Er mwyn cael pobol ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol, mae angen gwneud yr iaith yn berthnasol iddyn nhw, yn ôl cynghorydd sir yng Ngwynedd.

Er mwyn ceisio cynyddu nifer y bobol ifanc sy’n defnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Prosiect15 Cyngor Gwynedd wedi bod yn cynnal gweithgareddau a chystadlaethau ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan eleni.

Ar stondin Mentrau Iaith Cymru, mae Prosiect15 wedi bod yn cynnal cystadleuaeth dweud jôc, a’i recordio, gyda chyfle i ennill £20.

Yn ystod yr wythnos hefyd, fe fu cystadleuaeth gwneud fideo ar wahanol themâu, gyda thair gwobr o £45 i’w hennill.

Mae jôcs a fideo’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol Prosiect 15.

I annog pobol i gystadlu, mae’r cyflwynydd Ameer Davies-Rana wedi bod ar stondin Mentrau Iaith Cymru, stondin Cyngor Gwynedd ac yn crwydro’r Maes a Maes B.

“Rwy’n awyddus iawn i weld mwy o bobol ifanc yn defnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol, ac felly yn falch iawn o gael fy ngwahodd i gydweithio gyda Prosiect 15 yn yr Eisteddfod eleni,” meddai’r cyflwynydd a pherchennog 1Miliwn.

Yn ogystal â chystadlaethau ddoe (dydd Iau, Awst 10), roedd sesiwn banel ‘Merched sy’n ysbrydoli’ hefyd, gyda’r Cynghorydd Beca Brown yn holi tair o ferched llwyddiannus, sef Alwen Williams, cyfarwyddwr portffolio Uchelgais Gogledd Cymru; Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn; ac Angharad Gwyn, perchennog cwmni Adra/Home.

Prosiect15

Mae’r sesiwn i’w gweld ar dudalennau Prosiect15, sy’n defnyddio’r rhif 15 fel sylfaen i gynnal gweithgareddau sy’n trafod y byd a’i bethau.

Y nod yw cael trafodaeth fywiog, gyhoeddus ar-lein drwy gyfrwng fideos ac unrhyw gynnwys digidol arall.

Yn ôl y Cynghorydd Craig ab Iago, sylfaenydd Prosiect 15, mae pobol ifanc yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol drwy’r Saesneg oherwydd bod y rhan fwyaf o fyd y cyfryngau cymdeithasol trwy gyfrwng y Saesneg.

“Dydy pobol ifanc ddim yn defnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol yn aml, oherwydd bod 99.99% o stwff cyfryngau cymdeithasol yn Saesneg o America neu Loegr,” meddai wrth golwg360.

“Rydym yn erbyn rhywbeth mawr, a dydyn ni ddim yn gwneud digon i ddarparu stwff.

“Mae byd cymdeithasol pobol ifanc i gyd yn Saesneg, on’d ydi?”

Yn ôl Craig ab Iago, mae Cymry Cymraeg wedi cyfrannu llawer at y byd ac wedi byw bywydau diddorol, ac mae angen dathlu hyn drwy Prosiect15.

“Holl bwynt y Prosiect15 ydy gwneud y stwff yna, dangos heb bregethu, heb sôn am yr iaith, jyst dangos i bobol bod yna fywydau, bod yna straeon diddorol, emosiynol, ysbrydoledig Cymraeg,” meddai.

“Ers cychwyn y prosiect, mae wedi bod yn crazy gweld y math o bobol sydd yn siarad Cymraeg a’r bywydau maen nhw wedi’u cael, ac maen nhw’n siarad Cymraeg.

“Rydym angen dathlu hynny, beth rydym yn cyfrannu i’r byd a beth rydym wedi cyfrannu ers blynyddoedd.

“Rwy’ wedi gwneud y gwaith i mewn iddo a chymharu fo efo gwledydd eraill.

“Fesul pen ein poblogaeth, rydym wedi cyfrannu llawer mwy na Lloegr.

“Mae yna filiynau ohonyn nhw.

“Mae yna dim ond tair miliwn ohonom ni.

“Os ti’n gweld yr effaith rydym wedi cael ar y byd, ac yn aml iawn yn effaith bositif, rydym mor llwyddiannus.

“Dydyn ddim yn dathlu fo, dydyn ddim yn sôn amdano.

“Dyna’r neges rydym angen ei chael drosodd, ac yn aml iawn mae’n cymryd rhywun fel Hollywood star i ddod o’r tu allan i Gymru a gweld, “Oh my God! Mae’r rhain efo rhywbeth i’w gynnig”.

“Rydym angen dathlu fo.

“Rydym angen gweld hynny, dim disgwyl am bobol o’r tu allan.

“Mae Prosiect15 yna i helpu ni i hybu’n bywydau ni, a phaid â disgwyl am bobol o’r tu allan, felly gwneud hynny mewn ffordd bositif, ffordd cŵl, dim pregethu.

“Dyna’r syniad.”

Beth sydd ei angen ar Prosiect15?

Yn ôl Craig ab Iago, mae brand a chynnwys yn bwysig, ac mae cystadleuaeth fawr efo brands sydd efo llawer o arian.

Os ydy’r Llywodraeth am weld Miliwn o Siaradwyr Cymraeg, meddai, mae angen iddyn nhw fuddsoddi mwy.

“Beth rydym ei angen efo Prosiect15, rydym angen gosod y brand er bod rhai pobol yn dweud nad ydy brand yn bwysig,” meddai.

“Mae brand yn hynod o bwysig.

“Ti angen y content, a ti angen y brand.

“Ti angen y ddau er mwyn gwneud o’n berthnasol i fywydau pobol.

“Rydym yn cystadlu yn erbyn brands efo llawer o arian.

“Beth rydym ei angen er mwyn gwneud hynny? Rydym angen buddsoddiad.

“Rydym angen i’r Llywodraeth weld, mae Cyngor Gwynedd yn buddsoddi yn hyn mewn amseroedd lle rydym yn gorfod ffeindio arian, rydym ni’n gorfod torri bob blwyddyn, miliynau a miliynau bob blwyddyn rydym yn gorfod ei ffeindio i’w dorri.

“Yn fy marn i, dylai’n Llywodraeth ni gyfrannu, bod yn rhan ohono fo a chyfrannu llawer mwy.

“Os ydyn ni o ddifri am greu siaradwyr, Miliwn o Siaradwyr, rydym angen gwneud pob dim posib yn y maes cymdeithasol, a dim jyst canolbwyntio ar ysgolion.

“Byswn yn hoffi dim jyst y Llywodraeth ond pawb, pwy bynnag sydd eisiau dathlu’r iaith, dathlu siaradwyr, rydym angen parhau i gyfrannu.”

‘Gwneud yr iaith yn cŵl’

Yn ôl Craig ap Iago, mae’n gweld pêl-droed Cymru’n enghraifft dda o sut y gall y Cymry a gweddill y byd weld bod hunaniaeth, iaith a ffordd o fyw’r Cymry yn “cŵl”.

“Mae o’n cŵl yn barod yn fy marn i,” meddai.

“Rwy’n 53, felly beth rwy’n gwybod amdano fo?

“Ei wneud o fel mae o’n berthnasol i fywyd pobol ifanc.

“Maen nhw’n siarad yr iaith fel iaith maen nhw’n ei siarad oherwydd bod o’n naturiol iddyn nhw ei siarad.

“Rydym angen darparu pethau cŵl sy’n berthnasol i’w bywydau nhw.

“Enghraifft rili da o hynna ydy beth mae Wrecsam a phêl-droed Wrecsam a’r FAW wedi’i wneud.

“Maen nhw wedi creu diwylliant a hunaniaeth Gymraeg, Gymreig sy’n cŵl.

“Mae pobol o gwmpas y byd yn gweld bod o’n cŵl.

“Mae pobol eraill o’r tu allan i Gymru yn gweld bod o’n cŵl.

“Dyna’r math o bethau rydym angen eu gwneud, creu stwff a dangos bod pobol Gymraeg yn cŵl, bod hunaniaeth Gymraeg yn cŵl, ein bod ni bobol Gymraeg yn byw bywydau diddorol, cyffrous, arloesol, emosiynol gymaint ag y maen nhw yn Saesneg neu mewn unrhyw iaith arall.

“Yn aml iawn, pan maen nhw’n gweld pobol Gymraeg yn siarad am eu bywydau cŵl nhw a’u bywydau diddorol nhw a bob dim, fel yna maen nhw’n clywed o drwy’r Saesneg.

“Yn aml iawn, ar hyn o bryd rwy’n clywed stwff, wedyn ti’n clywed, ‘O, maen nhw actually yn siarad Cymraeg’, ond ti’n clywed y stori trwy’r Saesneg.

“Rydym angen newid hynny.

“Rydym angen buddsoddi ynddo fo, arian ac adnoddau, os ydym o ddifri amdano fo.”

  • Am fwy o fanylion cysylltwch â uned iaith Cyngor Gwynedd ar (01286) 679452 iaith@gwynedd.llyw.cymru neu dilynwch Prosiect 15 ar Facebook, Trydar ac Instagram.