Cafodd cynllun newydd i gydlynu’r gwaith o gludo nwyddau o Gymru i’r Wladfa ei lansio ar Faes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd eleni.
Bydd y gwasanaeth gwirfoddol newydd yn gweithredu fel dolen gyswllt rhwng Cymru â’r Ariannin dan yr enw ‘Y Blwch’, ac yn helpu ysgolion a phobol i dderbyn y nwyddau maen nhw eu hangen.
Yn ôl Rhys Llewelyn, cyn-athro yn y Wladfa a chydlynydd y gogledd ar gyfer y cynllun, mae ymwelwyr yn aml yn awyddus i fynd â nwyddau draw, ond mae angen gwirio beth sydd ei angen i arbed dyblygu.
Bydd Ann-Marie Lewis o Sir Gâr, sydd hefyd yn gyn-athrawes yno, yn cydlynu’r cynllun gyda Rhys Llewelyn.
‘Gweithio’r ddwy ffordd’
Yn ôl Rhys Llewelyn, fe glywodd Cymdeithas Cymru-Ariannin yn yr Eisteddfod fod niferoedd uchel yn ymweld â’r Wladfa eleni.
Mae’n dweud bod hyn yn gyfle da i ddechrau ar y cynllun.
“Mae gen ti ewyllys dda fawr gan ymwelwyr â’r Wladfa cyn iddyn nhw fynd yna ac ar ôl iddyn nhw fod draw yno ar ymweliadau,” meddai wrth golwg360.
“Be’ rydyn ni’n trio’i sicrhau ydy bod yr adnoddau sy’n cael eu rhoi i’r Wladfa yn rhai gwerthfawr a heb fod yn dyblygu ar y nwyddau.
“Mae yna duedd yn y gorffennol bod yna ormod o’r un fath o lyfrau’n cael eu hanfon yna, ac felly rydyn ni’n trio gweld be’ ydy’r galw.
“Ond mae pobol o Gymru eisiau gwybod be’ i fynd efo nhw ac yn union be’ maen nhw ei angen.
“Mae’r holl gymunedau yno yn ddiolchgar iawn am y rhoddion caredig maen nhw’n eu derbyn yn barod, ond mae angen gwirio be’ maen nhw eu hangen.
“Mae yna aelod o Gymdeithas Cymru-Ariannin wrthi yn gwneud arolwg o’r adnoddau maen nhw eu hangen ar gyfer yr ysgolion a’r canolfannau.
“Ond hefyd gallwn ni gludo nwyddau i unigolion.”
Rhan arall o’r cynllun yw’r posibilrwydd o gludo nwyddau i Gymru o’r Ariannin, yn ôl Rhys Llewelyn.
“Mae gen ti Tŷ Toschke ym Madryn – maen nhw wedi creu cwpanau peintiau plastig yn dweud ‘cwrw da’, fel y rhai ti’n eu cael yn yr Eisteddfod,” meddai.
“Felly maen nhw’n awyddus i ddod â phethau o fan yno draw i Gymru hefyd, fel bod o’n gweithio’r ddwy ffordd.”
Bydd rhagor o wybodaeth am y cynllun ac anghenion y cymunedau yn y Wladfa cael eu rhannu ar dudalen Facebook Cymdeithas Cymru – Ariannin.
Un o Fadryn yn gweld Llŷn am y tro cyntaf
Rhai fu’n lansio’r gwasanaeth yma oedd Liz Saville-Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor-Meirionnydd yn San Steffan, ac Eduardo Marinho o Borth Madryn, sydd yng Nghymru ar hyn o bryd am y tro cyntaf.
Mae Eduardo Marinho yn gweithio yn Amgueddfa’r Glanio ym Mhorth Madryn a dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2017.
Er nad oes ganddo gysylltiadau gyda Chymru, daeth yn ymwybodol o hanes y Cymry cyntaf yn cyrraedd Y Wladfa ym Mhorth Madryn tra’n gweithio yn yr amgueddfa yno.
Yn 1998, fe wnaeth Nefyn efeillio gyda Phorth Madryn a chafodd Eduardo Marinho gyfle i ymweld â Nefyn yn ystod yr Eisteddfod.
“Mae Eduardo wedi dysgu Cymraeg ac wedi bod draw yn Nefyn a Chastell Madryn hefyd, sydd yn y pentref a ddaeth Love Jones-Parry, sylfaenwr y Wladfa,” meddai Rhys Llewelyn.
Cryfhau’r cysylltiad
“Rydw i’n hynod o falch fod y ddolen rhwng Cymru â’r Ariannin yn cael ei chryfhau gyda lansiad ‘Y Blwch’ ar faes yr Eisteddfod sydd mor agos i dref Nefyn,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mae’r ysgolion yn y Wladfa angen adnoddau megis pocedi lamineiddio, gemau snap Lotto, blwtac, clocsiau, gemau bwrdd, gemau magnetig, llythrennau magnetig, posteri, sticeri iaith, bynting y Ddraig Goch.”