yn sicr mai poblogaeth gynhenid yn heneiddio ydi un o’r rhesymau pwysicaf dros y cynnydd mewn pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd. Dyma hefyd sy’n gyfrifol pam fod cymaint o swyddi gwag sy’n creu’r galw cyffredinol am weithwyr o dramor.

Mae’n debygol y gall y cynnydd mewn mewnfudwyr fod yn rhoi pwysau ychwanegol ar ysgolion mewn rhai ardaloedd lle mae twf cyflym wedi bod. Ar y llaw arall, gallwn fod yn sicr hefyd mai ar sail adroddiadau am sefyllfaoedd o’r fath yn y Daily Mail a’r Sun yn hytrach nag unrhyw brofiadau personol mae llawer o’r rhai uchaf eu cloch wedi ffurfio eu barn.

Chwarae ar ofnau

Does dim dwywaith fod elfennau hyll iawn yn perthyn i lawer o’r dadleuon yn erbyn mewnfudo. Mae gwleidyddion asgell dde diegwyddor yn chwarae ar ofnau y bobol fwyaf difreintiedig a diaddysg yn y gymdeithas er mwyn eu cael i feio tramorwyr am eu tlodi a’u cyflwr truenus. Mae’n hen dric gwleidyddol hefyd i gael pobol ddifreintiedig i ganolbwyntio’u dicter at dlodion eraill yn hytrach nag yn erbyn y drefn wleidyddol. Eto i gyd, mae hyn yn annhebygol o weithio i’r Torïaid yn yr achos hwn, gan mai nhw fydd yn cael llawer o’r bai am y cynnydd.

Camgymeriad, ar y llaw arall, fyddai bodloni ar gollfarnu’r gwleidyddion adweithiol hyn yn unig. Y gwir amdani ydi bod llawer o’u gwrthwynebwyr mwy goleuedig wedi gwneud pethau’n haws iddyn nhw.

Ar hyd y blynyddoedd, unig ymateb gwleidyddion asgell chwith i fewnfudo oedd taflu cyhuddiadau o hiliaeth yn erbyn unrhyw un sy’n meiddio crybwyll y pwnc, heb sôn am fynegi unrhyw amheuon.

Yn anffodus, mae yna rai ar y chwith gwleidyddol sydd fel pe baen nhw’n ymhyfrydu mewn unrhyw esgus i gyhuddo pobol neu sefydliadau o hiliaeth. Does dim amheuaeth fod agweddau hunangyfiawn y bobol hyn wedi gwneud llawer iawn o ddrwg dros y blynyddoedd.

Glastwreiddio

I ddechrau, mae’r cyhuddiad difrifol o hiliaeth – sef cred fod un hil yn well na’r llall, ac felly â’r hawl i ormesu – yn cael ei lastwreiddio trwy ei orddefnyddio. Pe bai’r gair yn cael ei neilltuo ar gyfer y bobol wirioneddol fileinig, byddai ei effaith gymaint â hynny’n llymach a mwy ystyrlon.

Yn waeth na dim, mae defnyddio cyhuddiad o hiliaeth er mwyn mygu unrhyw drafodaeth ar fewnfudo wedi cynyddu apêl gwleidyddion nad oes ganddyn nhw unrhyw gydwybod ar y mater. Mae’n galluogi pobol fel Nigel Farage i greu delwedd gwbl dwyllodrus ohono’i hun fel tipyn o rebel nad oes arno ofn dweud pethau nad yw gwleidyddion eraill yn barod i’w crybwyll.

Does dim amheuaeth fod gor-barodrwydd y chwith Seisnig i ddefnyddio cyhuddiadau o hiliaeth dros y blynyddoedd wedi chwarae rhan allwedddol wrth wthio llawer o dlodion cymdeithas i gorlan arweinwyr Brexit yn 2016. Mae meddylfryd o’r fath yn sicr wedi cyfrannu at y llanast gwleidyddol rydyn ni ynddo heddiw.

Gwelwn hefyd nad yw gwledydd Prydain yn eithriad o bell ffordd ym methiant gwleidyddion y chwith i wrando ar bryderon ynghylch mewnfudo. Does ond angen edrych ar fuddugoliaeth plaid y dde eithaf yn yr Iseldiroedd, ac ar boblogrwydd Trump yn America ar hyn o bryd.

Mewnfudo i Gymru

Mae’n annhebygol iawn fod llawer o’r tri chwarter miliwn ychwanegol o fewnfudwyr wedi dod i Gymru.

Llai na 7% o boblogaeth Cymru oedd wedi’u geni y tu allan i’r Deyrnas Unedig, yn ôl Cyfrifiad 2021. Roedd y gyfran hon yn debyg i’r hyn oedd yn yr Alban, a mymryn yn is na’r hyn oedd yng Ngogledd Iwerddon ac yn sylweddol is nag yn unrhyw ranbarth o Loegr ac eithrio’r gogledd-ddwyrain. Caerdydd a Chasnewydd yw’r unig ddwy sir yng Nghymru lle mae mwy na 10% o’r boblogaeth wedi’u geni’r tu allan i wledydd Prydain.

O ran mewnfudo o fewn gwledydd Prydain, wrth gwrs, mae’r stori’n wahanol iawn. Dim ond mymryn dros 70% o boblogaeth Cymru sydd wedi’u geni yng Nghymru, o gymharu â ffigurau cyfatebol o 83% yn yr Alban ac 86% yng Ngogledd Iwerddon.

Mae gwahaniaethau sylfaenol rhwng symud poblogaeth o fewn gwledydd Brydain a mewnfudo o wledydd tramor i wledydd Prydain, wrth gwrs. Mae natur y mewnfudo, heb sôn am ystyriaethau swyddogol sy’n ymwneud â gwladwriaethau llawn, yn gwbl wahanol.

Ar yr un pryd, ffolineb fyddai gwadu bod y mewnfudo ‘mewnol’ hwn yn gallu cael o leiaf gymaint o effaith. Hefyd, yn achos Cymru, mae’n digwydd ar raddfa lawer iawn mwy. Ac yn waeth na dim, unwaith eto mae ofnau am gyhuddiadau hurt a di-sail o hiliaeth wedi llesteirio unrhyw drafodaethau call ar y mater.

Seisnigeiddio

Nid y ffaith fod 30% o’r boblogaeth wedi symud i Gymru o’r tu allan ydi’r her fwyaf o angenrheidrwydd o ran meithrin ymwybyddiaeth o undod cenedlaethol. Pe bai’r bobol hyn i gyd yn lleiafrifoedd o wahanol rannau o’r byd, mae’n bosibl iawn y byddai’n haws creu rhyw fath o hunaniaeth Gymreig gynhwysol y gallai pawb unieithu eu hunain â hi.

Dyna’n union ydi’r sefyllfa yn Lloegr, wrth gwrs, lle mae iaith fwyaf pwerus y byd yn gallu cynnig tir cyffredin rhwng yr holl fewnfudwyr o bedwar ban byd.

Yr hyn sy’n gwneud pethau’n llawer mwy anodd yng Nghymru ydi mai o Loegr y mae dros 70% o’n mewnfudwyr yn hanu, canran sy’n codi i dros 85% yn y rhan fwyaf o Gymru. Y tro nesaf y bydd rhywun yn honni bod cefn gwlad Cymru’n mynd yn fwy amrywiol yn ddiwylliannol, peidiwch â’u credu. Mae’n llawer mwy tebygol mai mynd yn fwy Seisnig fyddai’n ddisgrifiad cywirach o’r hyn sy’n digwydd yn y rhan fwyaf o’n hardaloedd.

Nid mater o gredu bod y Saeson yn ddim gwaeth na gwell nag unrhyw genedl arall ydi sail unrhyw bryderon ynghylch goblygiadau hyn. Gallwn dderbyn bod y mwyafrif llethol ohonyn nhw, fel unigolion, yn debygol o fod mor deg a rhesymol ag y gellid ei ddisgwyl gydag unrhyw bobol eraill. Mae’r broblem yn ymwneud yn gyfangwbl â’u hanes fel y grŵp diwylliannol sydd â’r oruchafiaeth lethol dros yr holl wladwriaeth Brydeinig. Maen nhw, dros y canrifoedd, wedi cael eu dysgu i gredu nad yw Cymru’n ddim byd ond ymestyniad o’u gwlad eu hunain. O ganlyniad, nid yw symud i fyw i Gymru yn ymddangos yn ddim byd anarferol iddyn nhw. Dydi hi’n ddim syndod, felly, gweld cymaint o anwybodaeth am Gymru yn eu plith, ynghyd ag agwedd ei bod yn gwbl dderbyniol peidio â gwneud dim ymgais i hyd yn oed ynganu enwau lleoedd yn iawn.

Mae’n anochel fod hyn i gyd yn gwanhau cryn dipyn ar hunaniaeth Cymru yn gyffredinol. Yr hyn sy’n gwneud pethau’n llawer gwaeth ydi ei fod hefyd yn taro rhai o gynefinoedd gwerthfawrocaf yr iaith a’r diwylliant Cymraeg a’n treftadaeth fel cenedl.

I’r Saeson hynny sy’n mynegi pryderon bod y mewnfudo i Loegr yn fygythiad i’w hunaniaeth fel cenedl, byddai’n syniad iddyn nhw edrych ar yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru. Mi fydden nhw wedyn yn deall yn well beth ydi gwir ystyr goresgyniad a disodli diwylliannol.