Mae ysgoloriaeth newydd sbon wedi’i lansio gan YesCymru er cof am y chwaraewr rygbi a sylwebydd chwaraeon Eddie Butler.

Cafodd ei lansio ar Faes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ym Moduan.

Ymhlith y gynulleidfa ym Mhabell y Cymdeithasau roedd Nell, merch Eddie Butler, a Rachel, ffrind i’r teulu.

Mae darlith flynyddol wedi’i sefydlu yn ei enw hefyd, lle bydd llefarydd ifanc yn cael eu gwobrwyo am ysgrifennu a chyflwyno’r araith orau dros annibyniaeth.

Yn ogystal ag edrych ar yr elfennau sy’n gwneud araith lwyddiannus, roedd tipyn o hwyl i’w chael yn ystod y cyflwyniad wrth i’r siaradwyr gwadd, yr economegydd Rhys ap Gwilym, a phrif weithredwr Yes Cymru Gwern Gwynfil fynd ben-ben â’i gilydd mewn cystadleuaeth areithio o dan arweiniad y cadeirydd Phyl Griffiths.

Dywed Yes Cymru eu bod nhw’n “ddiolchgar iawn i deulu Ed am eu cefnogaeth”, ac yn diolch yn arbennig i Nell am deithio o Fryste i fynychu’r lansiad yng nghwmni Rachel.

Bwriad Ysgoloriaeth Eddie Butler fydd dathlu a datblygu’r genhedlaeth nesaf o lefarwyr talentog.

Mae Yes Cymru’n annog athrawon a disgyblion ysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion (14 i 21 oed) i gysylltu am ragor o fanylion cyn mynd ati i greu areithiau angerddol, clyfar ac ysbrydoledig.