Mae trigolion sy’n byw ger glofa sydd ar fin cau ym Merthyr Tudful yn apelio ar y perchnogion i sicrhau ei bod hi’n ddiogel cyn gadael.

Mae’r cwmni sy’n berchen ar safle glo brig Ffos-y-Fran wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu rhoi’r gorau i gloddio yno fory (dydd Iau, Tachwedd 30), ond mae ymgyrchwyr yn poeni na fyddan nhw’n adfer y safle cyn gadael.

Daeth y caniatâd cynllunio ar gyfer y safle i ben fis Medi y llynedd, ond mae’r gwaith yno wedi parhau serch hynny.

Fe wnaeth y cwmni Merthyr (South Wales) Ltd ddweud eu bod nhw wedi cyflwyno hysbysiad i Lywodraeth Cymru fis Awst eleni o’u bwriad i gau ddiwedd Tachwedd.

‘Lle hyll a pheryglus’

Mae’r cwmni wedi addo y byddan nhw’n sicrhau diogelwch y safle cyn cau, ond mae’r trigolion lleol Chris ac Alyson Austin o Gyfeillion y Ddaear Merthyr, yn pryderu na fyddan nhw’n cadw at eu gair.

“Dydyn ni ddim eisiau iddyn nhw jyst gadael,” meddai Alyson Austin.

“Rydyn ni eisiau iddyn nhw adfer y safle.

“Cafodd y cwnni ganiatâd i gloddio yma ar yr amod fod y safle’n cael ei adfer yn llawn wedyn a’i roi yn ôl i’r gymuned.

“Mae’r arwydd wrth y fynedfa’n dweud ‘Rhaglen Adferiad Tir Ffos-y-Fran’. Roedd yr ‘adfer’ gafodd ei addo’n cynnwys defnyddio’r tir ar gyfer pwrpas amgenach, ei roi yn ôl mewn cyflwr fel y byddai’n bosib ei ddefnyddio, nid ein gadael ni gyda llanast mawr, erchyll.

“Rhaid ei adfer; fel arall bydd y lle’n hyll a pheryglus yn hytrach nag yn rhywle y gallwn ni ei ddefnyddio.”

Safle Ffos y Fran. Lluniau gan Cyfeillion y Ddaear Cymru

‘Gosod cynsail ofnadwy’

Ychwanega ei gŵr, Chris Austin, fod y sefyllfa’n gwneud i’w waed ferwi.

“Rydyn ni’n clywed fod y cwmni methu fforddio adfer y safle, a’u bod nhw wedi methu rhoi arian ar un ochr i wneud hynny dros y blynyddoedd, fel oedd gofyn iddyn nhw ei wneud,” meddai.

“Maen nhw wedi gwneud arian mawr dros y blynyddoedd drwy gloddio am y glo; i ble’r aeth yr arian?

“Pa neges mae hyn yn ei rhoi? Ei bod hi’n bosib gwneud busnes, gwneud arian, a pheidio cadw at ofynion er bod hynny’n effeithio’n negyddol ar bobol leol?

“Ei bod hi’n bosib parhau i weithio’n groes i gyfarwyddiadau’r awdurdod lleol a’n cynrychiolwyr etholedig yn ddi-gosb?

“Mae’n gosod cynsail ofnadwy.”

‘Cywilyddus’

Dywed Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, ei bod yn “gywilyddus” fod cloddio wedi parhau i ddigwydd yno’n anghyfreithlon ers cyhyd.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y cloddio’n gorffen nawr, ac mai dyma fydd diwedd safleoedd glo brig yng Nghymru,” meddai.

“Ond dyw heddiw ddim yn teimlo fel diwrnod i ddathlu – mae gweithwyr yn cael eu diswyddo’n hytrach na chael eu cadw i adfer y safle a’u cefnogi i ddod o hyd i swyddi eraill, ac mae’r holl broses wedi bod yn gymaint o ffars fel nad ydy hi’n bosib bod yn sicr be ddigwyddith nesaf.”

Mae yna ddadlau cyson wedi bod ynglŷn â dyfodol y safle, a phrotestiadau niferus gan ymgyrchwyr amgylcheddol, gan gynnwys grŵp Coal Action a Chyfeillion y Ddaear.

Ar ôl cyfnod o bymtheg mlynedd, roedd cloddio i fod i ddod i ben yno ym mis Medi 2022.

Ond fe barhaodd y gwaith yno, ond cafodd cais y cwmni am ragor o amser yn cael ei wrthod ym mis Ebrill.

Ddiwedd fis Mehefin, fe dderbyniodd y perchnogion orchymyn terfynol gan Gyngor Merthyr i roi’r gorau i’r gwaith o fewn 28 diwrnod, cyn i’r cwmni gyflwyno apêl newydd.

Roedd ymgyrchwyr newid hinsawdd wedi cyflwyno cais am adolygiad barnwrol i’r Uchel Lys wrth i’r dadlau am y safle barhau, cyn i Merthyr (South Wales) Limited gyhoeddi ym mis Awst eu bod nhw’n dod â’r cloddio i ben ar Dachwedd 30 ac yn cau’r safle.

Croesawu’r bwriad i gau glofa ym Merthyr Tudful erbyn diwedd Tachwedd

Cadi Dafydd

“Dw i’n meddwl bod tir a mwynion Merthyr wedi cael eu cipio ers cenedlaethau ac mae’n amser i Ferthyr gael cyfnod gwahanol nawr”