Fe ddaeth i’r amlwg y gallai gymryd hyd at dridiau i fanc HSBC ymateb i alwadau Cymraeg, ar ôl cau eu llinell ffôn Gymraeg.
Mae Pennaeth Cyfoeth a Bancio Personol HSBC yn y Deyrnas Unedig yn cydnabod fod y penderfyniad i gau eu llinell Gymraeg “wedi creu aflonyddwch”, ond ei fod e wedi cael ei wneud ar sail “rhesymau gweithredol” yn bennaf.
Daeth sylwadau Jose Carvalho heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 29) wrth iddo wynebu cwestiynau gan Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd.
“Mae gennym ni linell sy’n cael ei thanddefnyddio’n sylweddol ar gyfer y gwasanaeth Cymraeg, rydyn ni’n cael tua 22 o alwadau’r dydd,” meddai gerbron y pwyllgor.
“Mae’r llinell hon yn cael ei gweithredu gan dri chydweithiwr yn HSBC, felly rhyngddyn nhw maen nhw’n cael tua saith galwad yr un y dydd.
“Mae hynny’n creu her wirioneddol i ni allu cynnal gwasanaeth gyda’r lefel honno o alw.”
Eglurodd fod dau opsiwn i fynd i’r afael â’r heriau, sef cadw’r llinell fel ag y mae gyda’r staff yn eistedd heb waith am y rhan fwyaf o’r diwrnod, neu greu llinell amgen sydd yn delio â chwsmeriaid yn y Gymraeg a’r Saesneg, fel maen nhw wedi penderfynu gwneud.
“Ond mae hynny’n creu problem wirioneddol o ran cyfateb eu hargaeledd, efallai eu bod mewn galwad pan ddaw galwad Gymraeg i mewn,” meddai Jose Carvalho wedyn.
“Felly, dim ond 6% o’r galwadau sy’n dod i mewn sy’n cael eu hateb yn Gymraeg gan y tri asiant yma, felly nid yw’n wasanaeth gwych i gleientiaid a chleientiaid Cymraeg.”
“Heriau pellach” y gwasanaeth amgen
Golyga’r gwasanaeth amgen fod cwsmeriaid Cymraeg yn cael galwad yn ôl os nad oes neb ar gael i siarad â nhw yn y Gymraeg ar amser yr alwad wreiddiol.
Gall yr alwad ddod unrhyw bryd o fewn tri diwrnod, a dydy cwsmeriaid ddim am dderbyn slot amser penodol.
Dywedodd Carolyn Thomas, Aelod Llafur o’r Senedd, wrth y pwyllgor nad yw’r gwasanaeth amgen yn dderbyniol a’i bod yn credu ei fod yn codi heriau pellach.
Dywedodd ei bod hi’n bosib na fydd gan gwsmeriaid y dogfennau priodol wrth law wrth dderbyn yr alwad yn ôl, ac felly y bydd hi’n anoddach iddyn nhw allu trafod yr hyn sy’n eu pryderu.
“Doedd gennych chi erioed linell Gymraeg, mewn gwirionedd,” meddai Llŷr Gruffydd, wrth ymateb i’r 6% o alwadau mae’r banc yn ymdrin â nhw trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Dyw e ddim yn anghynaladwy, eich penderfyniadau chi sy’n ei wneud o’n anghynaladwy,” meddai.
“Mae modd i’w gynnal e pe bai’r ewyllys o fewn eich cwmni chi i wneud hynny.”
‘Dim cynlluniau’ am wasanaeth digidol Gymraeg
Hefyd ar y pwyllgor roedd Alun Davies, Aelod Llafur o’r Senedd, ac fe gododd gwestiynau ynghylch pam nad yw ap HSBC yn ddwyieithog.
“Mae’n ymddangos i mi fod HSBC yn lleihau eu gwasanaeth i gwsmeriaid,” meddai.
Dywedodd Jose Carvalho nad oedd yn bosib cyfieithu’r ap oherwydd seilwaith y dechnoleg.
“Dydw i ddim wedi fy argyhoeddi gan eich dadl nad yw’n bosibl darparu’r ap yn Gymraeg nac mewn unrhyw iaith arall,” meddai Alun Davies wrth ymateb i hynny.
“Rwy’n cofio pan ddywedodd un o’ch rhagflaenwyr wrthym ei bod yn amhosibl i beiriant codi arian weithredu’n ddwyieithog.”
Ond ymatebodd Jose Carvalho drwy ddweud nad oes unrhyw fwriad gan y banc i gyfieithu’r ap, er iddo fod ar gael mewn ieithoedd eraill mewn gwledydd tramor.
“Wnes i ddim dweud ei fod yn amhosib, ond mae’n dasg eithaf sylweddol ac yn fuddsoddiad eithaf sylweddol, ac ar hyn o bryd does gennym ni ddim cynlluniau i wneud y cyfieithiad,” meddai.
Beirniadodd Alun Davies y cwmni am beidio â gweithredu o blaid cwsmeriaid Cymraeg.
“Rydych chi’n dweud wrthym beth rydych chi’n ei wneud i gyflawni ar gyfer eich cwsmeriaid a cheisio gwella’ch gwasanaethau, ond ni yw eich cwsmeriaid, llawer ohonom ni yn yr ystafell hon, ac nid yw’r hyn rydych chi’n ei ddweud wrthym y bore yma yn adlewyrchu’r profiad o fod yn gwsmer i chi,” meddai.
Ychwanegodd Llŷr Gruffydd ei fod yn teimlo ei fod e wedi cael ei siomi ac yntau’n gyn-gwsmer.
“Fel siaradwr Cymraeg, yr hyn dwi’n clywed o hynny yw nad ydw i’n flaenoriaeth i chi, fy mod i ar waelod y rhestr i raddau helaeth – hyd yn hyn nad ydw i ar y rhestr ar hyn o bryd mewn gwirionedd,” meddai.
Yn ôl Jose Carvalho, mae gan y banc lawer o wasanaethau ar gyfer eu cwsmeriaid Cymraeg.
Er hynny, ategodd nad oes llinell amser hyd yn hyn o ran pryd y bydd gwasanaethau digidol ar gael yn y Gymraeg.