Mae Hunaniaith: Menter Iaith Gwynedd yn newid!
Ers 2009, mae Hunaniaith-Menter Iaith Gwynedd yn rhan o Gyngor Gwynedd, ond ymhen ychydig fisoedd bydd endid newydd yn cymryd yr awenau.
Bellach, mae cwmni newydd o’r enw Menter Iaith Gwynedd wedi’i gofrestru o dan ofal unarddeg o wirfoddolwyr, a bydd staff yn symud o weithio i’r awdurdod i’r fenter newydd dros y misoedd nesaf.
Pwrpas y newid ydy creu menter sydd wedi’i gwreiddio yng nghymunedau Gwynedd, a hynny er mwyn cefnogi unigolion, cymdeithasau, mentrau a grwpiau o bob math i ddefnyddio mwy o Gymraeg.
Bydd Menter Iaith Gwynedd yn cael ei lansio ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd heddiw (dydd Iau, Awst 10) am 4yp ar stondin Cyngor Gwynedd.
Newid ar y gweill “ers cryn amser”
Yn ôl y Cynghorydd Menna Trenholme, yr Aelod Cabinet dros Gefnogaeth Gorfforaethol ar Gyngor Gwynedd, fe fu’r newid ar y gweill “ers cryn amser”.
“Rydym yn diolch i Dafydd Iwan, cyn-gadeirydd grŵp strategol Hunaniaith, am ei weledigaeth am sut y byddai cael Menter Iaith annibynnol yn gwneud gwahaniaeth o ran cynyddu defnydd iaith yn y sir,” meddai.
“Rydym yn hynod o falch o’r gwirfoddolwyr sydd wedi dod ynghyd i sefydlu’r fenter newydd, mae yna ystod eang o brofiad ar y grŵp arweiniol newydd a hyderwn fel awdurdod y bydd Menter Iaith Gwynedd yn gwneud gwaith rhagorol yn cynyddu defnydd y Gymraeg yn ein cymunedau ar draws y sir.”
Bydd y fenter newydd yn canolbwyntio ar gynyddu defnydd y Gymraeg yng nghymunedau Gwynedd, drwy sicrhau cydweithio a chyd-gynllunio pwrpasol gyda mudiadau eraill a thargedu cynulleidfaoedd amrywiol cymunedau gyda negeseuon penodol fydd yn cynnig llwybr clir i bawb ddefnyddio mwy o Gymraeg.
‘Cymunedau, Perthyn, Pawb’
“Defnyddiwn y geiriau Cymunedau, Perthyn a Pawb i grynhoi ein gweledigaeth,” meddai Iwan Hywel, Pen Swyddog Menter Iaith Gwynedd.
“Rydym am i’r Gymraeg ffynnu ymhob cymuned yng Ngwynedd; i wneud hyn rhaid i ni gryfhau’r ymdeimlad o berthyn at yr ardal, ac at yr iaith, a hynny ymysg pawb sy’n byw yma, magu’r ymdeimlad hwn fydd yn cryfhau teyrngarwch at yr iaith ac yn sicrhau ei dyfodol.
“Rydym angen creu llwybr clir i bob unigolyn, cymdeithas, menter gymunedol neu glwb i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau a gweithgarwch.”
Cafodd grŵp arweiniol newydd Menter Iaith Gwynedd ei sefydlu haf diwethaf, yn dilyn hysbysebu’n agored.
Mae unarddeg o unigolion ar y grŵp arweiniol, yn dod o bob cwr o Wynedd ac wedi neidio ar y cyfle i fod yn rhan o’r fenter newydd, hynny oherwydd eu bod nhw eisiau gwneud gwahaniaeth.
“Rydym i gyd yn gweld a chlywed y shifft ieithyddol sy’n digwydd yma yng Ngwynedd, mae llai o Gymraeg yn cael ei siarad yn gymdeithasol rŵan nag erioed o’r blaen, hynny am amrywiol resymau,” meddai’r cadeirydd newydd Gareth Thomas.
“Rydym am bwysleisio i bawb bod y darn hwn o dir yn perthyn i’r Gymraeg, a bod y Gymraeg yn gallu perthyn i bawb; rhaid i ni wneud i bobol fod eisiau defnyddio’r Gymraeg.”