Mae’r ddigrifwraig Kiri Pritchard-McLean yn dweud bod ei phrofiad cyntaf o fynd i’r Eisteddfod Genedlaethol wedi newid ei bywyd.

Mae hi’n dysgu Cymraeg ers dipyn bellach, ac mae hi hyd yn oed wedi troi ei llaw at gomedi yn Gymraeg ar lwyfan erbyn hyn.

Ar Faes yr Eisteddfod ym Moduan, dywed iddi gael ei thywys “ym mynwes yr athrawes orau sydd, Maggi Noggi”.

A hithau wedi’i magu ar Ynys Môn, dywed iddi gael ei hamddifadu o’r iaith yn blentyn.

‘Fel pe bai wedi bod yn aros amdana i erioed’

“Rydych chi’n synhwyro fod yna bethau rydych chi’n colli allan arnyn nhw, ond allwn i ddim bod wedi dychmygu faint yn union tan i mi ymweld â’r Eisteddfod eleni,” meddai mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Does dim modd ei ddisgrifio,” meddai wedyn wrth geisio dweud wrth ei dilynwyr beth yn union yw’r Eisteddfod.

“Gŵyl yn rhannol, gŵyl fwyd yn rhannol, gofod oriel yn rhannol, gŵyl werin yn rhannol, sioe dalent yn rhannol, a’r cyfan yn Gymraeg.

“Ces i fy syfrdanu faint o bobol a sefydliadau ro’n i’n eu hadnabod, faint o fusnesau bach dw i’n eu caru oedd yno, ac er nad oeddwn i wedi bod o’r blaen roedd yn teimlo fel pe bai wedi bod yn aros amdana i erioed, mewn ffordd.

“Mae’n ofod wirioneddol hudolus.”

‘Tristwch’

Serch hynny, mae’n cyfaddef iddi deimlo teimladau cymysg am na chafodd hi fagwraeth Gymraeg.

“Wir i chi, mi dreuliais i’r diwrnod cyntaf yn symud rhwng chwerthin a llawenydd a thristwch.

“Roeddwn i’n drist na ches i hyn yn fy magwraeth – byddwn i wedi bod wrth fy modd.

“Ond, fel y ces i fy atgoffa gan Tudur Owen, mae o gen i rŵan.

“Gall yr Eisteddfod fod yn eiddo i minnau hefyd, ac fel cynifer o bethau dw i wedi dod ar eu traws nhw ar fy nhaith iaith Gymraeg, dw i wedi sylweddoli pan fydda i’n barod amdani, mi fydd hi’n fy nghroesawu’n gynnes.

“O ie, mi wnes i stand-yp yn Gymraeg hefyd, ac er cymaint roeddwn i wrth fy modd, dw i’n meddwl bod y straen o’i wneud o wedi tynnu ryw bedair blynedd oddi ar fy mywyd.”