Bob hyn a hyn mae Golwg yn codi’r wal dalu – pay wall – ar un o erthyglau’r cylchgrawn, i bawb gael blas ar yr arlwy…

Mae dylanwad un o chwaraewyr rhanbarth y Dreigiau yn mynd ymhell tu hwnt i’r cae rygbi.

Ers cael ei sbarduno gan y momentwm yn dilyn llofruddiaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau, mae Ashton Hewitt wedi herio hiliaeth yn llafar ac amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol, ac ymweld ag ysgolion i drafod yr heriau.

Mae’r asgellwr 27 oed o Gasnewydd wedi bod yn agored am ei brofiadau yntau gyda hiliaeth, ac yn benderfynol o godi ymwybyddiaeth am anghyfiawnderau cymdeithasol.

Rygbi sydd wedi rhoi’r platfform iddo herio’r hilgwn, meddai.

“Yn yr ysgol gynradd, doeddwn i ddim yn hoff iawn o rygbi,” meddai Ashton Hewitt.

“Roeddwn i wrth fy modd efo pêl-droed yn fwy na dim byd arall, ond fe wnes i drio lot o wahanol chwaraeon pan oeddwn i’n iau – athletau, pêl-fasged.. enwch gêm, ac roeddwn i’n hapus i’w drio.

“Ond wnaeth rygbi erioed apelio ata i, ond roedd un o fy athrawon yn yr ysgol gynradd yn erfyn arna i i chwarae, felly fe wnes i drio.

“Yn ystod fy ngêm gyntaf dros yr ysgol, cefais fy newis i chwarae i dîm Ysgolion Casnewydd heb syniad sut i chwarae rygbi, na beth oedd y rheolau.”

O’r fan honno, aeth o glwb i glwb yn ochrau Casnewydd, cyn cael cytundeb i chwarae rygbi yn broffesiynol gyda’r Dreigiau a chwarae i dîm dan 20 Cymru.

“Dw i wrth fy modd â phopeth am rygbi. Yr ysbryd cystadleuol – o wythnos i wythnos mae’n rhaid i chi fod y gorau y gallwch chi fod – a’r ffordd mae’n eich datblygu chi fel unigolyn.

“Rydych chi’n datblygu, ac yn gorfod datblygu, drwy’r amser er mwyn cwffio am eich lle.”

Aled Brew, yr asgellwr a chwaraeodd dros Gymru a’r Dreigiau, oedd un o ddylanwadau mawr Ashton wrth dyfu fyny.

“Roeddwn i’n gallu uniaethu ag e, roedd e’n ddyn ifanc du, rydyn ni’n chwarae’r un safle,” meddai Ashton.

“Doedd yna ddim llawer o ddynion ifanc, du yn chwarae rygbi nag yn role models amlwg ar gyfer y rhai oedd yn gwylio neu’n gobeithio bod yn chwaraewyr rygbi, felly roedd e’n rhywun y cefais fy nenu ato’n syth.

“Cefais i’r fraint o chwarae gydag e wedyn, oedd yn dda!”

Nid yw bywyd chwaraewr rygbi proffesiynol yn fêl i gyd, ac un o’r heriau mwyaf yw gorfod ymdopi gydag anafiadau.

“Dw i wedi cael llawer gormod o lawdriniaethau i rywun fy oed i. Dw i wedi cael cyfergydion sydd wedi golygu fy mod i allan o’r gêm am fisoedd ac mewn stad reit ddrwg.

“Dw i’n gwella o anaf sydd wedi golygu fy mod i wedi bod allan o’r gêm ers dros flwyddyn nawr, ac mae hi’n anodd oherwydd rydych chi’n teimlo’n ynysig weithiau gan nad ydych chi’n gallu bod gymaint o ran o’r tîm ag ydych chi wedi arfer bod, ac mae dod yn ôl i gystadlu eto yn lot o waith caled.”

Ond roedd yna adeg pan nad oedd Ashton yn sicr pa mor bell yr âi ei yrfa ym myd rygbi, ac yn syth ar ôl gadael y Chweched Dosbarth, aeth i Brifysgol De Cymru i astudio Troseddeg, Cyfiawnder Troseddol a Chyfiawnder Ieuenctid.

“Maen nhw wastad yn dweud pa mor bwysig ydy cael Plan B achos gall gyrfaoedd [rygbi] ddod i ben mewn eiliad, yn anffodus.

“Roedd gen i ddiddordeb yn y gwyddorau cymdeithasol a pham bod pobol yn gwneud be maen nhw’n ei wneud, a sut mae pobol yn cael eu trin yn wahanol yn dibynnu ar eu lle cymdeithasol-economaidd mewn cymdeithas.

“Rhan fawr ohono fe i fi oedd tyfu fyny mewn dinas lle mae’r safon byw yn wahanol o gymharu â’r safon ar gyrion y ddinas. Pan oeddwn i tua 15 oed fe wnes i symud i ysgol mewn ardal fwy cefnog, os liciwch chi, a’r peth mwyaf wnaeth fy nharo i oedd y gwahaniaeth yn y ffordd roedd pobol yn byw a’r mynediad oedd gan rai pobol at rai pethau.”

Er bod Ashton yn ymddiddori mewn chwaraeon eraill, ac yn treulio’i amser rhydd yn trio dod i licio golff ar y funud, mae’n debyg mai ei ddiddordeb pennaf yw cyfiawnder cymdeithasol.

Yn ogystal â thrafod hiliaeth ar y We, mi fydd yn ymweld ag ysgolion i siarad o brofiad.

“Dw i’n trio annog pobol i fod mor flaengar â phosib yn y ffordd maen nhw’n meddwl, a’u hannog nhw i ystyried pawb fel nad oes rhaid i unrhyw blentyn fynd drwy’r hyn wnes i orfod mynd trwyddo pan oeddwn i’n iau.”

Mae gallu dweud wrth berson ifanc sydd wedi profi hiliaeth nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain, ac nad nhw ydy’r broblem, yn rhoi tipyn o foddhad i Ashton.

“Dw i ddim wir yn gwybod faint o wahaniaeth dw i’n ei wneud i’r darlun mawr, ond pan ti’n mynd i ysgol i godi ymwybyddiaeth ynghylch sut mae pobol yn teimlo a sut maen nhw’n cael eu trin… Am wn i mai’r ffordd orau alla’i ddweud e, ydy ei fod e bron yn rhoi synnwyr o bwrpas i chi pan rydych chi’n teimlo eich bod chi wedi helpu rhywun.”

Mae gan Ashton radd Meistr mewn Adnoddau Dynol a Rheoli Busnes, ac yn ddiweddar mae’r cerddor Lemfrek ac yntau wedi sefydlu busnes sy’n rhoi eu cymuned nhw yng Nghasnewydd gyntaf.

Mae yna sawl cangen i frand Noctown – dillad, cerddoriaeth, cylchgrawn, a’r gangen gymunedol.

“Mae fy nghefnder [Lemfrek] – dw i’n dweud cefnder achos dw i’n ei adnabod e erioed ac mae e’n ffrind teulu agos iawn, dyw e ddim yn perthyn trwy waed ond waeth iddo fe fod yn deulu – yn gyfarwyddwr creadigol ac mae e’n dda iawn gyda chynhyrchu cerddoriaeth, cynnwys fideo, ac mae e wedi gweithio i frandiau mawr.

“Fe wnaethon ni siarad un diwrnod ac roedd e eisiau sefydlu rhywbeth oedd â’i ganolbwynt yn y gymuned.

“Lle cawsom ein magu, does yna ddim lot o fynediad i bobol ifanc weithio ymhob maes, felly’r nod ydy agor llwybr iddyn nhw allu mynd lawr trywydd creadigol.

“Mae [Noctown] yn ei gamau cyntaf ar y funud, ond wrth edrych ymlaen rydyn ni eisiau galluogi i blant greu cynnwys [creadigol], rhywbeth sy’n eithaf anodd i gael mynediad ato os nad ydych chi’n adnabod y bobol gywir.”

Cylchgrawn Golwg yn ddigidol ar y We

Os ydych chi eisiau darllen erthyglau cylchgrawn Golwg ar y We, ewch i fan hyn:

Tanysgrifiwch i Golwg a Golwg+ (360.cymru)