Mae’r Cynghorydd Beca Brown, sy’n cynrychioli ward Llanrug ac sy’n Aelod Cabinet dros Addysg yng Ngwynedd, wedi bod yn rhedeg cyfnewidfa dillad ysgol ar gyfer ysgolion Llanrug dros y ddau ddiwrnod diwethaf.
Ers dwy flynedd bellach, mae hi wedi bod yn casglu hen ddillad ysgol ar gyfer Ysgol Gynradd Llanrug ac Ysgol Uwchradd Brynrefail, ac yn eu rhannu nhw am ddim mewn digwyddiadau ar ddiwrnodau cyfnewid.
Y tro hwn, penderfynodd ei wneud yn ddigwyddiad deuddydd yn y Sefydliad Coffa yn y pentref, gan ei bod hi’n gweld mwy o angen bellach am ddillad ysgol fforddiadwy.
Mae hi hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn normaleiddio ailddefnyddio er budd y gymuned a’r amgylchedd.
‘Andros o lot o bres i wario ar ddillad ysgol’
Yn dilyn heriau dilynol fel y pandemig a’r argyfwng costau byw erbyn hyn, roedd Beca Brown yn teimlo bod angen iddi weithredu er mwyn helpu pobol yn ei chymuned.
“Beth sydd gen i fan hyn ydy rhyw fath o gyfnewidfa gwisg ysgol ar gyfer ysgolion Llanrug, sef Ysgol Gynradd Llanrug ac Ysgol Uwchradd Brynrefail,” meddai wrth golwg360.
“Dw i wedi bod yn gwneud o ers rhyw ddwy flynedd rŵan.
“Dw i’n dueddol o’i wneud o yn ystod gwyliau’r haf pan mae pawb, wrth gwrs, yn chwilio am wisg ysgol ar gyfer mis Medi, a gwyliau’r Pasg, ac weithiau yn yr hanner tymor yn yr hydref.
“Wnaeth o ddechrau fel rhyw fath o ymateb i heriau costau byw ac ar ôl y pandemig pan oedd pobol yn stryglo dipyn bach.
“Roedd yna gymaint o wisg ysgol oedd ddim wedi cael ei defnyddio yn ystod Covid pan doedd plant ddim yn yr ysgol.
“Ac wedyn, wrth gwrs, mae hi wedi bod yn un her ar ôl y llall, efo costau ynni yn cynyddu ac ati, a phobol yn teimlo’r esgid yn gwasgu.
“Wedyn ro’n i’n teimlo bod hwn yn rywbeth fedrwn i ei wneud sydd yn helpu pobol yn syth bin, mewn ffordd.
“Mae pawb yn dweud faint o gost ydy gwisg ysgol – ro’n i’n clywed bore yma rywun yn dweud bod siwmper newydd yn £26.
“Wel, mae o’n andros o lot o bres i’w wario ar ddillad ysgol, on’d ydi?”
‘Dylai fod yna ddim stigma o gwmpas defnyddio pethau ail-law’
Wrth gynnal y diwrnodau cyfnewid yn amlach, mae Beca Brown yn gobeithio y bydd yn gwneud lles i’r amgylchedd ac yn tynnu’r stigma oddi wrth ailddefnyddio yn gyffredinol.
“Mae o’n gwneud synnwyr o ran yr economi gylchol, pethau amgylcheddol…” meddai wedyn.
“Mae egwyddorion ailgylchu yn gyffredinol yn bethau pwysig i bawb, hyd yn oed pobol sydd yn gallu fforddio gwisg ysgol newydd.
“Mae ailddefnyddio yn rhywbeth y dylen ni gyd fod yn ei wneud er budd yr amgylchedd, a dw i’n meddwl bod o’n beth da i normaleiddio’r syniad o ailddefnyddio a bod pethau ail-law ddim yn rywbeth i fod â chywilydd ohonyn nhw.
“Ddylai fod yna ddim stigma o gwmpas defnyddio pethau ail-law.”
Ddoe (dydd Llun, Awst 14) oedd y diwrnod cyfnewid prysuraf iddi ei gweld, meddai, ac mae pobol yn parhau i roi at yr achos.
“Mae hi wedi bod yn andros o brysur.
“Roedd hi’n brysur iawn ddoe – dw i wedi gwneud o dros ddau ddiwrnod am y tro cyntaf y tro yma.
“[Mae] llwyth o deuluoedd a phlant bach wedi bod yn dod i mewn, a phawb yn siarad efo’i gilydd, pawb yn cyfnewid straeon ynglŷn â’r heriau sydd gennym ni i gyd efo’r cynnydd mewn costau byw.
“Mae jest yn braf bod yn gallu gwneud rhywbeth cymharol syml.
“Mae pawb wedi arfer rŵan efo’r ffaith bo fi’n gwneud o.
“Mae pobol yn landio yn fy nhŷ i efo bagiau o ddillad… pobol yn gollwng pethau yn fy porch.
“Mae genna’i gasgliad da o’r oedrannau i gyd rŵan, a phob math o ddillad, wedyn mae yna rywbeth yma i bawb.”