Mae lle i ofyn a yw Eisteddfod wyth diwrnod “yn rhy hir”, meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol mewn sgwrs ar y maes heddiw (dydd Gwener, Awst 11).
Wrth sgwrsio am strategaethau ar gyfer eisteddfodau’r dyfodol, dywedodd Betsan Moses fod rhaid ystyried y gost o gynnal yr ŵyl.
Daw hyn wrth iddyn nhw lansio ‘Y Sgwrs’, fydd yn rhoi cyfle i bobol a sefydliadau roi eu barn am sut mae pethau ar hyn o bryd, a syniadau ar gyfer y dyfodol.
Fel rhan o’r sgwrs ym Maes D, pwysleisiodd Betsan Moses na fydd dim yn newid cyn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn 2024.
‘Gwydnwch ariannol’
Costiodd yr Eisteddfod £6.7m eleni, ac wrth gael ei holi am gynaliadwyedd ariannol yr ŵyl, dywedodd y Prif Weithredwr fod gwydnwch ariannol “yn flaenoriaeth” iddyn nhw.
“Rydyn ni’n ymwybodol pan ddaeth Covid ein bod ni wedi colli nifer o wyliau, a hynny oherwydd mi oedd y realaeth o’r modd oedden ni’n gorfod rhoi cytundebau at ei gilydd,” meddai.
“Mae pethau mae’r Bwrdd wedi’i wneud oedd rhaid i ni edrych ar yr arian wrth gefn, ar ddiwedd y dydd rydyn ni’n fusnes.
“Cyn y Nadolig, bydd rhaid cael trafodaethau anodd iawn.
“Mi oedd y costau yn cynyddu’n sylweddol, ar un pwynt roedd yna filiwn ychwanegol roedd rhaid i ni wneud arbedion yn eu cylch.
“Mae yna sgyrsiau gyda gwyliau eraill fel ein bod ni’n cydweithio fel ein bod ni’n gallu edrych ar gytundebu ar y cyd er mwyn gwneud i’r bunt fynd ymhellach.
“Ond hefyd o ran costau Eisteddfod, mae’n £6.7m y flwyddyn ond eto i gyd o fewn yr wythnos ei hun mae yna 22.7m o hwb i’r economi leol, dyw hynny ddim yn ystyried y ddwy flynedd yn arwain fyny.”
‘Rhywbeth i edrych arno’
Iwan Griffiths oedd yn cadeirio’r panel oedd yn cynnwys Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg; Melanie Owen; Helen Prosser, cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod 2024; a chadeirydd y pwyllgor gwaith ar gyfer Eisteddfod eleni, Michael Strain.
Aeth Iwan Griffiths yn ei flaen i holi a oes peryg i’r Eisteddfod fynd yn rhy fawr.
“Mae yna sgwrs wrth gwrs – a ydy wyth diwrnod yn rhy hir?” meddai Betsan Moses wrth ateb.
“Os ydych chi’n edrych ar y modd rydyn ni’n llogi, mae yna realaeth o bythefnos achos mae’r llogi’n digwydd ar gyfnod o hyd at saith niwrnod.
“Mae hwnna’n rhywbeth mae’r bwrdd yn mynd i orfod edrych arno, fydd e ddim yn weithredol ar gyfer Rhondda Cynon Taf ond mae e’n rhywbeth mae’n rhaid i ni edrych arno.
“Mae yna reswm pam bod nifer o wyliau hyd at bum diwrnod.”
Y farn ar y Maes
Mewn cynhadledd i’r wasg wedyn, dywedodd Gwenllian Carr, llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol, fod sgwrs i’w chael ar y mater, gan ychwanegu ei bod hi’n bosib fod rhai stondinwyr yn ei chael hi’n anodd bod i ffwrdd o bencadlysoedd eu busnesau am ddau benwythnos.
Dywedodd Sam, sy’n berchen ar fusnes Crysau-Ti yng Nghaerdydd, ei fod yn ei gweld hi’n wythnos hir fel stondinwr.
“I fel stondinwr ydy mae e’n hir, dw i wedi blino nawr felly i fi mae wyth diwrnod bach yn ormod,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n credu bod e’n neis cael yr opsiwn dod mewn a mas a chynnig i bawb allu gwneud e dros bythefnos mewn ffordd, ond i fi, dw i wedi cael digon nawr.”
Er hynny, dywedodd ambell stondinwr arall eu bod nhw’n hapus â hyd yr Eisteddfod fel ag y mae hi, a’i bod hi’n rhoi digon o gyfle iddyn nhw werthu cynnyrch.
“Yn fy marn i dw i’n meddwl bod wyth diwrnod yn iawn, mae’n rhoi cyfle i ni siarad gyda’n cwsmeriaid ni a rhoi mwy o amser i ni werthu’n cynnyrch,” meddai Llŷr o fusnes canhwyllau Milltir Sgwâr.
Ychwanegodd Anwen Jenkins o gwmni Ani-bendod, ei bod hi’n meddwl bod wyth diwrnod yn “lyfli”.
“Mae’n gyfle i bobol sy’n gweithio i ddod unrhyw ddiwrnod sy’n siwtio nhw.”
Roedd Einir o Abersoch yn aelod o’r pwyllgor apêl lleol, a dywed ei bod hi’n braf cael wythnos gyfan i werthfawrogi eu gwaith, ond awgrymodd ei bod hi’n deall yr apêl o gael gŵyl fyrrach.
“Fel un sydd wedi bod yn rhan o baratoi at yr Eisteddfod ar y pwyllgor ardal a ballu, dw i ddim yn meddwl ei fod o [ry hir], rydyn ni wedi gweithio mor galed.
“Ond mae rhywun yn gwywo erbyn diwedd yr wythnos.
“Yn digwydd bod, mae hynny wedi bod yn ryw gymhelliad bach i fod yn rhan o’r seithfed diwrnod, neu fel arall ella fysa chdi’n aros adre.”
Roedd yna ambell un yn gobeithio am Eisteddfod hirach, hyd yn oed.
“Dw i ddim yn meddwl bod o’n ddigon â dweud y gwir, mae yna gymaint o bethau i’w gwneud yma,” meddai Elfed Wyn ap Elwyn, sy’n gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd.
“Dw i’n meddwl y dyla fo fod yn bythefnos o ŵyl, dw i’n meddwl bod rhai o’r diwrnodau cyntaf yn cael eu neilltuo i siarad efo pobol rydych chi’n eu hadnabod.”
Dywedodd Gwenda, cyn-athrawes o Lanfairpwll nad yw hi’n “rhy hir beth bynnag”.
“Fyswn i’n licio hi ychydig bach hirach o’r oed dw i ynddo fo rŵan,” meddai.
“Dw i’n mwynhau bob eiliad o bob math o gerddoriaeth a phob math o gystadlaethau yn y pafiliwn hefyd.”