Mae Darren Millar wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll dros y Ceidwadwyr ar gyfer sedd Gogledd Clwyd yn San Steffan.

Yn ôl y ffiniau newydd, bydd y Rhyl, Bodelwyddan, Dinbych a Llanelwy yn Nyffryn Clwyd yn uno â rhannau o Orllewin Clwyd, gan gynnwys Colwyn a Thowyn er mwyn creu’r etholaeth newydd.

Wrth gyhoeddi ei ymgeisyddiaeth, dywed ei fod e wedi gweld drosto’i hun “y niwed mae Llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi’i orfodi ar ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ein system addysg a’r economi”.

Ychwanega y bydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i atal Syr Keir Starmer rhag “cael yr allweddi i Rif 10”.