Mae Rheolwr Addysg Gymunedol Genedlaethol y Groes Goch yn dweud ei bod hi’n hollbwysig bod deunydd y mudiad yn ddwyieithog, fod addysg yn cael ei rhoi yn yr “iaith briodol” a bod staff ar eu stondin yn yr Eisteddfod naill ai’n siarad Cymraeg neu’n dysgu.

Mae’r Groes Goch yn cynnig nifer o wasanaethau a chyfleodd i wirfoddoli, ac ymhlith y meysydd maen nhw’n gweithio ynddyn nhw mae’r gymuned leol a ffoaduriaid.

Mae’r Groes Goch yn addysgu ynghylch pam fod pobol yn mudo i’r wlad hon o wledydd eraill, ac maen nhw hefyd yn cynnig hyfforddiant cymorth cyntaf.

Yr iaith Gymraeg a’r Groes Goch

Yn ôl Dafydd Beech, Rheolwr Addysg Gymunedol Genedlaethol y Groes Goch, mae’n hanfodol bwysig fod gwasanaeth Cymraeg ar gael yn yr Eisteddfod a thrwy’r flwyddyn.

“Mae o’n hollolbwysig i’r Groes Goch gael deunydd dwyieithog,” meddai Dafydd Beech wrth golwg360.

“Mae gennym staff a gwirfoddolwyr wythnos yma sydd yn siarad Cymraeg neu’n dysgu’r Gymraeg.

“Os ydym yn rhoi gwasanaeth i rywun sydd mewn creisis, er enghraifft rhywun hŷn sy’n byw gartref ar eu pen eu hunain, mae’n bwysig i’r unigolion yna gael y gwasanaeth yn yr iaith fwyaf pwysig iddyn nhw, ac yr un fath os ydyn yn addysgu mewn ysgolion.

“Os mae mewn ysgol Gymraeg rydym yn meddwl ei fod yn bwysig bod nhw’n cael yr addysg yna yn yr iaith fwyaf priodol iddynt.”

Cynrychioli a hyrwyddo

Ym marn Dafydd Beech, gan fod y Groes Goch yn helpu pobol fregus, mae’n bwysig cael cynrychiolaeth yn yr Eisteddfod.

“Fel mudiad sydd yn delio gyda phobol mewn creisis, rydym yn ei weld yn bwysig, a llawer o fudiadau eraill, bo ni yma’n cynrychioli’r Groes Goch a chynrychioli beth rydym yn gwneud mewn cymunedau lleol, a sôn am y gwasanaethau sydd ar gael a’r cyfleoedd sydd ar gael,” meddai.

“Mae pobol yn gallu, yn y cymunedau lleol er enghraifft, gwirfoddoli a helpu pobol eraill, hwyrach, sydd yn yr un sefyllfa â nhw neu mewn sefyllfa creisis yn y gymuned.

“Rydym yma i hyrwyddo gwirfoddoli fel bod gan bobol gyfle i helpu pobol eraill mewn cymunedau.

“Rydym yma i hyrwyddo gwasanaethau eraill sydd gennym ar gael.

“Er enghraifft, rwy’ i’n gweithio i’r adran addysg.

“Mae gennym staff a gwirfoddolwyr wythnos yma sydd o wahanol adrannau o’r Groes Goch, er enghraifft rhai sy’n gweithio efo ffoaduriaid, rhai sy’n gweithio yn y cymunedau lleol ac yn y blaen.

“Mae’n gyfle i ni fel mudiad ddangos pa help sydd allan yna yn lleol i bobol.”

Gwasanaethau

Mae gan y Groes Goch nifer eang o wasanaethau sy’n helpu ansawdd bywyd pobol, ac maen nhw hefyd yn addysgu.

“Mae gennym wasanaethau sy’n helpu pobol yn y cartref,” meddai Dafydd Beech wedyn.

“Mae gennym wasanaethau sy’n helpu ffoaduriaid a phobol sydd wedi symud o wledydd eraill i fan hyn.

“Rwy’n gweithio yn yr adran addysg, felly fy ngwaith i ydy gweithio efo tîm o staff a gwirfoddolwyr gwych sydd yn rhoi addysg allan yn y cymunedau, ysgolion a materion.

“Cymorth Cyntaf: sut i helpu pobol sydd mewn sefyllfa argyfwng.

“Rydym yn addysgu pobol am pam fod pobol yn mudo a symud o wlad i wlad.

“Rydym hefyd yn gwneud gweithgareddau am unigrwydd, a hefyd gweithgareddau am sut i edrych ar ôl ein hunain, self-kindness math o beth.

“Mae gennym becynnau newydd ar gael wythnos yma sydd ar gael yn y Gymraeg i bobol wneud ychydig o hunangaredigrwydd adref ar ben eu hunain.”

  • Am ragor o wybodaeth ynghylch pa wasanaethau sydd gan y Groes Goch yn eich ardal leol chi, a pha gyfleoedd sydd i wirfoddoli yn eich ardal leol, ewch i https://www.redcross.org.uk.