Bydd y rhan fwyaf o bobol Merthyr Tudful yn croesawu newyddion bod disgwyl i lofa leol gau fis Tachwedd, yn ôl cynghorydd lleol.

Mae perchnogion safle Ffos-y-Fran wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu cau ar Dachwedd 30 eleni, ac y bydd eu holl weithwyr yn colli’u swyddi.

Er bod y Cynghorydd Andrew Barry yn cydnabod ei bod hi’n “ofnadwy” bod tua 180 o weithwyr am golli’u gwaith, dywedodd fod y newydd yn “gyfle gwych” i gefnogi busnesau lleol a swyddi gwyrddach.

Fe ddaeth caniatâd cynllunio ar gyfer y safle glo brig i ben fis Medi’r llynedd, ond mae gweithio wedi parhau yno er hynny.

Mae cwmni Merthyr (South Wales) Ltd wedi dweud eu bod nhw wedi cyflwyno hysbysiad i Lywodraeth Cymru o’u bwriad i gau ddiwedd Tachwedd, unwaith bydd y gwaith o sicrhau diogelwch y safle wedi’i wneud.

Yn ôl Daniel Therkelsen o Coal Action, maen nhw’n cymryd y cyhoeddiad “gyda phinsiad o halen”.

‘Diwedd cyfnod’

Wrth siarad â golwg360, dywedodd Andrew Barry, sy’n gynghorydd Annibynnol yn cynrychioli tref Merthyr Tudful ar y cyngor sir, bod gwrthwynebiad wedi bod i’r safle ers y dechrau un.

“Mae rhai yn croesawu’r [cyhoeddiad], mae rhai yn colli’u swyddi ac yn amlwg mae hynny’n beth ofnadwy,” meddai.

“Fodd bynnag, dw i’n meddwl bod tir a mwynion Merthyr wedi cael eu cipio ers cenedlaethau ac mae’n amser i Ferthyr gael cyfnod gwahanol nawr.

“Rydyn ni angen edrych am dechnegol newydd, swyddi sy’n wyrddach.

“Mae’n ddiwedd cyfnod, ac un sy’n cael ei groesawu gan y mwyafrif dw i’n meddwl.”

Cefnogi busnesau lleol

Wrth gyfeirio at y gwaith fydd yn cael ei golli, dywedodd y cynghorydd bod y gwaith o “adennill y tir” am gymryd lle nifer o’r swyddi.

“Yn y tymor hirach, mae yna gyfle i ni gael safle yno lle gallwn greu swyddi. Gallwn gael swyddi cynaliadwy, hir dymor yno,” meddai.

“O safbwynt byd-eang, rydyn ni wedi dysgu, pan mae cwmnïau mawr yn gadael yr ardal – fel sydd newydd ddigwydd ym Mhen-y-bont – mae nifer sylweddol o swyddi’n cael eu colli a does yna ddim etifeddiaeth.

“Dw i’n meddwl mai’r hyn rydyn ni angen ei wneud ydy edrych mwy ar fusnesau cynhenid, rydyn ni angen cefnogi busnesau lleol sydd angen tyfu.”

Ychwanegodd Andrew Barry bod cyfleoedd yno ond mai’r broblem ydy’r economi fyd-eang sy’n dod â swyddi i’r dref yn hytrach na bod y canolbwynt ar gwmnïau lleol.

“Mae’n rhaid i hynny newid – rhaid i’r meicroeconomi ddod yn ganolbwynt. Tyfu’r meicroeconomi er mwyn bwydo mewn i’r macroeconomi fwy a’r economi fyd-eang,” meddai.

“Y peth pwysicaf i ni nawr ydy sicrhau bod gan bobol leol y cyfle i greu swyddi drwy eu hentrepreneuriaeth eu hunain.

“Mae yna newid mewn cyflogaeth, newid yn yr agwedd tuag at economïau, a dw i’n meddwl bod e’n rhoi cyfle gwych i ni nawr i wneud rhywbeth gwahanol a pheidio cadw at beth ydyn ni wastad wedi’i gael – y dur, glo a’r cloddio.

“Mae’r oes yna wedi mynd, ac mae hi’n amser ar gyfer newid. Dyna sydd gennym ni mewn golwg ar y funud, cefnogi mwy o fusnesau cynhenid, ac mae hyn yn rhoi cyfle gwych i ni wneud hynny.”

‘Bradychu’r gymuned’

Mae yna ddadlau cyson wedi bod ynglŷn â dyfodol y safle a phrotestiadau niferus gan ymgyrchwyr amgylcheddol, gan gynnwys grŵp Coal Action a Chyfeillion y Ddaear.

Ar ôl cyfnod o 15 mlynedd roedd cloddio i fod i ddod i ben yno ym mis Medi 2022.

Ond fe barhaodd y gwaith yno, ond cafodd cais y cwmni am ragor o amser yn cael ei wrthod ym mis Ebrill 2023.

Ddiwedd fis Mehefin fe dderbyniodd y perchnogion orchymyn terfynol gan Gyngor Merthyr i roi’r gorau i’r gwaith o fewn 28 diwrnod, cyn i’r cwmni gyflwyno apêl newydd.

Roedd ymgyrchwyr newid hinsawdd wedi cyflwyno cais am adolygiad barnwrol i’r Uchel Lys wrth i’r dadlau am y safle barhau.

“Rydyn ni, a’r cwmni, yn ymwybodol ein bod ni wedi dechrau her i’r adolygiad barnwrol ganol yr wythnos ddiwethaf yn sgil y cloddio anghyfreithlon [sy’n digwydd yno],” meddai Daniel Therkelsen o Coal Action wrth golwg360.

“Rydyn ni’n meddwl bod hyn efallai’n ymdrech i fwrw’r gweithredu cyfreithiol hwn oddi ar y cledrau.

“Er ein bod ni’n amau mai hyn fyddai’n digwydd, mae’n edrych fel nad yw’r cwmni cloddio yn bwriadu cwblhau’r holl waith adfer gafodd ei addo i Ferthyr Tudful.

“Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol i’r cwmni, mae peidio ei wneud yn bradychu’r gymuned leol ac mae hynny’n amlwg yn gwbl ofnadwy wedi i’r cwmni fod yn cloddio yn gwbl anghyfreithlon am dros 11 mis.”

Wrth ymateb i’r diswyddiadau, dywedodd Daniel Therkelsen mai’r peth lleiaf y bydden nhw’n ddisgwyl fyddai i’r gweithwyr gael gwahoddiad gan Lywodraeth Cymru i ymuno â’r Peilot Incwm Sylfaenol Cynhwysol, “er mwyn sicrhau bod y gweithwyr yn symud i ddiwydiannau eraill a ddim yn cael eu gadael heb swydd ar ddiwedd hyn”.

“Does yna ddim ymdrech, cyn belled ag rydyn ni’n ymwybodol, ar ran y cwmni i symud eu gweithwyr – rhywbeth rydyn ni wedi bod yn galw amdano ers y dechrau,” ychwanegodd.

“Pe baen nhw yn cadw at eu haddewid i adfer y safle yna byddai hynny’n cymryd blynyddoedd – blynyddoedd o waith i’r gweithwyr sydd yno’n barod a fyddai dim angen eu diswyddo.”