Mae rhiant eisiau gweld diogelwch Maes B yn gwella wedi i rywun gerdded dros babell ei merch tra’u bod nhw’n cysgu.

Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yr wythnos ddiwethaf oedd y tro diwethaf i Mia Hughes fynd i Maes B.

Dywedodd ei mam, Heather Hughes, bod ei merch wedi “dychryn am ei bywyd”, a bod y ferch wedi gorfod cysgu ym mhabell ffrind ar ôl hynny gan fod y babell wedi’i difrodi hefyd.

Mae mwy nag un person wedi bod yn cwyno am ymddygiad pobol ifanc ym Maes B ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae’n drist oherwydd hen oedd y tro cyntaf i fy merch gael mynd i Faes B ac ar y noson olaf (nos Sadwrn, Awst 12) digwyddodd hyn,” meddai Heather Hughes, sy’n byw yn Llanfairpwll ar Ynys Môn, wrth golwg360.

“Roedd hi’n dweud bod o’n ofnadwy.

“Roedd hi’n cysgu, a’r peth nesaf roedd rhywun ar ei phen hi.

“Dydy hi ddim callach faint o hogiau gerddodd dros y babell.

“Roedd hi’n dweud ar un noson arall, y noson gyntaf, roedd pabell un o’i ffrindiau eraill wedi cael ei thorri.”

Ychwanega Heather Hughes ei bod hi’n “bechod” fod pobol ifanc yn cael profiadau fel hynny yno.

“Iddi hi, rŵan dyna mae hi am gofio, fydd hi ddim eisiau mynd eto. Dydw i ddim yn dweud, efallai bydd hi wedi newid ei meddwl erbyn blwyddyn nesaf ond ar y funud, na,” meddai.

‘Angen ychydig mwy o ddiogelwch’

Mae Heather Hughes eisiau rhoi rhyddid i’w merch, ond mae hi’n cwestiynu diogelwch Maes B.

“Fy mhrif bwynt ydy rydym yn gorfod gadael y plant fynd a chael rhyw fath o ffydd,” meddai.

“Mae hi’n troi’n 17 oed fis Hydref felly hwn ydy’r tro cyntaf iddi gael mynd ben ei hun felly, mae o’n bechod oherwydd does dim angen iddyn nhw gael y profiadau yma.

“I hyn ddigwydd mae’n dangos bod nhw ddim yn saff a bod angen ychydig bach mwy o ddiogelwch.

“Dydyn ni fel rhieni ddim eisiau iddyn nhw golli cael rhyddid, oherwydd mae’n bwysig.

“Dw i bendant yn meddwl y dylai’r Eisteddfod gael mwy o ddiogelwch.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan yr Eisteddfod.