Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o’i gwneud hi’n haws i gwmni o Loegr gael defnyddio darn o dir ym Mhorthmadog, ar draul busnesau lleol.
Er bod y darn o dir ar Stad Ddiwydiannol Penamser wedi bod yn wag ers bron i ddeng mlynedd, mae busnesau lleol wedi’u gwahardd rhag gwneud cais i ddatblygu’r safle oherwydd cytundeb agored Llywodraeth Cymru gyda’r datblygwr Morbaine Ltd o Widnes yn Swydd Gaer.
Cafodd y mater ei godi gan Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, gyda’r Prif Weinidog Mark Drakeford.
Mae’r gwleidydd, gyda chefnogaeth cynghorwyr lleol, eisiau gweld safle sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru ar gael i fusnesau lleol er mwyn cryfhau a datblygu economi Porthmadog.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wrthi’n gweithio tuag at gwblhau’r gwaith o werthu’r tir.
‘Colli cyfleoedd’
Dywed Mabon ap Gwynfor ei fod o wedi codi’r mater gyda’r Prif Weinidog er mwyn ceisio cael eglurder ynghylch pam fod busnesau lleol yn cael eu hatal rhag datblygu’r safle.
“Mae’r darn hwn o dir wedi bod yn wag ers bron i ddeng mlynedd heb unrhyw arwydd gan y datblygwr na Llywodraeth Cymru bod unrhyw gynigion pendant yn cael eu llunio,” meddai.
“Bu cynlluniau i ddatblygu’r safle gan wahanol gwmnïau, ond nid oes dim wedi dwyn ffrwyth. Sawl cyfle arall sydd am gael ei golli?
“Trethdalwyr Cymru yn y pen draw sy’n talu am y safle hwn sy’n gorwedd yn segur, gyda photensial economaidd lleol yn cael ei atal gan ddiffyg gweithredu gan y llywodraeth.
“Galwaf ar Lywodraeth Cymru i roi’r gorau i’w cytundeb agored â Morbaine Ltd a chaniatáu i gwmnïau lleol gyflwyno cynigion realistig i droi’r safle o fod yn dir diffaith agored yn ganolbwynt i weithgarwch economaidd.
“Mae Morbaine Ltd wedi cael deng mlynedd i ddatblygu’r tir ac eto ychydig o elw a welsom ar eu cytundeb â Llywodraeth Cymru.
“Mae’n hen bryd i’r cytundeb agored hwn ddod i ben.
“Ni ddylid caniatáu i ddatblygwyr mawr heb fawr o ddiddordeb yn ein heconomi fynd fancio tir safleoedd datblygu i wneud y mwyaf o elw ar draul cwmnïau lleol.”
‘Dim synnwyr’
Ychwanega’r Cynghorydd Nia Jeffreys, y cynghorydd lleol, ei bod hi “tu hwnt i gred y byddai Llywodraeth Cymru yn caniatáu i dir fod yn ddiffaith pan fo diddordeb lleol i ddatblygu’r tir a chreu swyddi”.
“Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl bod arian cyhoeddus yn cael ei wario ar y safle hwn tra bod Llywodraeth Cymru yn atal creu swyddi ym Mhorthmadog,” meddai Nia Jeffreys, sy’n gynghorydd Plaid Cymru dros ward Dwyrain Porthmadog ar Gyngor Gwynedd.
“Rhaid iddynt ailystyried o ddifrif eu penderfyniad a’u blaenoriaethau er mwyn ein heconomi leol.”
‘Gwerthu’r tir’
“Rydym wrthi’n gweithio tuag at gwblhau’r gwaith o werthu’r tir dan sylw, a fydd yn hwyluso’r cynllun datblygu arfaethedig a chreu swyddi cysylltiedig yn yr ardal,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.