Mae 54% o bobol yn yr Alban o blaid annibyniaeth erbyn hyn, yn ôl pôl piniwn newydd gan Ipsos Mori.

Mae 46% yn dweud eu bod nhw yn erbyn annibyniaeth.

Mae’r pôl hefyd yn dangos bod gan yr SNP (40%) fantais o ddeg pwynt canran dros Lafur (30%) wrth fesur bwriad pleidleisio trigolion y wlad pan fydd etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal, gyda’r Ceidwadwyr ar 15%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 6%, y Blaid Werdd ar 3%, ac eraill gyda’u gilydd ar 5%.

Mae gan yr SNP (39%) fantais o ddeuddeg pwynt canran dros Lafur (27%) wrth fesur bwriadau pleidleisio ar gyfer senedd Holyrood, gyda’r Ceidwadwyr ar 15%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 8%, y Blaid Werdd ar 4%, ac eraill gyda’i gilydd ar 6%.

Mae gan yr SNP (33%) fantais o saith pwynt canran dros Lafur (26%) o ran y rhestr ranbarthol, gyda 15% i’r Ceidwadwyr, 10% i’r Blaid Werdd, 8% i’r Democratiaid Rhyddfrydol, a 7% i’r gweddill gyda’i gilydd.

Yn ôl Ipsos yn yr Alban, mae’r Blaid Lafur yn “wynebu her wleidyddol” o hyd er eu bod nhw wedi dod yn fwy poblogaidd o dan arweiniad Anas Sarwar yn Holyrood a Syr Keir Starmer yn San Steffan.