Mae Ben Lake wedi’i ddewis i frwydro sedd newydd Ceredigion Preseli yn enw Plaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Bydd ffiniau’r sedd newydd yn cyfuno Ceredigion a gogledd Sir Benfro.
Cafodd ei ddewis yn dilyn cyfarfod neithiwr (nos Lun, Awst 14), ac yntau wedi cynrychioli Ceredigion yn San Steffan ers 2017.
Fe gynyddodd ei fwyafrif ddwy flynedd yn ddiweddarach i 6,329 o bleidleisiau.
Mae sedd newydd Ceredigion Preseli yn ymestyn o Aberteifi i Lanrhian ar hyd arfordir Sir Benfro, ac yn cynnwys wardiau mewndirol Crymych, Clydau, Maenclochog a Chilgerran.
‘Anrhydedd’
“Mae’n anrhydedd cael fy newis yn ymgeisydd seneddol Plaid Cymru ar gyfer etholaeth newydd Ceredigion Preseli,” meddai Ben Lake.
“Mae wedi bod yn fraint aruthrol i wasanaethu pobl Ceredigion fel eu Haelod Seneddol ers 2017.
“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael y cyfle i geisio cael fy ailethol nid yn unig i barhau i gynrychioli fy sir enedigol yn San Steffan, ond hefyd i wasanaethu cymunedau gogledd Sir Benfro – o Landudoch ac Abergwaun, i Faenclochog, Crymych a Llanrhian.
“Heb os, mae gornest ffyrnig o’n blaenau am y sedd hon, ond rwy’n edrych ymlaen at yr her.
“Rwyf wedi cael fy nghalonogi’n fawr gan y croeso cynnes a gefais wrth siarad â phobl yn ystod fy ymweliadau diweddar ag Abergwaun a Nanhyfer.
“Mynegodd llawer eu anfodlonrwydd gyda’r Llywodraeth Geidwadol bresennol, ac rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i’w darbwyllo yn y misoedd nesaf i roi benthyg eu pleidlais i mi yn yr etholiad cyffredinol.
“Rwy’n ddiolchgar i aelodau Plaid Cymru ar hyd a lled yr etholaeth newydd am fy enwebu.
“Ni allaf aros i ddechrau’r ymgyrch, a byddaf yn gwneud fy ngorau glas i argyhoeddi pobl yr etholaeth newydd wych hon, sef Ceredigion Preseli, fy mod yn deilwng o’u cefnogaeth.”
‘Aelod Seneddol rhagorol’
“Mae Ben wedi bod yn Aelod Seneddol rhagorol dros Geredigion ers iddo gael ei ethol yn 2017, gan ymgyrchu ar y materion dybryd sydd o bwys yn lleol,” meddai Catrin Miles, cadeirydd etholaeth Plaid Cymru Ceredigion.
“Mae wedi gwneud hynny ochr yn ochr â gweithredu ar lefel cenedlaethol fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig ac fel aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – y pwyllgor goruchwylio hynaf ac, yn ôl rhai, y mwyaf dylanwadol yn Senedd San Steffan.
“Gyda chefnogaeth ysgubol aelodau’r blaid yn yr etholaeth newydd, rwy’n edrych ymlaen at gefnogi Ben i sicrhau bod ein llais yn parhau i gael ei glywed yn San Steffan.”
Yn ôl Elin Jones, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Geredigion, mae Ben Lake yn Aelod Seneddol “gweithgar, deallus a chydwybodol sy’n uchel ei barch yn lleol yn ein cymunedau ac yn San Steffan”.
Dywed ei fod e “wedi ennill parch gan gydweithwyr o bob plaid yn Nhŷ’r Cyffredin”.
“Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â’m cyd-aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru i helpu Ben yn ei uchelgais i fod yn Aelod Seneddol cyntaf ar gyfer sedd newydd Ceredigion Preseli,” meddai.