Mae angen diwygio’r gefnogaeth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru, yn ôl grŵp o famau.

Er bod y drefn wedi cael ei diwygio yn 2021, mae ALN Reform Cymru yn amcangyfrif bod tua 42,000 o blant ag anghenion ychwanegol wedi cael eu gadael heb gefnogaeth ers y newid.

Yn ôl y grŵp, sydd i gyd yn famau i blant ag anghenion ychwanegol, mae yna broblemau gyda chysondeb ac atebolrwydd hefyd.

Mae lle i ymestyn y ddarpariaeth Gymraeg hefyd, medd yr ymgyrchwyr, ac mae ganddyn nhw bryderon am y drefn sy’n annog y syniad y dylai pob plentyn gael cefnogaeth mewn addysg prif lif.

Ers i’r Cod newydd ddod i rym yn 2021, mae plant yn symud o’r system Anghenion Addysgol Arbennig i’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol dros bedair blynedd tan Awst 2025.

Bydd gan bob plentyn a pherson ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol Gynllun Datblygu Unigol, medd Llywodraeth Cymru, ond mae gan ALN Reform Cymru bryderon fod y newid yn y gofynion rhwng y drefn Anghenion Addysgol Arbennig ac Anghenion Dysgu Ychwanegol yn golygu bod plant yn cael eu methu.

Mae’r cyfrifiad ysgolion diwethaf yn dangos bod 97,551 o blant ag anghenion addygol arbennig mewn ysgolion yng Nghymru yn 2020.

Erbyn 2022, roedd 74,661 o blant ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru, ac erbyn 2023 gostyngodd y nifer i 63,100.

Rhwng 2008 a 2021, roedd y ffigwr yn gyson rhwng 90,000 a 105,000, yn ôl ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

“Mae yna tua 42,000 o blant oedd ar y gofrestr anghenion ychwanegol wedi diflannu, dydyn nhw ddim wedi cael eu cofrestru nawr,” meddai Vicci Lightbown, datblygwr prosiect ALN Reform Cymru, wrth golwg360.

“Oherwydd y system newydd, dydyn nhw ddim yn cyrraedd y gofynion.

“Ond wrth gwrs, dydyn nhw ddim wedi diflannu; mae ganddyn nhw dal anghenion.”

Anghysondebau

Mae gan Vicci Lightbown, sy’n byw yn Rhuthun, bryderon am yr anghysondeb yn y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion ychwanegol dros Gymru hefyd, yn ogystal â nifer y staff sydd wedi derbyn hyfforddiant.

Dywed y dylai’r ddarpariaeth fod yn gyson dros yr holl wlad.

“Yn Sir Ddinbych maen nhw wedi gyrru athrawon ar gyrsiau penodol ac mae plant sy’n mynd i’r ysgolion hynny â mynediad at athro â hyfforddiant ychwanegol, ond os fysan ni’n symud o Sir Ddinbych [efallai na fyddai hynny’n wir],” meddai.

“Os nad ydy hwnna’n rhywbeth cynhwysol i Gymru i gyd, dydy o ddim yn ddarpariaeth universal.

“Mae o wedi dod yn loteri cod post. Mae be’ gewch chi’n dibynnu ar le rydych chi’n byw yng Nghymru.

“Mae’n achosi rhaniadau mawr o fewn y wlad, mae’n rhoi cyfle i awdurdodau lleol wneud esgusodion dros pam nad ydyn nhw’n gosod darpariaeth mewn lle i’r plant hyn – maen nhw’n dweud bod o ar gael yn universal ond be ydy’r gwir ydy bod y gofynion er mwyn cael y darpariaethau, felly dydy o ddim ar gael i bob plentyn.

“Mae o ar gael i blant sy’n cyrraedd y gofynion.

“Fedrith o ddim bod yn universal os nad ydy o ar gael i bob plentyn.”

Prosesau hir

Er mwyn cael eu rhoi ar gofrestr o blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, mae nifer o rieni’n gorfod mynd drwy brosesau hir.

Tra bod awdurdodau lleol yn cael deuddeg wythnos i ddod i benderfyniad, dydy ysgolion ond yn cael 35 diwrnod.

Ysgolion sy’n gwneud yr asesiadau ac yn dod i’r penderfyniad yn y lle cyntaf.

“Roedd fy merch yn ei chael hi’n anodd yn yr ysgol, fe wnaethon ni symud hi i ysgol fwy oherwydd bod ganddyn nhw enw da o ran eu profiad gyda phlant ag anghenion ychwanegol, ond wnaeth hynny ddim gweithio,” meddai Vicci Lightbown wedyn.

“Fe wnaethon ni drio am ALN Determination drwy’r awdurdod lleol. Oherwydd nad oedd hi’n mynd i’r ysgol, cafodd ei wneud drwy’r awdurdod lleol yn hytrach na’r ysgol.”

Ar ôl gwneud y cais fis Rhagfyr y llynedd, chafodd y teulu ddim penderfyniad tan fis Mehefin, yn ôl y fam.

“Mae yna anghysondeb mawr, a does neb yn dal yr awdurdodau lleol yn atebol,” meddai.

Addysg prif lif

Mater arall sy’n codi ydy bod plant dan bump oed yn cael eu rhoi mewn ysgolion prif lif heb gefnogaeth, dan yr argraff y byddan nhw’n “dal fyny” gydag amser, meddai.

“Er bod yna lot o dystiolaeth i ddangos bod gan blentyn anghenion, fydd yr awdurdod lleol yn gyrru nhw i’r ysgol a geith yr ysgol weithio pethau allan.

“Erbyn hynny fydd y plentyn yn yr ysgol a fydd y berthynas rhwng ysgolion a rhieni’n wael oherwydd bod rhieni’n teimlo nad ydyn nhw’n cael cefnogaeth.

“Mewn theori, gall fy mab fynd i ddosbarth meithrin yn yr ysgol fis Medi. Mae ganddo sgiliau iaith a llefaredd plentyn dan 18 mis, mae o’n impulsive iawn, fe wnaeth o adael lleoliad meithrin drwy ddringo dros eu ffens, ac maen nhw eisiau iddo fo fynd i ysgol prif lif heb unrhyw gefnogaeth.

“Dw i’n amlwg yn caru fy mab, ond fedra i ddim dechrau dychmygu’r straen fyddai hynny’n ei roi ar athrawon a phlant eraill drwy gael plentyn yno sy’n dringo dros yr holl ddodrefn, yn trio dringo dros ffensys, wneith o ddim gwisgo dillad yn iawn.

“Dan y syniad yma o fod yn gynhwysol byddai’n mynd i ysgol prif lif, ond yn anffodus dydy hynny ddim yn gweithio i bob plentyn.”

Mae ALN Reform Cymru yn galw am god cyffredinol i ddarparu addysg gynhwysol o safon i bob disgybl ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru, ynghyd â sicrhau adnoddau a hyfforddiant priodol i staff.

Byddan nhw hefyd yn cynnal protest yng Nghaerdydd fis Hydref i alw am newidiadau, ac mae eu deiseb i Lywodraeth Cymru wedi derbyn bron i 3,000 o lofnodion mewn tua thair wythnos.

‘Sicrhau cysondeb’

Wrth ymateb, dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd eu diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gwella canlyniadau i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

“Maent wedi’u cynllunio ac yn cael eu gweithredu i ymateb i anghenion pob unigolyn,” meddai.

“Mae’r system newydd yn cael ei chefnogi gan ddeddfwriaeth a’r Cod ADY cenedlaethol i sicrhau cysondeb ar draws Cymru.

“Rydym wedi gwneud buddsoddiad sylweddol i gefnogi’r diwygiadau mewn ysgolion.

“Rydym wedi buddsoddi mwy na £70m i gefnogi’r gwaith o weithredu’r system ADY newydd a strategaethau ysgol-gyfan i wreiddio addysg gynhwysol.

“Bydd gan bob plentyn a pherson ifanc ag ADY Gynllun Datblygu Unigol.

“Rydym lai na dwy flynedd i mewn i gyfnod gweithredu pedair blynedd, ac mae ysgolion ac Awdurdodau Lleol yn cyflwyno Cynlluniau Datblygu Unigol yn raddol.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Sir Ddinbych.

Disgybl yn ysgrifennu mewn llyfr nodiadau

Diffyg darpariaeth dyslecsia Cymraeg yn “syfrdanol”

Cadi Dafydd

“Ar hyn o bryd, mae o mor anodd cael at y cymorth sydd ar gael yng Nghymru”