Albwm cyntaf Pedair, Mae ‘Na Olau, sydd wedi ennill teitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2023

Pedair yw prosiect diweddaraf y cantorion gwerin Siân James, Gwyneth Glyn, Gwenan Gibbard a Meinir Gwilym.

Mae’r albwm yn cynnwys sawl cân werin draddodiadol, ynghyd â chaneuon gwreiddiol megis ‘Dawns y Delyn’ ac ‘Iaith’.

Cyrhaeddodd naw albwm y rhestr fer, gan gynnwys casgliadau gan Adwaith, Fleur de Lys, Rogue Jones a Cerys Hafana.

Gobaith yw un o brif themâu’r record hon, gyda Pedair yn ein hatgoffa trwy eu caneuon cynnil fod harddwch i’w ganfod ym mhob cornel o’n byd.

Ymddangosodd y pedair ar y cyd yng nghyngerdd agoriadol yr Eisteddfod, ‘Y Curiad’, gyda chôr gwerin yr ŵyl ddydd Sadwrn diwethaf (Awst 5).

Eisteddodd panel o feirniaid, gan gynnwys Iwan Teifion Davies, Marged Siôn, Gwenno Roberts, Mirain Iwerydd, Dom James, Dafydd Hughes ac Aneirin Jones, i gyd-wrando ar yr albymau cyn pleidleisio am eu ffefryn.

Derbyniodd yr enillwyr dlws gafodd ei gomisiynu’n arbennig ar gyfer y wobr.

Mae’r wobr, sy’n cael ei threfnu gan yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC Radio Cymru, yn dathlu’r cymysgedd eclectig o gerddoriaeth Gymraeg gafodd eu recordio a’u rhyddhau dros y flwyddyn ddiwethaf.

PEDAIR gyfarwydd yn goleuo’r ffordd

Barry Thomas

“Mae gan Meinir Gwilym gwch erbyn hyn ac mi rydan ni i gyd yn edrych ymlaen am drip!”