Mae Cynghrair Strategol newydd wedi’i chyhoeddi rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Nod y Gynghrair yw gwella’r cyfleoedd cydweithio a chynyddu traweffaith gadarnhaol dros sawl maes gweithgaredd er budd i Gymru.

Bydd y Gynghrair Strategol yn cael ei lansio’n ffurfiol mewn digwyddiad ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan heddiw (dydd Iau, Awst 10) am 1.30yp.

Mae’r rhaglen waith yn canolbwyntio ar bedwar prif faes:

  • Datblygu a rhannu sgiliau’r gweithlu
  • Arloesedd digidol a seilwaith digidol
  • Cwricwlwm ac adnoddau addysgol
  • Datblygu ymchwil a’r casgliadau

Mae’r partneriaid eisoes yn cydweithio ar gyfres o brosiectau ymchwil, addysg ac ymgysylltu drwy Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, gan gynnwys prosiectau hirdymor fel Y Bywgraffiadur Cymreig a’r cynllun arloesol i gyd-gyhoeddi A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes c.800-c.1800, gafodd ei lansio gan y Prif Weinidog Mark Drakeford mewn cynhadledd arbennig y llynedd.

Llofnododd yr Athro Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a’r Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor y Prifysgolion, y Memorandwm Cytundeb rhwng y sefydliadau ar gampws Llanbed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Llambed mewn cyfarfod arbennig fis Gorffennaf.

‘Mwy o aliniad o arbenigedd, profiadau ac adnoddau’

“Er bod hanes hir o’r sefydliadau’n cydweithio, yn enwedig ym maes ymchwil, bydd y Gynghrair Strategol newydd hon yn sicrhau mwy o aliniad o arbenigedd, profiadau ac adnoddau fel y gall ein sefydliadau cenedlaethol fynd i’r afael â materion economaidd, ymchwil, addysgol, dinesig a chymdeithasol ehangach,” meddai Ashok Ahir, Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol.

Yn ôl yr Hybarch Randolph Thomas, cadeirydd y Prifysgolion, “datblygwyd y Gynghrair Strategol o fewn fframwaith y Siartrau Brenhinol a strwythurau llywodraethiant y sefydliadau”.

“Fel sefydliadau cenedlaethol, rydym yn benderfynol o sicrhau bod ein gwerthoedd craidd wrth wraidd ein cynllunio a’n darpariaeth strategol,” meddai.

‘Perthynas glos, hynod bwysig’

“Dyma sefydlu perthynas glos, hynod bwysig rhwng dau o brif sefydliadau Cymru sy’n rhannu gwerthoedd sylfaenol ac yn gosod cydraddoldeb, tegwch, amrywedd a chynwysoldeb mynediad a chyfle wrth wraidd eu gweledigaeth, cenhadaeth a strategaethau, gan flaenoriaethu cefnogaeth i bobl o bob cefndir, profiad ac amgylchiadau a chael gwared ar rwystrau i gyfranogiad,” meddai’r Athro Pedr ap Llwyd.

“Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda chydweithwyr yn y Brifysgol ac i’n cydweithrediad fynd o nerth i nerth.

“Gyda’n gilydd mi fedrwn ni wasanaethu pobol Cymru yn well.”

Dywed yr Athro Medwin Hughes fod yna “aliniad strategol clir rhwng gwerthoedd craidd y sefydliadau sy’n cynnig cyfle sylweddol i adeiladu partneriaeth gynaliadwy newydd a chyffrous, wrth i’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddod yn bartner strategol o fewn strwythur conffederal Prifysgol Cymru”.

‘Gwireddu amcanion strategol yn fwy effeithiol’

“Bydd y Gynghrair Strategol hon yn caniatáu i’n sefydliadau wireddu ein hamcanion strategol yn fwy effeithiol, trwy weithio ar fodel arloesol ar gyfer cydweithredu sydd hefyd yn ychwanegu gwerth mewn cyfnod economaidd heriol,” meddai’r Athro Elwen Evans CyB, Darpar Is-Ganghellor.