Bydd menter newydd yn ceisio dod â mwy o Gymraeg i’r sgwrs am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae Llais wedi creu partneriaeth gyda’r Urdd, Merched y Wawr, Mudiad Ysgolion Meithrin a Mudiad Ffermwyr Ifanc er mwyn helpu i lunio gwasanaethau yn y maes.

Fe fydd y sefydliadau’n cydweithio i greu mwy o gyfleoedd i gasglu barn unigolion drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws gwahanol gymunedau er mwyn gwella’r iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r fenter yn rhan o genhadaeth Llais i sicrhau deialog agored rhwng y cyhoedd, y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, a darparwyr gwasanaethau.

‘Cydnabod amrywiaeth ieithyddol’

“Mae sefydlu partneriaeth o’r fath rhwng y sefydliadau cenedlaethol hyn yn cydnabod amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol Cymru a’i harwyddocâd wrth lunio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol,” meddai’r Athro Medwin Hughes, cadeirydd Llais, mudiad sydd eisiau sicrhau’r gwasanaethau iechyd a gofal gorau posib i bobol.

“Sefydlwyd Llais i fod yn gorff annibynnol cynhwysol sy’n gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo hawliau a disgwyliadau pobol sy’n byw yn ein cymunedau ledled Cymru ac mae’r bartneriaeth hon yn ymgorffori’r agwedd hon.

“Edrychaf ymlaen at fwy o ddatblygiadau fel hyn yn y misoedd nesaf.”

Clywed lleisiau ifanc

Ychwanega Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, eu bod nhw’n falch o’r cyfle i sicrhau bod lleisiau pobol ifanc am gael eu clywed wrth fireinio iechyd a gofal cymdeithasol.

Dywed Mared Rand Jones, Prif Weithredwr Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru, fod “gwrando ar leisiau amrywiol ein haelodau ar draws Cymru yn bwysig, yn enwedig wrth ystyried materion iechyd a gofal amrywiol yn ein cymunedau gwledig”.

Yn ôl Gwenllian Lansdowne, Prif Weithredwr y Mudiad Meithrin, mae sicrhau cyfleoedd i ganfod barn unigolion sy’n ymwneud ag iechyd a lles datblygiad blynyddoedd cynnar plant yn bwysig iddyn nhw.

“Dyna pam mae cydweithio gyda Llais yn bwysig,” meddai.

“Edrychwn ymlaen at ddatblygu partneriaeth a fydd yn darparu cyfleoedd pellach i gydweithio.”