Mae Mark Drakeford yn edrych ymlaen at dreulio mwy o amser yn canolbwyntio ar ei ddiddordebau pan fydd ei amser yn y Senedd yn dod i ben, meddai wrth golwg360.
Ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddoe (dydd Mercher, Awst 9), dywedodd nad yw’n rhagweld y bydd yn sefyll fel Aelod o’r Senedd yn etholiadau’r Senedd yn 2026.
Dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi cystadlu ar lwyfan Eisteddfod unwaith o’r blaen, yn Eisteddfod yr Urdd Llanrwst 1968.
“Os bydd cyfleoedd i ddod i ail-gystadlu, bydd e ar ôl hanner canrif ers y tro cyntaf,” meddai wrth golwg360.
“Pan dydw i ddim yn gwneud y gwaith rydw i’n ei wneud nawr, dw i’n edrych ymlaen at gael y cyfle i wneud mwy o bethau ble mae diddordeb gyda fi.
“Mae’r cwestiwn wedi codi mwy nag unwaith heddiw am ganu mewn côr ac mae lot o ddiddordeb gyda fi i wneud hynny.”
‘Nifer o bosibiliadau newydd’
Yn ôl y Prif Weinidog, mae ei lwyth gwaith yn golygu na all ymrwymo’n llwyr i’w ddiddordebau ar hyn o bryd.
“Os wyt ti yn ei wneud e, mae’n rhaid i chi fod yn ddibynadwy,” meddai.
“Mae’n rhaid troi lan bob wythnos i ymarfer, i fod ar gael pan mae cyngerdd yn cael ei drefnu ac yn y blaen.
“Yn y gwaith rydw i’n ei wneud heddiw, dydy hynny ddim yn bosib, â dweud y gwir.
“Felly, ar ôl y gwaith, pwy sy’n gwybod? Mae yna nifer fawr o bosibiliadau newydd.”
Bu i’r Prif Weinidog fynychu ei Eisteddfod gyntaf yn Eisteddfod yr Urdd Caerfyrddin, 1967.
“Wrth gwrs, yn tyfu i fyny yng Nghaerfyrddin yn y 60au, roedd Eisteddfodau gyda chi bob blwyddyn felly mae e wedi bod yn rhan o ‘mhrofiad i,” meddai.
“Mae’n unigryw, cyfle i bobol sy’n siarad Cymraeg i gael y diwrnod i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae hynny’n eithaf anodd i greu mewn byd lle mae Saesneg o’n cwmpas ni i gyd.”
“Llwyddiant” y Cytundeb Cydweithio
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru tua hanner ffordd drwy eu Cytundeb Cydweithio tair blynedd gyda Phlaid Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn credu bod y cynllun wedi eu galluogi i gyflawni mwy ar lawr y Senedd, a gwneud “beth mae pobol Cymru eisiau i ni wneud”.
“Dw i’n meddwl ei fod o wedi llwyddo trwy wneud pethau gyda’i gilydd, yn enwedig y pethau heriol fel yn y maes ail-gartrefi ac yn y blaen,” meddai.
“Mae cydweithio yn heriol hefyd, mae’n cymryd lot o amser ac mae’n rhaid i chi fuddsoddi yn y berthynas ac yn y blaen.
“Ond trwy wneud e fel yna mewn Senedd lle [mai] dim ond 30 allan o 60 o seddi sydd yn nwylo’r Llywodraeth, gallwch chi fwrw ymlaen i ddeddfu, i greu cyllid bob blwyddyn.
“Felly, dw i’n edrych ymlaen at barhau gyda’r cytundeb a gwneud y gwaith y tu ôl i’r penderfyniadau gyda’n gilydd.”