Mae elusen wedi cael nawdd i achub dwy eglwys ganoloesol yng Nghymru rhag dadfeilio.
Mae’r Friends of Friendless Churches wedi cael £769,309 gan Gronfa Henebion Treftadaeth Cenedlaethol i achub a thrwsio dwy eglwys sydd mewn peryg difrifol o ddadfeilio yn llwyr.
Y ddwy yw Sant Lawrens, Gumfreston, ger Dinbych-y-Pysgod, a Sant Iago, Llangiwa yn Sir Fynwy.
Mae’r elusen yn cynnal a chadw 29 o eglwysi eraill drwy Gymru a 29 yn Lloegr.
Ymhlith y rhai yng Nghymru mae eglwys Llanfaglan ger Caernarfon ac Eglwys Llangynhaearn ym Mhentrefelin, ger Cricieth.
Caeodd eglwys Gumfreston ei drysau yn 2021, a chafodd ei dynodi’n eglwys ‘mewn peryg’ y llynedd.
Mae hi’n drwch o iorwg, a lleithder wedi gwneud difrod i’r muriau a’r lloriau, ac yn bygwth hen baentiadau canoloesol.
Er mwyn achub, rhaid i’r elusen ail-doi’r holl adeilad, a gosod system ddraenio a dŵr glaw newydd.
Dechrau’r gwaith yn Llangiwa
Caeodd eglwys Llangiwa ei drysau yn 2020, ac mae ei nenfwd pren o’r bymthegfed ganrif mewn peryg o ddymchwel.
Bydd y gwaith adfer yn golygu trwsio’r gwaith coed a defnyddio gwaith dur i gynnal meini’r to.
Mae hen gysylltiad dwfn rhwng eglwys Llangiwa ac elusen Friends of Friendless Churches.
Yn 1954-5 mi wnaeth sylfaenydd yr elusen, Ivor Bulmer-Thomas, fynd ati i adfer yr eglwys er cof am ei warig ifanc, a fu farw ar ôl rhoi genedigaeth.
Sefydlodd yr elusen dair blynedd wedyn a bu’n gyfrifol am ailadeiladu eglwys Sant Andrew’s yn Llundain a oedd wedi ei dinistrio yn y rhyfel.
Achubodd a helpodd i achub cannoedd o eglwysi yn ei oes.
“Mae’r ddwy eglwys hardd yma yn Gumfreston a Llangiwa yn etifeddiaeth artistig ac ysbrydol a roddwyd i ni gan genedlaethau dirifedi,” meddai Rachel Morley, cyfarwyddwr y Friends of Friendless Churches.
“Mae eglwys Llangiwa mae wedi chwarae rhan ganolog ym mudiad cadwraeth treftadaeth modern Prydain.
“Rydym wrth ein bodd ein bod ni, trwy’r gefnogaeth hon gan y Gronfa Henebion Treftadaeth, yn gallu achub y ddwy eglwys hyn a’u hamddiffyn am genedlaethau i ddod.”