Mae Camp Cymru wedi’i lansio heddiw (dydd Iau, Awst 10) ar Faes yr Eisteddfod gan Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, a’r Aelod Dynodedig Siân Gwenllian.

Y bwriad yw dod ag artistiaid, pobol greadigol ac aelodau o’r gymuned LHDTC+ ynghyd i drafod y celfyddydau cwiar Cymraeg yng Nghymru.

Mae’n rhan o Gynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru a’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, ac mae wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Bydd yn edrych ar rôl y gymuned LHDTC+ yn hanes celfyddydau Cymru, a bydd digwyddiadau a pherfformiadau yn digwydd dros y Maes.

Daw’r prosiect pum mlynedd wedi i Mas ar y Maes gael ei sefydlu yn 2018.

Rhannu hanesion y gymuned LHDTC+

Dywed Hannah Blythyn fod cynrychiolaeth LHDTC+ wedi dod ymhell ers ei dyddiau hi yn yr ysgol, ond bod ffordd bell i fynd o hyd.

“Pan oeddwn i’n tyfu i fyny yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac yn yr ysgol, roeddwn i’n ei weld o’n anodd fel rhywun swil yn eu harddegau i fynd i’r afael gyda rhywioldeb,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n teimlo weithiau fel bod ein hawliau’n wynebu’r risg o gael eu tynnu’n ôl.

“Er ei bod hi’n bwysig i adlewyrchu a dathlu pa mor bell rydym wedi dod, allwn ni ddim bodloni.”

Dywed fod Camp Cymru “yn gyfle i ddweud hanesion celfyddydau LHDTC+ yng Nghymru”.

“Am amser hir, mae’r cymunedau yma wedi cael eu cuddio o’n hanes,” meddai.

“Mae’r celfyddydau yn gallu hybu cysylltu gyda phobol mewn ffordd dydy gwleidydd yn rhoi araith ddim yn gallu ei wneud.”

Cymru’n arwain y ffordd

Yn ôl Siân Gwenllian, mae’r Cenhedloedd Unedig wedi rhoi cydnabyddiaeth i’r cynllun gweithredu, gan ddweud ei fod yn arfer dda o gefnogi’r gymuned.

“Mae o’n dangos bod gwlad ni’n gallu bod yn gwbl arloesol ac yn groesawgar a’n gallu arwain y ffordd yn y byd,” meddai wrth golwg360.

“Mae o’n hollbwysig oherwydd mae yna deimlad weithiau ein bod ni fel Cymry Cymraeg ddim yn cael y cyfle i fynegi ein hunain.

“Mae yna deimlad weithiau, os ydych chi’n hoyw dydych chi ddim yn gallu bod yn wir ddryw i’ch hunain ag yn gwbl agored.

“Felly, mae dod â’r ddau beth yn wych ag yn arwydd wir ein bod ni’n datblygu i fod yn fwy a fwy cynhwysol.”

Er hynny, mae hithau hefyd yn cyfaddef bod ffordd bell i fynd o ran dileu anghydraddoldeb.

“Dydw i’n sicr ddim eisiau goddef hynny ac mae angen gweithredu’n benodol er mwyn dileu’r math yna o anghydraddoldeb,” meddai.

“Mae digwyddiadau fel Mas ar y Maes a Camp Cymru i gyd yn rhan o hynny, er mwyn ceisio cael gwared ar y stigma a’r rhagfarn.”