Mae’n bosib y bydd canol dinas Bangor yn cael ei hailddatblygu gyda chynlluniau ar gyfer prosiect gwerth £20m i adfywio’r ardal.

Mewn cyfarfod diweddar, penderfynodd Aelodau Cabinet Cyngor Gwynedd gefnogi cynlluniau i ddatblygu Canolfan Iechyd a Lles newydd yng Nghanolfan Menai.

Y nod ydy trawsnewid y gofod, sy’n cynnwys hen siop Debenhams, i ddarparu gwasanaeth iechyd a lles i bobol leol.

Bydd hyn yn ddibynnol ar Gynllun Canolfan Iechyd a Lles Bangor yn cael ei gymeradwyo ac ar sicrhau arian.

Mae’r Cyngor yn ceisio sicrhau ‘Cytundeb Opsiwn’ deunaw mis ar yr adeilad, fyddai’n rhoi amser i bartneriaid ddatblygu cynlluniau llawn ac achos busnes cyn ymrwymo i brydles tymor hir arno.

Mae’r cam hwn yn rhan o gynllun ehangach i ailddatblygu canol y ddinas yn sgil cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Prifysgol Bangor a Chyngor Gwynedd.

Yn ogystal, mae’r cynllun yn cynnwys:

  • bwriad Prifysgol Bangor ar gyfer Ysgol Feddygol Gogledd Cymru.
  • cynlluniau i ailddatblygu Campws Gwyddoniaeth Ffordd Deiniol, a dod â mwy o weithgarwch o safle’r hen goleg Normal yn nes at ganol y ddinas.
  • buddsoddiad tai a llety cymdeithasol
  • buddsoddiad mewn ysgolion lleol.
  • sgyrsiau rhwng Cyngor Gwynedd a Grŵp Llandrillo Menai ynglŷn â chyfleoedd i sefydlu peth o weithgarwch y coleg yng nghanol y ddinas.

‘Sbardun i adfywiad’

Dywed y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd, mai’r nod yw i’r Ganolfan Iechyd a Lles arfaethedig fod yn “sbardun ar gyfer adfywiad ehangach canol dinas Bangor, gan ddod â swyddi i ganol y ddinas a rhoi hwb i faint o bobol sy’n ymweld â’r stryd fawr”.

“Yn anffodus, mae Bangor – fel llawer o ddinasoedd llai eraill ar draws y wlad – wedi dioddef yn sgil y newidiadau yn arferion siopa a hamddena pobl, sy’n ei gwneud hi’n anoddach adfer o effeithiau’r cyfnod Covid,” meddai.

“Rydym yn hyderus y bydd ein cynlluniau yn helpu i roi bywyd newydd i ganol y ddinas a manteisio ar y cysylltiadau trafnidiaeth da.

“Mae pobol leol wedi dweud wrthon ni eu bod nhw’n poeni am Stryd Fawr Bangor a’r nifer o siopau gwag a’r diffyg gwasanaethau.

“Fel Cyngor, rydym yn benderfynol o sicrhau bod y ddinas hanesyddol hon yn parhau i fod yn lle bywiog i’r genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol i fyw, astudio, gweithio ac ymweld â hi.”

‘Bywiogi Bangor’

Ychwanega John Wynn Jones, Cadeirydd Partneriaeth Strategol Bangor ei fod yn “hynod falch” o’r datblygiad diweddar efo’r Hwb Feddygol.

“Dw i’n edrych ymlaen i weld hyn yn deillio ar sbardun i fywiogi a gwneud canol y Ddinas yn lle atyniadol unwaith yn rhagor,” meddai.