Mae pedair o gantorion amlyca’r wlad newydd ryddhau eu halbwm gyntaf, ar ôl bod yn cyd-ganu ers pum mlynedd.

‘Pedair’ yw enw’r super group gwerin sy’n cynnwys Siân James, Gwenan Gibbard, Meinir Gwilym a Gwyneth Glyn, ac mae ‘na olau yw teitl eu casgliad cyntaf o ganeuon.

Bu’r pedair yn cyd-ganu ers 2017 ac yn perfformio ar y We dros y cyfnodau clo, ac maen nhw yn edrych ymlaen i gigio yn y cnawd dros yr Haf, a newydd fod yn Sesiwn Fawr Dolgellau.