Gyda thair wythnos i fynd tan i ni gael clywed pwy sydd wedi ennill Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni, dyma gyfle i daro golwg ar y naw albwm sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni.

Bwriad y wobr, gaiff ei threfnu ar y cyd gyda BBC Radio Cymru, yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei rhyddhau yng Nghymru ar hyn o bryd.

Bu panel o feirniaid sy’n rhan o’r diwydiant cerddoriaeth yn dewis a dethol eu hoff gynnyrch, gan bleidleisio am eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses.

Y beirniaid eleni oedd Iwan Teifion Davies, Marged Siôn, Gwenno Roberts, Mirain Iwerydd, Dom James, Dafydd Hughes ac Aneirin Jones.

Caiff enw’r enillydd ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn Mawr am 3.30yp ddydd Gwener, Awst 11.

Y rhestr fer

Cafodd y rhestr fer ei chyhoeddi ar raglen Huw Stephens ar BBC Radio Cymru neithiwr (nos Iau, Gorffennaf 20).

Dyma’r rhestr fer yn llawn, a manylion yr artistiaid isod.

@golwg360

Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Albwm y Flwyddyn 2023 ! 🙌 Gyda thair wythnos i fynd tan i ni gael clywed pwy sydd wedi ennill Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn, dyma gyfle i ni gyd fynd ati i ail-wrando ar yr albymau 💿 #tiktokcymraeg

♬ original sound – golwg360

Adwaith – Bato Mato (Libertino Records)

Wedi llwyddiant Adwaith yn cipio’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2022 am eu hail albwm, Bato Mato, mae’r albwm hefyd ar restr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni. Gyda’r merched o Gaerfyrddin yn brysur yn teithio Cymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt roedd disgwyl eiddgar i glywed sut y byddent yn dilyn eu halbwm cyntaf, Melyn. Daeth ‘Eto’ yn un o anthemau fwyaf 2022, cyn i Bato Mato ein syfrdanu gyda chymysgedd iach o alawon bachog, curiadau trymion ac agwedd pync.

Avanc – YN FYW (Live) (Avanc)

Dyma Avanc, ensemble pwerus o gerddorion talentog sydd yn ymgynnull i adleisio hen arferion Cymreig gyda sŵn modern, cryf, a brwdfrydig. Mae’r albwm, sydd wedi’i recordio’n fyw o Celtic Connections, yn ein cludo i berfformiad iasol sy’n dangos eu gallu i blethu’r hen a newydd. Yn llif eu halawon a dirgelwch y geiriau mae Avanc – YN FYW (Live) nid dim ond yn dangos cryfder llais pobl ifanc Cymru, ond hefyd yn gipolwg i mewn i ddyfodol llewyrchus y traddodiad gwerinol.

Cerys Hafana – Edyf (Annibynol)

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Cerys Hafana wedi ailgyflwyno’r delyn deires i genhedlaeth newydd, gyda safbwynt ac agwedd arbrofol i chwarae’r offeryn traddodiadol hwn. Gyda’i hail albwm, Edyf, ehangodd Cerys Hafana ei chwmpas offerynnol gan gynnwys adrannau llinynnol a phres ar y cyd â churiadau rhythmig i greu cywaith sonig arloesol. Amhosib yw hi i wahanu llais swynol y gantores o Fachynlleth rhag ei llinellau telynegol ar y delyn deires – maent yn bwydo ar ei gilydd ar y record hon i greu sainlun trawiadol ac unigryw.

Dafydd Owain – Uwch Dros y Pysgod (Recordiau I KA CHING)

Yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd Cymru fel aelod o Eitha Tal Ffranco, Jen Jeniro, Palenco ac Omaloma, Uwch Dros y Pysgod yw albwm unigol cyntaf Dafydd Owain. Mewn casgliad o ganeuon acwstig mae’r cerddor amryddawn yn mynd â gwrandawyr ar daith i bentref ffuglennol Uwch Dros y Pysgod i gwrdd â’i thrigolion. Ar y record hon meistrolwyd y grefft o adrodd stori gan Dafydd Owain gyda geiriau chwareus ynghyd â gweadau tyner. Gyda dylanwadau’n amrywio o americana i seicedelia, mae taith i’r pentref ffug yn siŵr o fod yn un i’w gofio.

Fleur De Lys – Fory Ar Ôl Heddiw (Recordiau Côsh)

Heb os yn un o fandiau prysuraf ogledd Cymru roedd disgwyl mawr i glywed sut byddai Fleur De Lys yn dilyn eu halbwm gyntaf hynod o lwyddiannus. Dychwelodd y rocers o Fôn a Morfa Nefyn gydag albwm llawn senglau llwyddiannus ac anthemau newydd, gyda’r grŵp eu hunain wedi cynhyrchu’r record y tro hwn. O’r gân brotest ‘Archfarchnad’ i’r dramatig ‘Hwyl Ti, Gymru’, mae Fory Ar Ôl Heddiw yn gasgliad â themâu aeddfetach wedi’u plethu’n berffaith gyda sain roc nodweddiadol y band.

Kizzy Crawford – Cariad y Tir (Sain)

Casgliad o alawon gwerin a thraddodiadol Cymreig wedi’u hail-ddehongli yw Cariad y Tir, albwm diweddaraf y gantores amryddawn Kizzy Crawford. Gyda naws acwstig i’r trefniannau newydd hyn, mae sawl alaw bellach hefyd i gyfeiliant curiadau Lladin-Americanaidd a De-Americanaidd. Heb os, dyma record sydd ag apêl fyd-eang, gyda dylanwadau amlddiwylliannol magwraeth y gantores yn llinyn cyswllt rhwng y caneuon. Yn fwy na dim, mae Cariad y Tir yn ddathliad o’r dreftadaeth Gymreig a Chymraeg roedd mor ganolog i Kizzy Crawford wrth dyfu fyny, ac yn llwyddo i roi tro cyfoes ar weithiau adnabyddus.

Pedair – Mae ‘Na Olau (Sain)

Pedair yw’r prosiect diweddaraf gan gasgliad o leisiau amlycaf canu gwerinol Cymru – Siân James, Gwyneth Glyn, Gwenan Gibbard a Meinir Gwilym. Yn plethu agweddau nodweddiadol o’u harddulliau unigol, maent eisoes wedi profi’u hunain fel un o grwpiau fwyaf poblogaidd Cymru. Ar eu halbwm cyntaf, Mae ‘Na Olau, mae harmonïau peraidd yn plethu gydag offeryniaeth gynnil wrth i’r pedwarawd gwerin gyflwyno alawon traddodiadol a gwreiddiol. Gobaith, heb os, yw un o brif themâu’r record hon, gyda Pedair yn ein hatgoffa drwy’u caneuon tyner bod prydferthwch i’w gael ym mhob cornel o’n byd.

Rogue Jones – Dos Bebes (Libertino Records)

Yn dilyn saib hir dychwelodd Rogue Jones, y ddeuawd gŵr a gwraig arbrofol o orllewin Cymru, gydag albwm o synau eang ac amgen. Clarinét, llinynnau, synth, gitarau trydan ac acwstig – mae Dos Bebes yn cyfuno offerynnau, arddulliau a themâu helaeth mewn record llawn ffraethineb a geiriau swreal. Y perthynas rhwng lleisiau Bethan Mai ac Ynyr Morgan Ifan sy’n ganolog i’r record, ar y cyd gyda’u trefniannau sinematig a chyfoethog. Gyda’r band yn disgrifio’r record fel “pop arallfydol”, mae Dos Bebes yn cludo gwrandawyr i fyd arall.

Sŵnami – Sŵnamii (Recordiau Côsh)

Dychwelodd Sŵnami i’r tonfeddi yn 2022 gyda dilyniant hir-ddisgwyliedig i Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2016 – Sŵnamii. Gyda senglau fel ‘Theatr’, ‘Be Bynnag Fydd’ ac ‘Uno, Cydio, Tanio’ yn addo sain newydd gan y grŵp o Feirionydd, dyma albwm sy’n dangos bod caneuon Sŵnami mor fachog ag erioed. Wedi dychwelyd at eu cynhyrchydd hirdymor, Rich Roberts, mae neges Sŵnami’n aeddfetach ar yr albwm hwn, gyda themâu o unigoliaeth a hunaniaeth yn ganolog i’r cyfanwaith.