Bydd addysg nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei hymestyn fis nesaf, gyda chymhwyster ar gyfer gweithwyr cymorth gofal iechyd a chymdeithasol.

Fe fydd myfyrwyr yn gallu astudio Tystysgrif Addysg Uwch mewn Addysg Gofal Iechyd yn rhan amser dros ddwy flynedd a pharhau i weithio ar yr un pryd.

Mae’r cymhwyster yn cyd-fynd â safonau addysg y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, ac mae’n cyfateb i gwblhau blwyddyn gyntaf rhaglenni gradd BSc Nyrsio llawn amser y Brifysgol, ddechreuodd fis Medi y llynedd.

Fe fydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r cymhwyster Lefel 4 yn gallu ymuno ag ail flwyddyn gradd BSc Nyrsio’r Brifysgol os ydyn nhw’n dymuno.

Does dim ffi i ddilyn y cwrs, gan ei fod yn cael ei ariannu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Fodd bynnag, rhaid i fyfyrwyr fod yn gweithio mewn rôl gofal iechyd o fewn lleoliad iechyd neu ofal cymdeithasol yng Nghanolbarth Cymru.

Gall myfyrwyr ddewis astudio 50% o’u Tystysgrif Lefel 4 mewn Addysg Gofal Iechyd drwy’r Gymraeg.

‘Ymateb i anghenion’

Dywed Dr Angharad Jones, Cydlynydd y Cynllun ym Mhrifysgol Aberystwyth, eu bod nhw’n “falch iawn” o gynnig y cymhwyster am y tro cyntaf.

“Mae hefyd yn cynnig llwybr hyblyg iddynt tuag at radd BSc nyrsio os ydyn nhw’n penderfynu parhau â’u hastudiaethau,” meddai.

“Rydym wedi datblygu’r cwrs ar y cyd â’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb i anghenion hyfforddi’r gweithlu gofal iechyd rhanbarthol.”