Ymateb cymysg sydd wedi bod gan fusnesau lleol ynglŷn ag effaith Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd arnyn nhw.

Roedd rhai busnesau’n brysur iawn dros wythnos yr Eisteddfod, ac eraill wedi’u siomi ac wedi disgwyl mwy.

Ond maen nhw’n tybio bod nifer o resymau y tu ôl i hyn, gan gynnwys yr argyfwng costau byw a ffyrdd o’u cyrraedd.

‘Wythnos dawel iawn’

Mewn neges ar Facebook, gofynnodd perchennog Gwesty Plas y Goedlen yn Edern ger Nefyn, ‘Rhywbeth ar goll, allwch chi ddweud wrthyf beth?’, wrth ffilmio bar a bwyty gwag am 12.30yh ddydd Mercher (Awst 9).

“Roedd hi’n wythnos dawel iawn gyda phrin neb yn defnyddio’r bwyty na’r bar,” meddai’r perchennog Nick Grimes wrth golwg360.

“Doedd dim ymwelwyr lleol nac o’r Eisteddfod o gwmpas.

“Roedd y gwesty yn llawn o drigolion fel y mae yn ystod pob haf, ond yn anffodus roedd ein cogyddion a staff yn aros o gwmpas i gwsmeriaid gyrraedd.

“Nid dyna oeddem yn ei ddisgwyl mewn gwirionedd gyda phob pentref yn mynd i ymdrech enfawr i addurno a chroesawu’r eisteddfod, ac yn anffodus cafodd eu gwaith caled ond ei weld gan ychydig.

“Nid fy ngwesty i yn unig oedd yn dawel iawn.

“Fe wnaeth llawer o fusnesau ddweud yr un fath gyda thafarndai yn cau am naw o’r gloch oherwydd diffyg cwsmeriaid, a busnesau ym Mhwllheli yn dweud ei fod yn waeth na’r gaeaf.”

Disgwyl ‘gwallgofrwydd llwyr’

Un arall oedd wedi’i synnu gan nifer yr ymwelwyr yn ystod yr wythnos oedd rheolwr tafarn Y Llong yn Edern.

“Roedden ni’n disgwyl gwallgofrwydd llwyr â bod yn onest,” meddai Liam Berry wrth golwg360.

“Wnaethon ni stocio i fyny, ac roedden ni wedi prynu miloedd o gwpanau plastig.

“Wnaethon ni stocio’n uchel at y barbeciw roedden ni’n ei redeg hefyd.

“Ond â bod yn onest, dyma’r wythnos dawelaf i ni ei chael ers i ni ailagor ddechrau’r mis diwethaf.”

Daw hyn yn dilyn amryw o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos ac ymweliad gan Hansh S4C ar gyfer fideo i arddangos y tafarndai lleol.

Mae Liam Berry yn cwestiynu a oedd digon o waith hyrwyddo’r drafnidiaeth i gyrraedd busnesau o amgylch lleoliad y maes.

“Efallai nad oedd pobol wedi’u hannog digon i fentro i’r busnesau lleol a defnyddio’r bysus gwennol i wneud hyn,” meddai.

“Ond hefyd, mae yno gymaint yn mynd ymlaen mewn gŵyl.”

Yn ôl Liam Berry, mae hi’n dawelach na’r arfer yn ystod mis Awst ymysg twristiaid hefyd.

“Mae lot o deuluoedd wedi bod yn dod ar eu gwyliau i’r ardal yma ers rhyw ugain mlynedd,” meddai.

“Ond wnes i sylweddoli bod rhai o’r meysydd carafanau wedi bod yn dawel yr wythnos yma.

“Dw i’n meddwl bod rhai wedi osgoi dod yr wythnos yma oherwydd y traffig ac yn poeni y bydden nhw ddim yn gallu teithio o gwmpas mor hawdd.

“Mae’n arwydd o’r amseroedd hefyd gyda’r argyfwng costau byw.

“Does gan bobol ddim lot o arian i’w wario, ond eto roedd yr Eisteddfod yn ddrud gyda pheint yn costio £6.50 heb gwpan.”

‘Fysa pawb yn licio gweld yr Eisteddfod yn dod yn ôl’

Mae hi wedi bod yn stori wahanol i rai busnesau eraill, wrth i gwsmeriaid heidio draw.

Un sydd wedi gweld cwsmeriaid o’r Eisteddfod ers mis Mehefin ydy Hefina Pritchard, perchennog bwyty Whitehall ym Mhwllheli.

“Cawsom wythnos grêt,” meddai wrth golwg360.

“Ond ers i’r gwaith adeiladu gychwyn ar y maes ym mis Mehefin, rydyn ni wedi bod yn cael nifer fawr o weithwyr yr Eisteddfod yn dod yma.

“Rwyt ti’n sôn am bob nos.

“Mae’r peth yn grêt.

“Roedd Nefyn wedi bod yn ofnadwy o brysur hefyd, oherwydd bod ganddyn nhw gigs Cymdeithas yr Iaith yna.

“Mae Pwllheli yn dref Gymreig iawn efo lot o Gymry Cymraeg yn byw yma, ac mae gen ti lwyth o fusnesau annibynnol sy’n cael eu rhedeg gan Gymry Cymraeg.

“Dw i’n gwybod fod ambell un wedi cau wythnos yma, er mwyn iddyn nhw gael mynd i’r Eisteddfod.

“Ac er ei bod hi’n dref Gymreig iawn, roedd lot o bobol yn y dref erioed wedi bod yn yr Eisteddfod.

“Roedd rhai’n dweud wythnosau yn ôl, ‘Mae hi’n rhy ddrud yna, dydyn ni’m yn mynd’.

“Wedyn, maen nhw wedi mynd unwaith dechrau’r wythnos ac wedi troi allan yn mynd bob dydd ac wedi gwirioni efo’r lle.

“Mae hi’n bwysig bod yr Eisteddfod yn dal i drafeilio, ac mae yna bobol yn y dref yma sy’n edrych ymlaen at Wrecsam yn barod.

“Ond dw i’n meddwl y bysa pawb yn licio gweld yr Eisteddfod yn dod yn ôl.”

‘Ar y ffens’

Cafodd Caffi Ni, sydd rhwng Pistyll a Nefyn, wythnos eithaf prysur, meddai’r perchennog.

Serch hynny, doedd hi ddim mor brysur ag yr oedden nhw wedi’i ddisgwyl.

“Dw i methu cwyno fy mod i ar fy ngholled, achos roedden ni’n brysur dros frecwast, ond alla i ddim dweud fy mod i wedi gwneud ffortiwn chwaith,” meddai Nia Humphries wrth golwg360.

“Ar y cyfan, roedd hi’n wythnos brysur, ond dw i’n teimlo, am ein bod ni tu allan i bentref Nefyn, doedd pobol ddim yn mentro allan aton ni.

“Yn Nhregaron, roedd pobol yn gallu cerdded allan i’r pentref o’r Eisteddfod, a dw i’n meddwl bod hynny’n gwneud gwahaniaeth.

“Felly ro’n i’n meddwl fysa ni wedi bod yn lot prysurach nag oedden ni gan ein bod ni wedi trefnu i gael gwahanol fandiau ymlaen.

“Roedd hi’n iawn, ond ddim yn wych.

“Dw i ar y ffens.

“Ond roedd hi’n braf gweld cymaint o bobol o gwmpas y lle a bod yr Eisteddfod wedi dod yma.”