Lowri Mair Jones o Bontypridd yw enillydd Tlws y Cerddor eleni, a chafodd ei hanrhydeddu mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn Mawr ar ddiwrnod olaf Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan ddydd Sadwrn (Awst 12).
Y dasg eleni oedd cyfansoddi darn wedi’i ysbrydoli gan alaw / alawon gwerin Cymreig, a gymer hyd at wyth munud i’w berfformio gan offeryn unawdol a chyfeiliant gan un i bedwar offeryn.
Y wobr yw Tlws y Cerddor (Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru) a £750 er cof am Tecwyn Ellis gan Valerie Ellis, Bangor a’r teulu.
Y beirniaid yn chwilio am ddau beth
Y beirniaid oedd Pwyll ap Siôn, Angharad Jenkins a Guto Pryderi Puw.
“Roeddem fel beirniad yn chwilio yn bennaf am ddau beth,” meddai Pwyll ap Siôn wrth draddodi’r feirniadaeth.
“Yn gyntaf, darn oedd yn arddangos gwreiddioldeb o ran sain, arddull, a synwyrusrwydd cerddorol, gan ddangos awydd i ddefnyddio’r alaw neu alawon fel sail yn unig – sbardun ar gyfer darn o gerddoriaeth cwbl newydd a gwreiddiol yn hytrach na threfniant syml.
“Ac yn ail, fod y darn buddugol yn adlewyrchu’r cyfnod rydan ni’n byw ynddi heddiw – darn cyfoes na allai fod wedi cael ei ysgrifennu gan gyfansoddwr hanner canrif neu hyd yn oed chwarter canrif yn ôl.
“Allan o’r deg ymgais a ddaeth i law, roedd nifer yn ticio’r bocs cyntaf (h.y., ‘gwreiddioldeb’), ond llai at ei gilydd yn llwyddo i greu darn oedd yn adlewyrchu sain y presennol.
“Yn wir, roedd na gryn amrywiaeth rhwng cyfansoddiadau oedd yn fwy ‘Clasurol’ eu naws a rhai mwy cyfoes, gyda dylanwad genres gwerin/cyfoes, jazz diweddar, cerddoriaeth ffilm, ambient, a chyfyrddiadau minimalaidd i’w clywed yn y cyfansoddiadau mwyaf gwreiddiol.”
‘Lisa Lân’ gan Mr Myiagi
“Dyma ddod at y cystadleydd olaf, sef ‘Lisa Lân’ gan Mr Myiagi ar gyfer cello unawdol i gyfeiliant ffidil a phiano,” meddai Pwyll ap Siôn wedyn.
“Dyma ddarn sy’n hoelio’r sylw o’r dechrau.
“Clywir harmonïau o’r byd jazz yng nghordiau agoriadol y piano.
“Nid sain jazz traddodiadol, fodd bynnag, ond un mwy cyfoes, yn awgrymu dylanwad ffigyrau megis Herbie Hancock, Keith Jarrett a Gwilym Simcock.
“Dyma gyfansoddwr sydd â chlust harmonig dda ond eto sy’n hapus i aros yn yr un lle cyn belled â bod y gerddoriaeth yn caniatáu hynny.
“Rhoddir awgrym o’r gân werin ‘Lisa Lân’ ar y dechrau, cyn ei dyfynnu’n llawn yn yr adran ganol yn rhan y cello.
“Ceir defnydd diddorol o gyfeiliant yn rhan y ffidil — offeryn sydd fel arfer yn cymeryd y brif alaw — ond yma mae’n cael ei defnyddio i greu patrymau ostinato effeithiol, gwrthgyferbyniol.
“Mae yna sain trawiadol, unigryw yn perthyn i gyfansoddiad Mr Myiagi, ac ar ôl clywed nifer o geisiadau yn mynd ati i ddefnyddio nifer fawr o alawon, braf clywed trefniant sy’n canolbwyntio ar un yn unig.
“Mae ymdriniaeth Mr Myiagi o ‘Lisa Lân’ wedi ei wreiddio yn y cyfnod rydan ni’n byw ynddo yn hytrach nag mewn arddull oedd yn berthnasol flynyddoedd yn ôl – dyma’r math o gerddoriaeth fyddai’n gweddu ar gyfer ar gyfer raglenni radio Georgia Ruth a’r cerddor jazz amryddawn Tomos Williams, gyda chyffyrddiadau genres cyfoes megis ambient, lounge, a chilled out wedi eu plethu gyda sain jazz minimalaidd.
“Ar ôl cryn drafod a phwyso a mesur cytunwyd yn unfrydol mai’r enillydd am eleni fydd Mr Myiagi.”
Yr enillydd
Ganed Lowri Mair Jones ym Mhontypridd, a chafodd ei gwersi offerynnol cyntaf pan oedd hi yn Ysgol Gynradd Pont Siôn Norton.
Bu’n ffodus iawn i ddysgu’r piano, ffidil a thelyn.
Tra roedd hi yn Ysgol Gyfun Rhydfelen daeth i ddechrau cyfansoddi am y tro cyntaf, a ffeindiodd ei phasiwn am gerddoriaeth glasurol yng ngherddorfa’r Pedair Sir, ac yn ddiweddarach, Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru.
Fe aeth i Brifysgol Manceinion i astudio gradd mewn cerddoriaeth, ac arhosodd yno i wneud cwrs Meistr mewn cyfansoddi.
Ar ôl graddio, gweithiodd fel telynores broffesiynol yn ardal Manceinion, a chwaraeodd gyda nifer o gerddorfeydd a grwpiau proffesiynol, yn ogystal â phriodasau a digwyddiadau.
Symudodd yn ôl i Gymru i weithio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, cyn gweithio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd.
Yn 2008, symudodd i weithio i’r diwydiant teledu, ac ar ôl peth amser yn gweithio i gwmni teledu annibynnol, dechreuodd swydd yn y BBC yn 2011.
Hi oedd yn cydlynu cystadlaethau mawreddog cenedlaethol y ‘BBC Young Musician’ a’r ‘BBC Young Jazz Musician’, yn ogystal â’r ‘BBC Young Dancer’.
Mae wedi gweithio ar amryw o gynyrchiadau eraill i’r BBC, fel Canwr y Byd, Proms in the Park, yr Eisteddfod Genedlaethol, Glastonbury a llawer mwy, ac ar hyn o bryd, mae hi’n Rheolwr Cynhyrchu yn Adran Addysg BBC Cymru.
Mae hi’n aelod o Gôr Godre’r Garth, yn mwynhau canu ac, yn achlysurol, yn canu’r ffidil.
Mae’n mwynhau mynd i gigs, a gwrando ar gerddoriaeth o bob math.
Mae hi wedi troi yn ôl at gyfansoddi yn ddiweddar iawn, ac yn edrych ymlaen at greu mwy o gerddoriaeth yn y dyfodol.
Mae hi’n ddyledus ac yn ddiolchgar iawn i Patrick Stephens, Bethan Roberts, Lowri Phillips, Carl Darby ac Eira Lynn Jones.