Mae cwest wedi clywed bod pedwar llanc y cafwyd hyd i’w cyrff yn Eryri wedi boddi.

Roedd Wilf Fitchett (17), Jevon Hirst (16), Harvey Owen (17) a Hugo Morris o ardal Amwythig wedi bod yn gwersylla yn y gogledd cyn i’w car gael ei ganfod mewn dŵr ym mhentref Garreg ar Dachwedd 21.

Fe fu timau achub yn chwilio am y pedwar ar ôl iddyn nhw fynd ar goll, a daeth archwiliadau post-mortem i’r casgliad eu bod nhw wedi boddi.

Dywedodd y crwner fod y pedwar wedi bod yn teithio ar hyd ffordd A4085 pan adawodd eu cerbyd y ffordd.

Mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau, a bydd y cwest yn mynd rhagddo unwaith fydd yr ymchwiliad hwnnw wedi dod i ben.

Dod o hyd i bedwar corff wrth chwilio am ddynion ifanc ar goll

Dywed Heddlu Gogledd Cymru ei bod hi’n ymddangos, ar hyn o bryd, mai “damwain drasig” oedd y digwyddiad

Aelod Seneddol yn dweud ei bod yn “bryderus iawn” am ddiflaniad pedwar llanc

Dydy’r pedwar ddim wedi’u gweld ers dydd Sul (Tachwedd 19), ar ôl iddyn nhw fod yn gwersylla yn Eryri