Mae Llinos Angharad Owen, sy’n Bennaeth Datblygu yn y gogledd ar gyfer Tir Dewi, yn dweud mai cael ei derbyn i’r Orsedd yw’r “pinacl” iddi.

Dywed fod cael derbyn y gwahoddiad yn “anrhydedd”, a hithau wedi’i gwobrwyo am ei gwaith yn codi arian at elusennau ac ym myd amaeth hefyd.

Maw hi wedi gwneud cryn dipyn o waith yn y byd amaeth, a thros elusennau hefyd.

“Cefais fy urddo i’r orsedd oherwydd fy mod yn gweithio i elusen Tir Dewi, elusen sy’n cynorthwyo a helpu ffermwyr a’u teuluoedd efo gwahanol broblemau, a hefyd fy mod i wedi bod yn gweithio efo Heddlu’r Gogledd ar brosiect arloesol o ran diogelwch y we, a hefyd y gwaith rwy’ wedi bod yn gwneud efo Cneifio Gelert.

“Fi wnaeth sefydlu Cneifio Gelert, cystadleuaeth cneifio ar ein ffarm ni yn Beddgelert.

“Rydym yn mynd ers pum mlynedd.

“Rydym wedi codi llawer o arian i wahanol elusennau – Prostate Cymru, Ysbyty Gwynedd, Ward Alaw Gwynedd; Ward y Plant, yr Ysbyty Ambiwlans Awyr, Tir Dewi, DPJ, Tîm Achub Mynydd ac Uned Adferiad Strôc newydd yn ysbyty Eryri yng Nghaernarfon.”

‘Sioc’

Roedd Llinos Angharad Owen dan deimlad wrth gael ei hurddo, meddai, a chafodd “sioc” wrth dderbyn y llythyr yn ei gwahodd i’r Orsedd.

“Mae’r Orsedd yn mynd ers blynyddoedd, on’d ydy,” meddai Llinos Angharad Owen wrth golwg360.

“Mae o’n rhan o ddiwylliant Cymru, mae o’n rhan o’r Eisteddfod.

“Mae o’n binacl o beth sy’n digwydd, ac yn rhoi cydnabyddiaeth i Gymry, beth mae’r Cymry’n ei wneud i helpu a chodi ymwybyddiaeth o bethau.

“Mae o’n braf cael cydnabyddiaeth.

“Mae o’n anrhydedd cael gwahoddiad i ymuno efo’r Orsedd am y gwaith mae rhywun yn ei wneud.

“Cefais sioc pan gefais y llythyr yn dweud fy mod yn cael fy urddo.

“Roeddwn yn teimlo’n reit emosiynol, ond roedd rhaid i mi ddal yr emosiwn yna’n ôl.

“Roedd yn seremoni urddasol braf, gwnes i fwynhau yn ofnadwy.”