Mewn sgwrs ar Faes yr Eisteddfod, mae Cadeirydd dros dro’r BBC wedi dweud na fyddai wedi gallu dod i ben gyda phwysau gwaith y mis diwethaf pe na bai am gydweithwyr yn y gorfforaeth.
Roedd Elan Closs Stephens, gafodd ei phenodi’n Gadeirydd dros dro ym mis Mehefin, yn sgwrsio gyda Dewi Llwyd ym Mhabell y Cymdeithasau, mewn sesiwn o’r enw ‘Y BBC yng Nghymru – Canrif o Ddarlledu’.
Dywedodd yn ystod y sgwrs fod Elin Jones, Llywydd Senedd Cymru, wedi galw draw i roi cyngor iddi unwaith y cafodd y newyddion am ei phenodiad ym mis Mehefin ei gyhoeddi gyntaf yn The Financial Times.
“Fe ges i bregeth am dderbyn pob cymorth posib i ddod i ben i wneud y gwaith,” meddai.
“Dw i’n hynod o ddiolchgar iddi am y cyngor.
“Yn ystod y mis diwethaf, oni bai fy mod wedi pwyso yn drwm ar bobol yn BBC Cymru… ac yn Llundain, byddwn i ddim wedi medru dod i ben. Roedd y pwysau yn ystod y mis diwethaf, yn anarferol. Ro’n i angen popeth.
“Y cyngor arall ydi – os ydych chi’n methu â gwneud dim byd ynglŷn â rhywbeth, peidiwch â phoeni. Does dim pwynt poeni am bethe sydd y tu allan i’ch gofal chi.
“Dw i ddim yn un ar y cyfan sy’n poeni.
“Dw i’n poeni os ydw i’n gwneud rhywbeth yn aflêr – fydda i yn mynd allan o’r babell yma ac yn poeni a ydw i wedi rhoi gwerth awr i chi ynte ddim, ond o ran poeni am rywbeth brawychus… Ond os nad yw o fewn f’amgyffred i’w wneud o, yna dw i’n cysgu reit dda.”
Mae swyddogion y BBC wedi gorfod wynebu craffu’r wasg yn gyson ers bron i fis, oherwydd honiadau ysgytwol a gafodd eu gwneud yn The Sun ynglŷn ag ymddygiad un o’u prif gyflwynwyr newyddion.
Rhy brysur i gadw dyddlyfr
Roedd Elin Jones, Llywydd y Senedd, ei hun yn y gynulleidfa ac mi ofynnodd wrth Elan Closs Stephens a yw hi’n cadw dyddiadur neu gofnod dyddiol er mwyn cyhoeddi ei hatgofion un diwrnod.
Dywedodd ei bod hi’n rhy brysur i gofnodi ei bywyd ar hyn o bryd.
Dydy Elan Closs Stephens ddim yn bwriadu aros yn y swydd am flwyddyn – bydd hysbyseb am swydd Cadeirydd y BBC yn ymddangos yn fuan.