Mae YesCymru yn dweud eu bod nhw wedi lansio ysgoloriaeth er cof am y diweddar Eddie Butler i “nodi ei gyfraniad” dros annibyniaeth.
Bydd y mudiad sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru yn cynnal darlith goffa flynyddol ac yn gwobrwyo person ifanc am ysgrifennu a chyflwyno’r araith orau dros ymreolaeth.
Fe fydd y wobr yn cael ei chyflwyno am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf haf nesaf, ac maen nhw’n gobeithio agor y gystadleuaeth yn yr hydref.
Bwriad yr ysgoloriaeth yw dathlu a datblygu’r genhedlaeth nesaf o areithwyr, a bydd y wobr ar agor i ddisgyblion ysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion rhwng 14 a 21 oed.
‘Codi proffil yr achos’
Mae YesCymru wedi derbyn cefnogaeth teulu’r darlledwr, ac mae’n bosib y bydd aelod o’r teulu ar y panel, yn ôl Phyl Griffiths.
“Roedden ni i gyd wedi cael ergyd ofnadwy pan glywon ni am farwolaeth Ed yn ôl ym mis Medi’r llynedd, a’r ffaith wedi hynny ein bod ni’n teimlo y dylen ni wneud rhywbeth i nodi ei gyfraniad e i’r achos,” meddai cadeirydd YesCymru wrth golwg360.
“Heb ei gyfraniad e, fyse’r cyfnod clo wedi bod yn gyfnod llawer tywyllach nag oedd e, ac roedd e wedi cadw llawer ohonom ni i fynd, y syniad bod y gorymdeithiau’n mynd i ailgychwyn rywbryd ar ôl y cyfnod clo.
“Roedd Ed hefyd wedi codi proffil yr achos yn eithriadol o uchel, ac yn ei gwneud hi’n iawn i bobol o broffil uchel i siarad dros annibyniaeth hefyd.
“Rydyn ni’n edrych nawr ar y genhedlaeth nesaf, ac rydyn ni mo’yn defnyddio hwn fel ffordd o estyn allan a chanfod yr Ed Butler newydd, os liciwch chi, pobol ifanc sy’n teimlo bod ganddyn nhw ddawn i roi dadl at ei gilydd ac i siarad yn gyhoeddus ac i ysbrydoli ac i berswadio.
“Popeth roedd Ed mor dda yn ei wneud, roedden ni’n gweld wedyn bod cyfle i ni grisialu hynny wedyn mewn i ryw fath o gystadleuaeth.”
Briff “agored”
Bydd pawb fydd yn cyrraedd y rhestr fer yn cael cyfle i ffilmio’u haraith a chreu fideo proffesiynol, a bydd yr ysgoloriaeth ar agor i geisiadau yn Gymraeg a Saesneg, gyda YesCymru’n darparu cyfieithiad naill ffordd.
“Mae’r briff yn mynd i fod yn agored iawn, rydyn ni moyn targedu pobol a thapio mewn i’r creadigrwydd nhw hefyd felly efallai fydd y briff yn dweud rhywbeth fel ‘Dychmygwch eich bod chi ar lwyfan gorymdaith annibyniaeth a dyma eich pum munud i berswadio ac ysbrydoli’r gynulleidfa’, a’u bod nhw wedyn yn cael defnyddio eu talentau nhw,” meddai Phyl Griffiths.
“Mae gofyn bod e’n araith, ond os ydyn nhw mo’yn defnyddio unrhyw elfennau eraill er mwyn atgyfnerthu, os yw e’n ychwanegu at gryfder yr araith… gwych.
“Bydd y panel yn cael ei wneud lan o gyfarwyddwyr YesCymru a chwpwl o bobol o tu fa’s i YesCymru, awdur neu berfformiwr neu rywun efallai o deulu Ed, fel bod y cyswllt teuluol yna o hyd.”
Fe fydd y ddarlith goffa yn digwydd ar y cyd, ac yn cael ei rhoi gan enwau adnabyddus.
“Reit ar y diwedd, bydd enillydd ysgoloriaeth Eddie Butler yn cael ei gyhoeddi hefyd, felly cyfle wedi hynny i bawb gael gweld y fideo o’r araith fuddugol,” meddai.