Mae prosiect newydd i edrych ar sut mae modd mynd i’r afael â’r diciâu mewn gwartheg wedi dechrau yn Sir Benfro.

Bwriad Prosiect Sir Benfro, sy’n rhan o’r Cynllun Cyflawni TB mewn gwartheg, yw mynd i’r afael â “lefelau dwfn yr haint” mewn rhannau o’r sir.

Yn groes i’r sefyllfa genedaethol, sy’n gwella ar y cyfan, mae nifer achosion y diciâu yn Sir Benfro ar gynnydd.

Nod y prosiect yw hwyluso cydweithio rhwng milfeddygon a ffermwyr, a gwella’r gwaith o arwain ar reoli clefydau yn lleol.

Mae’r broses dendro wedi’i chwblhau, ac mae’r contract wedi’i ddyfarnu i grŵp prosiect dan arweiniad Iechyd Da (Gwledig) Ltd.

Dileu’r diciâu

Cyn Sioe Sir Benfro yr wythnos hon, dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, fod Llywodraeth Cymru’n “ymwybodol iawn” o her y diciâu mewn gwartheg, a’r gofid mae’n ei achosi i ffermwyr.

“Dyna pam rydym yn benderfynol o ddileu TB buchol yng Nghymru fel y nodir yn ein Cynllun Cyflawni, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni,” meddai.

“Rydym wedi gwneud cynnydd cyson ers 2009, gyda llai o fuchesi wedi’u heffeithio a llai o achosion newydd, ond gwyddom fod lefelau heriol o’r haint wedi bod yn Sir Benfro.

“Rwyf wedi dweud erioed na allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain, ac mae gweithio mewn partneriaeth â’n ffermwyr a’n milfeddygon yn hanfodol i gyrraedd ein nod cyffredin o Gymru heb TB.

“Dw i’n edrych ymlaen at weld canlyniadau’r Prosiect ac rwy’n gobeithio y bydd yn cael effaith gadarnhaol yma ac y gellir dysgu gwersi i weddill Cymru.”

Mae gwaith bellach ar y gweill i gyflwyno’r prosiect, a bydd rhagor o fanylion yn dilyn, meddai Llywodraeth Cymru.

‘Rheoli anifeiliaid risg uchel’

Dywed Dr Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, y bydd y prosiect yn gweithio gyda sampl fechan o ffermydd yn Sir Benfro, er mwyn “grymuso milfeddygon a ffermwyr i wneud penderfyniadau gwybodus a dangos arweiniad wrth reoli clefydau”.

“Bydd yn datblygu ac yn gweithredu dulliau ychwanegol o reoli TB buchol, yn ychwanegol i’r mesurau statudol a ddefnyddir yn yr ardal ar hyn o bryd,” meddai.

“Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar nodi risg clefydau gweddilliol wrth brofi gwartheg i fod yn glir a datblygu llwybr i leihau trosglwyddiad yr haint o wartheg i wartheg.

“Bydd hyn yn cynnwys adnabod a rheoli anifeiliaid risg uchel a goruchwylio arferion bioddiogelwch wrth ladd a milfeddygon.”