Rheolwr ac arweinydd chwarae Clwb Carco yng Nghaerdydd sydd wedi ennill gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2023.

Cafodd yr enillydd ei gyhoeddi mewn digwyddiad ar Faes yr Eisteddfod ym Moduan.

Mae’r wobr, sy’n cael ei threfnu gan Gofal Cymdeithasol Cymru, yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith y rhai sydd wedi gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobol trwy ddarparu gofal a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r wobr flynyddol yn cydnabod y rhai sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chydweithredol yng Nghymru.

Gall y wobr gydnabod siaradwyr Cymraeg rhugl, siaradwyr newydd neu’r rheiny sydd â rhywfaint o Gymraeg; y peth pwysig yw eu bod nhw’n defnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith gyda’r bobol maen nhw’n gofalu amdanyn nhw.

Y rownd derfynol

Eleni, cafodd pum unigolyn eu dewis o bob rhan o Gymru ar gyfer rownd derfynol y wobr gan banel o feirniaid arbenigol.

Cafodd yr enillydd, Ross Dingle, ei ddewis drwy bleidlais gyhoeddus, gyda mwy na 2,250 o bobol yn pleidleisio.

Cafodd Ross Dingle ei enwebu ar gyfer y wobr gan Jane O’Toole, Prif Weithredwr Clwb Plant Cymru Kids’ Club, am ei waith yn datblygu ansawdd chwarae ac ethos Clwb Carco, sy’n rhedeg saith clwb gofal plant cyfrwng Cymraeg y tu allan i’r ysgol yn y de.

Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gyhoeddodd yr enillydd, a chafodd y tlws ei gyflwyno gan Mick Giannasi, cadeirydd Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi llongyfarch yr enillydd.

“Mae gallu derbyn gofal a chefnogaeth gan rywun sy’n gallu siarad eich iaith yn rhan bwysig o dderbyn gofal urddasol, o ansawdd uchel,” meddai.

“Mae’r wobr eleni wedi rhoi enghreifftiau gwych i ni o weithwyr ysbrydoledig ac ymroddedig sy’n darparu gofal rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg, ac maen nhw’n adlewyrchu’r gwahaniaeth gwerthfawr a chadarnhaol y gall darparu gofal a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg ei wneud i fywydau pobol.”