Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyhoeddi digwyddiad mawr mewnol, yn dilyn pryderon am y deunyddiau adeiladu gafodd eu defnyddio i godi Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd a rhannau o Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
Mae’r bwrdd iechyd am geisio darganfod maint y broblem, a faint yn union o Goncrid Awyrog Awtoclaf Cyfnerth (RAAC) sydd yn yr adeilad yn Hwlffordd, a hynny er mwyn eu galluogi nhw i weithredu eu strwythurau gorchymyn a rheoli mewnol.
Drwy alw digwyddiad mawr mewnol, mae’r bwrdd iechyd hefyd yn gallu blaenoriaethu gwaith eu timau i ymdrin â’r mater, a manteisio ar gymorth gan asiantaethau partner sy’n aelodau o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed Powys.
Mae RAAC yn ddeunydd cyffredin gafodd ei ddefnyddio wrth godi adeiladau rhwng y 1960au a’r 1990au.
Mae ei bresenoldeb wedi’i gadarnhau yn Ysbyty Llwynhelyg, ac mewn rhan gyfyngedig o Ysbyty Bronglais, ac mae hefyd wedi’i nodi mewn amrywiaeth o eiddo’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys sawl eiddo yng Nghymru.
“Rydym yn gweithio gyda chontractwr allanol a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru i nodi maint y broblem – mae hyn yn golygu arolygu pob un o’r planciau RAAC ar y safle,” meddai’r bwrdd iechyd.
“Lle nodir materion strwythurol, mae graddau’r gwaith adfer hefyd yn cael ei asesu.
“Rhoddwyd cynlluniau ar waith ym mis Mai 2023, ar ddechrau’r broses arolwg, i reoli’r effaith ar weithrediad gwasanaethau dydd i ddydd yn yr ysbyty a blaenoriaethu argaeledd gwelyau ysbyty.
“Fodd bynnag, wrth i’r arolwg fynd rhagddo, mae maint y materion a nodwyd yn rhoi pwysau ychwanegol ar argaeledd gofod clinigol ac mae’n debygol o gael effaith ganlyniadol ar ein gwasanaethau.
“Hyd yma, bu angen cau tair ward yn Llwynhelyg oherwydd cyflwr y planciau RAAC a ddarganfuwyd, gyda’r sefyllfa’n cael ei rheoli a chleifion yn cael eu hadleoli i leoliadau eraill y bwrdd iechyd yn Sir Benfro.
“Ein bwriad yw rheoli cymaint â phosib o adleoli cleifion o fewn Sir Benfro.
“Er yr ymdrechion gorau i gynnal gwaith arolygu cyn gynted â phosibl, mae canfyddiadau’r gwaith arolwg mewn rhai achosion yn ei gwneud yn ofynnol i symud cleifion o wardiau i leoliadau eraill ac addasu gwasanaethau i adlewyrchu argaeledd y safle.
“Mae hyn yn debygol o gael effaith ar wasanaethau eraill y bwrdd iechyd mewn safleoedd eraill wrth inni symud cleifion a gwasanaethau.
“Mae mesurau lliniaru lleol hefyd yn cael eu rhoi ar waith, gan gynnwys propiau strwythurol a chau ardaloedd yr effeithir arnynt dros dro.”
Cyngor i gleifion
Yn ôl y bwrdd iechyd, dylai cleifion fynd i’w hapwyntiadau yn ôl eu harfer.
Ond maen nhw’n rhybuddio y gall fod angen newid y drefn arferol “ar fyr rybudd” ac os felly, bydd cleifion yn cael gwybod.
Mae modd cael hyd i ragor o wybodaeth ar y wefan biphdd.nhs.wales/RAAC.
“Gwyddom y gall y gwaith arolygu a’r camau adferol achosi tarfu sylweddol a phryder ymhlith aelodau ein cymunedau,” meddai’r bwrdd iechyd.
“Dymuna’r bwrdd iechyd ddiolch i staff, cleifion ac ymwelwyr yr ysbyty am eu hamynedd a’u dealltwriaeth dros y misoedd nesaf wrth i ni gynnal y gwaith hanfodol hwn.”